Siart fideos feiral Cymraeg 2010 gan fideobobdydd

Cofnod blog wedi ei groes-bostio o fideobobdydd.

Ryan: feiral fideo hen ysgol
Ryan: fideo feiral hen ysgol

Wel, sickness efallai bod ‘feiral’ yn pwsho hi braidd, ond mae’n siart o’r fideos sydd wedi cael y mwyaf o ymwelwyr ar fideobobdydd beth bynnag.

Falla bod o’n rhoi syniad go dda o ba fideos Cymraeg sydd wedi bod yn boblogaidd dros y 6 mis diwethaf ers i fideobobdydd fod yn mynd.

Oedd na rai da chi’n meddwl ddylia fod wedi cael mwy o sylw ond aeth yn angof?

Pa rai oedd eich ffefrynnau chi?

Da chi’n meddwl bod hwn adlewyrchiad da o fideos Cymraeg ar-lein?

Gadwch i fi wybod yn y sylwadau…

Yr 20 Uchaf am 2010

  1. Stori Branwen…wedi ei animeiddio gyda Lego
  2. “Y Llinell” ffilm parkour gan Gwion James a Jacob Prytherch
  3. “Cilmeri” gan Gerallt Lloyd Owen
  4. ContEnders – Y Cwilt
  5. “Pobol Y Cwm Audition Video” Dan Rhys
  6. Meic Stevens a Cate Le Bon – Bibopalwla
  7. “Stwffiwch y Dolig, ddim y twrci” gan SFA
  8. Huw yn “clocsio”
  9. “Eisteddfod (Ymerodraeth Carafan)” Catrin Dafydd yn Stomp 2010
  10. Clip anhygoel. John Peel yn cyflwyno Anrhefn, Y Cyrff a Datblygu a Raglen “The Tube” 1986
  11. Clasur comedi Nadolig: Gritto’r Hewl i Fethlehem
  12. TelisCymraeg.com
  13. Y C’mon Midffild Montage o ffycd
  14. “Eira” gan Gorky’s Zygotic Mynci
  15. Babi’n chwerthin llond ei fol
  16. Super Furry Animal a Chriw Pethau Bychain – “(Nid) Hon yw’r gân sy’n mynd i achub yr iaith”
  17. Chink yn Fic Penygroes
  18. “Gwlad ar fy Nghefn” gan Klaus Kinski
  19. “ADHD” gan Crash.Disco!
  20. Cofio “Now a Ned”, wel dyma 25 pennod ohono

Felly be ma hwn yn ddweud am fideos Cymraeg ar-lein?

Wel, da ni’n lecio comedi, cerddoriaeth, barddoniaeth a phetha c?l sydd wedi cael eu gwneud gan bobol ifanc neu unrhyw gyfuniadau o’r uchod. Dim syndod fan’na ta – heblaw am y barddoniaeth wrth gwrs, ond da ni’n od fel’na dydan.

Beth sydd ddim yna? Blogiau fideo, sdwff celfyddydol,  chwaraeon, petha mwy corfforaethol, ffilmiau dogfen, fideos ymgyrchu. Dydyn nhw jest ddim y math o bethau sy’n cael eu retweetio efallai, neu jest yn fwy niche o ran eu cynulleidfa. Yn sicr dydan ni ddim yn rhy wahanol i weddill y we o ran be sy’n denu gwylwyr.

O ran be sy’n gyrru traffig y fideos yma, does dim dwywaith na Twitter ydi’r brenin gan yrru 49% o draffig y wefan yn 2010. Mae Facebook yn ail, ond yn bell tu ôl gyda 18%;  chwiliadau Google am y wefan wedyn gyda 14% o’r traffig; a 9% yn dod yn uniongyrchol i’r dudalen hafan. Ond dwi’n amau bod lot o bobol yn gwylio’r fideos o fewn Facebook beth bynnag, felly fyddai’r ystadegau ddim yn dangos yma.

