Skip to content
05/12/2010 / Rhodri ap Dyfrig

Edward 8bit a Chyfranogiad Ar-lein

Dwi am ddechrau defnyddio’r blog ma hefyd i amlygu enghreifftiau da o gyfranogiad ar-lein annibynnol yn y Gymraeg a ieithoedd bach/lleiafrifol eraill er mwyn casglu rhyw fath o gofnod. Felly i ddechrau dyma un cerddorol. Ma na gryn dipyn o gryfder yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg o’i gymharu â diwylliant digidol ehangach. Dyw diwylliant ar-lein annibynnol heb gael yr un math o genfogaeth a gweithgarwch poblogaidd a’r sin gerddorol. Mae mor braf gweld bandiau yn creu ac yn rhannu ar-lein. Ma label newydd-ish Amrwd yn gwneud job wych o ddefnyddio’r we i rannu deunydd a hyrwyddo eu cerddoriaeth. Dyma eu cynnyrch diweddaraf:

Mae wedi cael ei wneud mewn arddull ‘faux-chiptune’. Doedd gen i ddim clem be oedd chiptune tan i mi fynd ar Wikipedia, ond deall wedyn ei fod yn rhywbeth dwi’n gyfarwydd iawn a fo fel defnyddiwr ZX Spectrum brwd pan yn ifanc. Mwy o chiptunes ar wefan 8bc.

Mae’r cover o Breuddwyd Roc a Rol yn syfrdanol. Pryd ma’r dybstep remix?

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

*

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>