Y wers: os da chi’n blogio, gwneud fideos, neu wneud unrhywbeth sydd yn cynhyrchu ffrwd RSS, yna anfonwch nhw drwodd i Twitter a Facebook!

Mae Twitterfeed yn gwneud hyn i chi’n otomatig, ac am ddim – defnyddiwch o!

Pam bod yr un Lego mor boblogaidd?

Pam bod rhif 1 a 2 wedi cael cymaint o wylwyr? Dwi’n meddwl ei fod o i wneud efo rhwydweithiau’r bobol sydd wedi cynhyrchu’r fideos. Dwi’n eitha siwr bod Y Llinell a fideo Branwen/Lego wedi cael eu hyrwyddo lot ar Facebook. Ma na rhywbeth self-perpetuating hefyd am fod yn boblogaidd – y rheol Pareto neu 80/20 a’r predictable imbalance mewn dosbarthiad gweithgaredd, sef bod 80% o effeithiau yn dod gan 20% o achosion yr effeithiau hynny. Mae’r ffaith bod y fideos yna wedi ymddangos yn y rhestrau 5 uchaf misol wedi dod a rhagor o wylwyr, gan ailadrodd y gylchdro. Yn yr achos hwn mae’r ddwy fideo hyn yn cyfri am bron i 20% o argraffiadau tudalen fideobobydd am 2010.

A be nesa i fideobobdydd?

Y bwriad oedd cyflwyno, archifo, a hyrwyddo fideos Cymraeg a dwi’n credu ei fod wedi chwarae rhan fach mewn gwneud hynny. Gyda 11,191 o ymweliadau tudalen gan 2,973 o bobol wahanol, mae’n gwneud job weddol o hynny dwi’n meddwl. Bydda i’n cario mlaen i drio cael un bob dydd am y dyfodol agos, cyn belled nad ydi o’n troi mewn i ormod o waith, a dio ddim ar hyn o bryd.

O’n i hefyd isio creu ffordd o allu gwylio sianeli o fideos Cymraeg yn y dyfodol – mae categoriau a tags fideobobdydd yn galluogi hynna i ddigwydd gan y gallwch chi ddefnyddio RSS ar gyfer categoriau neu dagiau ar gyfer tynnu fideos drwodd i wefannau eraill. Mae o hefyd yn ffordd o wella tagio rhai fideos sydd heb eu tagio o gwbl.

Byddai’n dda gallu torfoli (crowd-source) peth o’r gwaith curadu rywsut, achos mae beth sy’n ymddangos ar fideobobdydd yn bownd o gael ei liwio gan fy nhâst personol i mewn fideos. Byddai’n wych gallu ffeindio ffordd syml iawn o adael i’r darllenwyr ychwanegu fideos gwahanol at y ffrwd.

Os oes unrhywun isio helpu, yna gadwch i fi wybod.

Gwersi i S4C gan ddiwedd 4IP?

Newydd ddod ar draws y gofnod blog hon gan y bobol tu ôl i Audioboo. Mae’n gwaredu diwedd 4IP, prostate ac yn rhoi ychydig feddyliau am yr arbrawf. Yn sicr mae yno wersi pwysig i S4C ac i’r sector os ydi S4C am fwrw mlaen gyda unrhyw fath o gronfa cynnwys digidol.

Dyma ddyfyniad:

4IP was ultimately badly led within an institution that didn’t understand its remit or appreciate the opportunity it could have seized. It tried to mimic a TV model of commissioners – sifting through the ‘best’ ideas and then attempting to untangle the politics of personalities, regional funding and pet projects to invest in them (disclosure – Audioboo was a pet project of Dan Heafwhen he was at C4 Radio. The only reason we got cash from 4IP was that he was shifted sideways to 4IP when that project closed down).

What 4IP should have done is liberally dispersed small amounts of cash to the most ridiculous ideas it came across and been proud when the majority of those ideas failed. £1k, £5k – heck even £30k – sent to digital lunatics without a business plan or ROI spreadsheet. True, public spirited, seed funding. Scattered widely in the hope one or two would grow strong. As, hopefully, Audioboo has.

Instead, they seemed to absorb the disturbingly conservative values of their parent company, declined to assert their independence as a new entity within the corporation and ultimately failed to deliver on any of the bold promises we were all so excited about those 2 years ago.

RIP 4IP. You could have been great. We will miss sorely that promise of change.

Os mae pobol Audioboo yn ystyried bod Channel 4 yn meddu ar werthoedd arwsydus o geidwadol (sy’n fy synnu i a dweud y gwir), yna mae’n peri rhywun i feddwl beth fyddai ganddyn nhw i;w ddweud am S4C. Nid beirniadaeth ydi hwn, ond efallai rhybudd i hidio beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol agos dros y ffin. Roedd cryn addewid a hype i 4ip – beth am drio cael dyfodol cyfryngau ar-lein Cymraeg yn fwy sefydlog na hynny.

Fforwm Cyfryngau Newydd S4C: blog byw

Dwi am drio blogio peth o hwn yn fyw. Wn i ddim os fyddai’n gallu gwneud yr holl beth, breast ond dria i ngora. Ffwrdd a ni:

Diolch am ddarllen!

Garffild: diolch pawb am ddod.

Sylw o’r llawr: angen amserlen. A wybod sut mae hwn yn ffitio mewn efo strategaeth ehangach s4C

Sylw o’r llawr: syniad rhagorol, approved cyn belled ei fod ddim yn troi yn siop siarad.

Nid rhywbeth S4C fydd ol. Ond gofyn am sylwadau.

14:35 Garffild Lloyd Lewis: nid ymarferiad mo hwn. S4C o ddifrif am hyn. Hwn yn fan cychwyn iddyn nhw.Eisiau creu fforwm/tîm ffurfiol o 8 o bobol fydd yn helpu S4C i symud i’r cyfeiriad iawn. Ydi hyn yn syniad da? Angen yr adborth.

14:30 Sylwadau am y grwp oedd yn adeiladu gyda Lego yn seiliedig ar syniadau David Gauntlett. (Gol: fethish i’r grwp yma ryswut!!)

  • angen i S4C estyn allan i gymunedau
  • creu pentref: canolbwynt y pentref oedd S4C ond bod rhaid i’r pentref ddatblygu
  • sut mae modd cael gwerth pellach allan o gynnwys sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ar ol darlledu
  • eisiau’r gymuned yn rhan o’r cyfryngau gwe
  • isio i’r model fod yn ddwy ffordd
  • “y cyfryngau newydd ydi’r cyfryngau” (Gol: NO WAY!)
  • cymuned yn ei ystyr ehgangaf
  • angen i s4c fod yn hyblyg, angen iddyn nhw feddwl allan o’r bocs
  • cyfryngau gwe (dwi’n aralleirio: gwrth defnyddio cyfryngau newydd!) fod yn rhan o’r rhaglenni, nid yn add-on
  • delwedd S4C fel camfa: helpu chi i fynd dros bethau, bod yn le i sefyll arno fo i weld ac yn rhywbeth dwy ffordd

Sylw o’r llawr: dau beth yn digwydd 1) lot o drafod am safon iaith ar y cyfryngau a 2) son bod pobol ddim yn gallu cael eu erlyn am siarad mewn ffordd wahanol. Y ddau yn clasho.

Sylw o’r llawr: Beth am safon iaith? Wrth newid o’r diwydiant teledu i;r cyfryngau ‘lean forward’ mae pobol yn gorfod cyfathrebu mewn iaith ysgrifenedig. Mae hwn yn broblem i rai pobol. Sut ydyn ni’n delio gyda’r iaith fyw mae pobol yn ei ddefnyddio? Sut allwn ni sicrhau nad yw pobol yn cael eu beirniadu  am eu hiaith.

14:25 Sylw o’r llawr: cynulleidfa’r de-ddwyrain wedi cael ei anwybyddu, a’r math newydd o Gymry Cymraeg. Cynulleidfa fawr bnotensial. llawer ddim yn teimlo eu bod yn darlledu ar eu cyfer nhw. (Gol: bosib bod y gogs yn teimlo r’un peth!)

14:20 Sylwadau o;r grwp oedd yn son am y gymuned. Aled Glynne yn adrodd nol. Sit mae posib cyrraedd at bob cymuned.

  • Angen diffinio beth yw cymuned. Efallai bod cymuned teledu/rhyngrwyd yn wahanol iawn.
  • Byddai’n beth da pan mae S4C yn mynd allan i’r gymuned i fachu ar y cyfkle i godi delwedd unrhyw ddatblygiad neu cael pobol i gyfrannu at wefannau e.e.
  • Carreg Ateb/Caban Ateb yn syniad da – fyddai modd defnyddio’r we i wneud fersiwn o hwn ()
  • pwysig iawn bod cydweithio yn digwydd
  • angen deialog
  • syniad o gronfa YouTube
  • angen i S4C fagu croen caled wrth dderbyn beirniadaeth ac agored
  • angen i S4C fod yn fwy personol na chorfforaethol
  • peth da pe bai na le i arddangos deunydd sy’n cael ei greu gan ysgolion, grwpiau etc wedi ei letya gan S4C
  • trafodaeth am y brand: peth da neu ddrwg. Ydi o’n tocsig? Neu ydi o’n adnabyddus rownd y byd?
  • Trafod bod angen cyllid ar bobol sy’n datblygu deunydd ar gyfer y we.
  • Mantais o allu adnabod talent ar y we
  • Dim cymaint o lesteirio cynnwys gan reolau cydymffurfiaeth ar-lein
  • Pwysig bod S4C yn gwrando ac argyhoeddi pobol eu bod nhw
  • Gwefannau lleol – awydd i weld mwy, ond lle i S4C gefnnogi rhain mewn rhyw ffordd e.e newyddion micro
  • Oes angen mynd trwy S4C o gwbl? Pan fod llwyfannau ar gael a bo modd rhoi cynnwys allan yna.
  • Microdaliadau yn fodel pwysig ar gyfer cael arian am gynnwys: itunes, etc
  • Hawdd son am y we, ond angen meddwl am natur arian cyhoeddus ac atebolrwydd

Sylw o’r llawr: efallai bod gor-dargedu tuag at ddysgwyr. e.e. Pen Talar – roedd lot o gynnwys oedd yn cuddio tu ol y label dysgwyr (ar wefan Dysgwyr S4C), oedd efallai o ddiddordeb i gynulleidfa ehangach

Sylw o’r llawr: O ran targedu byddai targedu dysgwyr yn gam da.

14:15 Sylw o’r llawr: chi’n ffili cael comisiynydd/sianel yn diffinio beth sydd yn cwl.

14:10 sylwadau o’r ail gr?p oedd yn edrych ar demograffig.

  • teimlad wrth dargedu cynulleidfa ifanc bod angen i’r cynnwys fod yn ‘c?l’ (Gol: !!)
  • angen i’r cynnwys fod yn amrywiol
  • angen bod deunydd yn cael ei rannu. Hynny yw oes eisiau targedu o gwbl?  (Gol: beth sy’n cymell pobol i rannu yn y man cyntaf?)
  • angen bod gallu gan S4C/cronfa i ddefnyddio dylanwadwyr
  • nid pobol sy’n ffitio rownd y dechnoleg ond y dech sy’n ffitio o’n amgylch ni
  • mae yna gynulleidfa – angen cynnwys sydd
  • (Gol: da ni nawr wedi mynd mewn i ddiffinio beth sydd yn ‘c?l’….LOLFRENNYDD)
  • trio plesio pawb yn plesio neb
  • pwysigrwydd brandiau. Brands yn ffeindio eu demograffig eu hunain.
  • pwysigrwydd plannu hedyn gyda elfen o risg
  • Gormod o bwyslais ar dargedu demograffig
  • Angen an darge cychwynnol ond defnyddio llwybr y cynnwys fel modd o gael adborth gan y defnyddwyr a chynulleidfa. h.y. bod y cynnwys yn ffeindio ei gynulledifa yn y pen draw
  • pwysigrwydd anelu at gymunedau
  • angen cynnwys byr, neu addas ar gyfer y platfform o leiaf
  • hyblgygrwydd a gallu i gymryd risg yn bwysig

Eglurhad gan rywun am y syniad hyb: nid hyb gan S4C oedd yr awgrym ond bod S4C yn rhan o hyb ehnagach.

14:05 Pete Edwards: syniad o hyb yn hyrwyddo syniad o hierachiaeth – angen gwared o hyn. Angen i arian s4c fod ar gyfer pobol yn hytrach nac s4c. Angen rhoi arian allan i gorff arall sydd yn creu cystadleuaeth, sy’n gofyn i bobol fod yn fwy uchelgeisiol a pheryglus gyda be ma nhw’n ei wneud.

14:00 Grwp cynnwys, rhai sylwadau (Ciron Gruffydd yn adrod nôl):

  • peryg bod S4C yn trin y we fel rhywbeth eilradd
  • perygl mewn delio gyda;r we fel lle i peilotio yn unig
  • angen am swydd o fewn S4C i ddatblygu digidol: g
  • angen i S4C newid yn sylfaenol o’r top i’r gwaelod, gyda phwyslais ar greu cynnwys a buddsoddi mewn cynnwys yn hytrach na chomisiynu
  • angen arian i feithrin talent a hybu creadigrwydd, ond hefyd cynnwys sy’n gweithio gyda rhaglenni sydd eisoes yn bodoli, yn arbennig felly ar gyfer pobol h?n
  • hel fideos sydd yn cael eu cynhyrchu yn annibynnol at ei gilydd mewn ‘hyb’ wedi ei greu gan S4C er mwyn ehangu’r gynulleidfa iddyn nhw.
  • ysbrydoliaeth yn bwysig. Sut gall S4C chwarae rhan yn hyn? symud tuag at weithio gyda nifer
  • Teimlad bod cynnwys S4C yn rhy saff ar hyn o bryd

13:55 Jest i esbonio, cafodd pawb eu rhanni mewn i 4 grwp i drafod 4 pwnc:

  • Sut mae posib i s4c gydwithio gyda sefydliadau eraill i greu cynnwys?
  • Ydi’r we ar gael i bob demograffig?
  • Sut mae cael model newydd?
  • Sut mae cael pawb i deimlo’n rhan o unrhyw weithgaredd newydd?

11:50 torri mewn i grwpiau rwan.

“Maybe having a closed editorial doesn’t work so well for online content.”

Audiences don’t wan’t corporate branding on videos, perhaps.

(Gol: Er gwybodaeth! Dyma’r clip “Cymraeg”  http://www.youtube.com/watch?v=UtwnYy5dpnc 10/10 am fideo feiral, 0/10 am gyfieithu!)

11:40 Dangos y clip: http://www.youtube.com/watch?v=R0LCmStIw9E

Future of b/cast is “if you like this, we’ll reccomend this to you rather than schedules”

11:35 Parody vid: http://www.youtube.com/watch?v=jVjm6I9xi3U

“You know you’ve arrived on the internet when people start doing parodies”

Neges: y darllediad wnaeth triggero’r sylw dechreuol i’r fideo.

Time magazine wedi dyfynnu Peter am y clip.

Dangos y clip hwn: http://www.youtube.com/watch?v=5X-mH3vNrzI

11:30 “Became a self-fuelling phenomena” (Gol: ond roedd yn Saesneg, no? Roedd “cyfieithiad” Cymraeg ond roedd yn bizarre os dwi’n cofio’n iawn)

Dangos: Viral Video Chart – fanno roedd o’n checkio lle oedd ranking y fideo. Dangos gwerth y breakdown data am y fideo. 17% o wylwyr yn Sbaeneg.

2 flog dylanwadol yn UDA wedyn yn darganfod y fideo a’n embedio. Dros nos, roedd 500k views. 1m view dros 7 diwrnod.

Dechrau fel prosiect ysgol gyda 13 ysgol uwchradd. Roedd mor dda, feddylion nhw drio cael o wedi ei ddarlledu –> anfon at Sian Thomas BBC.

11:30 Peter Watkins Hughes siarad am stori viral video o Gymru wnaeth gael 10m views

Cloi: meddwl beth sy’n ddiddorol, ydi o’n ddefnyddiol; sut mae modd rhannu/cydweithio; oes mpodd ei werthu/hysbysebion; gweithio fel cymuned.

11:25 Marc yn gweithio gyda 2 foi o Oz sydd wedi creu gwasanaeth bwcio gwestai Cymraeg.

Sôn am greu rhwydwaith hysbysebu er mwyn cynyddu gwerth y farchnad hysbys.

Arian: lle mae o? Oes modd creu hysbysebion? Enghraifft hysbys Prifysgol Aber ar Golwg360.

YouView: bydd hwn yn ffordd o gael at  ywe trwy eich teledu. Angen i S4C feddwl am hyn.

11:20 Meddwl am lle mae pobol yn mynd a chreu ar eu cyfer nhw. Esiampl: app teithiau cerdded Reader’s Digest. (Gol: gweler sylwadau Carl Morris am greu stwnsh map o amgylch y rhaglen 100 Lle).

Weithau meddwl am S4C fel peint o chwerw; rhaid meddwl am s4c fel Martini: anytime anywhere any place.

Sôn am silver surfers. Dim angen bod ofn nethu cyrraedd at bobol h?n Cymraeg. Sôn am BeGrand.net. Sut i gyrraedd atyn nhw. (Gol: mae fy nhad yng nghyfraith wrth ei fodd efo’i iPhone4)

Dangos llun o’r planedau i mapio byd ar-lein Cymraeg. Dylai S4C fod y blaned fwyaf yn y solar system ar-lein Cymraeg!

Problemau: agwedd, arian, ymwybyddiaeth, neb yn cyd-drefnu

11:15 60 o apps ar iphone neud Android – enghraifft FiaFo – iSteddfod; ac app Cyw S4C/Cube.

500 o tweets bob dydd yn Gymraeg (ystadegyn Marc trwy ei ymchwil ei hun). Google a FB yn Gymraeg.  Dros 60 o apps Cymraeg (rili?). Ffôn symudol Gymraeg gan Orange.

500,000 o bobol yng Nghymru yn defnyddio Facebook (grwp Cymru)

Os oes cynnwys da gyda chi, paid poeni am y dechnoleg. Dim diddordeb mewn tech yng Nghymru? Sbwriel.

Ein dyfodol digidol”

11:10 Cyflwyniad gan Marc Webber (cyn-olygydd ITV.com a is-olygydd The Sun ar-lein)

Nid pwrpas ydi pitcho, na chwyno am ddiffyg darpariaeth S4C (Garffild yn cynnig gwneud hynny dros goffi!). Sut mae modd bod yn berthansol i’n cymunedau a gwylwyr, a chreu cynnyrch maen nhw eisiau.

S4C am roi pwyslais ar roi mwy o bwyslais ar y cyfryngau newydd. Dau nod i’r diwrnod: rhannu syniadau, gwneud y grorau o’r talen; yn ail, creu fforwm o bobol fydd yn ffynhonell/llwybr i’r syniadau i ni weithio efo’n gilydd.

11:05 Garffild Lloyd Lewis yn cymryd lle Dyfrig Jones oedd fod i annerch ac arwain. Hefyd wedi methu dod oherwydd y llifogydd.

11:00 Aled Glynne yn annerch. Wedi dechrau’n hwyr oherwydd y glaw wrth Mach. Lot wedi methu dod o’r gogledd.