Fforwm Cyfryngau Newydd S4C: blog byw
Dwi am drio blogio peth o hwn yn fyw. Wn i ddim os fyddai’n gallu gwneud yr holl beth, ond dria i ngora. Ffwrdd a ni:
Diolch am ddarllen!
Garffild: diolch pawb am ddod.
Sylw o’r llawr: angen amserlen. A wybod sut mae hwn yn ffitio mewn efo strategaeth ehangach s4C
Sylw o’r llawr: syniad rhagorol, cyn belled ei fod ddim yn troi yn siop siarad.
Nid rhywbeth S4C fydd ol. Ond gofyn am sylwadau.
14:35 Garffild Lloyd Lewis: nid ymarferiad mo hwn. S4C o ddifrif am hyn. Hwn yn fan cychwyn iddyn nhw.Eisiau creu fforwm/tîm ffurfiol o 8 o bobol fydd yn helpu S4C i symud i’r cyfeiriad iawn. Ydi hyn yn syniad da? Angen yr adborth.
14:30 Sylwadau am y grwp oedd yn adeiladu gyda Lego yn seiliedig ar syniadau David Gauntlett. (Gol: fethish i’r grwp yma ryswut!!)
- angen i S4C estyn allan i gymunedau
- creu pentref: canolbwynt y pentref oedd S4C ond bod rhaid i’r pentref ddatblygu
- sut mae modd cael gwerth pellach allan o gynnwys sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ar ol darlledu
- eisiau’r gymuned yn rhan o’r cyfryngau gwe
- isio i’r model fod yn ddwy ffordd
- “y cyfryngau newydd ydi’r cyfryngau” (Gol: NO WAY!)
- cymuned yn ei ystyr ehgangaf
- angen i s4c fod yn hyblyg, angen iddyn nhw feddwl allan o’r bocs
- cyfryngau gwe (dwi’n aralleirio: gwrth defnyddio cyfryngau newydd!) fod yn rhan o’r rhaglenni, nid yn add-on
- delwedd S4C fel camfa: helpu chi i fynd dros bethau, bod yn le i sefyll arno fo i weld ac yn rhywbeth dwy ffordd
Sylw o’r llawr: dau beth yn digwydd 1) lot o drafod am safon iaith ar y cyfryngau a 2) son bod pobol ddim yn gallu cael eu erlyn am siarad mewn ffordd wahanol. Y ddau yn clasho.
Sylw o’r llawr: Beth am safon iaith? Wrth newid o’r diwydiant teledu i;r cyfryngau ‘lean forward’ mae pobol yn gorfod cyfathrebu mewn iaith ysgrifenedig. Mae hwn yn broblem i rai pobol. Sut ydyn ni’n delio gyda’r iaith fyw mae pobol yn ei ddefnyddio? Sut allwn ni sicrhau nad yw pobol yn cael eu beirniadu am eu hiaith.
14:25 Sylw o’r llawr: cynulleidfa’r de-ddwyrain wedi cael ei anwybyddu, a’r math newydd o Gymry Cymraeg. Cynulleidfa fawr bnotensial. llawer ddim yn teimlo eu bod yn darlledu ar eu cyfer nhw. (Gol: bosib bod y gogs yn teimlo r’un peth!)
14:20 Sylwadau o;r grwp oedd yn son am y gymuned. Aled Glynne yn adrodd nol. Sit mae posib cyrraedd at bob cymuned.
- Angen diffinio beth yw cymuned. Efallai bod cymuned teledu/rhyngrwyd yn wahanol iawn.
- Byddai’n beth da pan mae S4C yn mynd allan i’r gymuned i fachu ar y cyfkle i godi delwedd unrhyw ddatblygiad neu cael pobol i gyfrannu at wefannau e.e.
- Carreg Ateb/Caban Ateb yn syniad da – fyddai modd defnyddio’r we i wneud fersiwn o hwn ()
- pwysig iawn bod cydweithio yn digwydd
- angen deialog
- syniad o gronfa YouTube
- angen i S4C fagu croen caled wrth dderbyn beirniadaeth ac agored
- angen i S4C fod yn fwy personol na chorfforaethol
- peth da pe bai na le i arddangos deunydd sy’n cael ei greu gan ysgolion, grwpiau etc wedi ei letya gan S4C
- trafodaeth am y brand: peth da neu ddrwg. Ydi o’n tocsig? Neu ydi o’n adnabyddus rownd y byd?
- Trafod bod angen cyllid ar bobol sy’n datblygu deunydd ar gyfer y we.
- Mantais o allu adnabod talent ar y we
- Dim cymaint o lesteirio cynnwys gan reolau cydymffurfiaeth ar-lein
- Pwysig bod S4C yn gwrando ac argyhoeddi pobol eu bod nhw
- Gwefannau lleol – awydd i weld mwy, ond lle i S4C gefnnogi rhain mewn rhyw ffordd e.e newyddion micro
- Oes angen mynd trwy S4C o gwbl? Pan fod llwyfannau ar gael a bo modd rhoi cynnwys allan yna.
- Microdaliadau yn fodel pwysig ar gyfer cael arian am gynnwys: itunes, etc
- Hawdd son am y we, ond angen meddwl am natur arian cyhoeddus ac atebolrwydd
Sylw o’r llawr: efallai bod gor-dargedu tuag at ddysgwyr. e.e. Pen Talar – roedd lot o gynnwys oedd yn cuddio tu ol y label dysgwyr (ar wefan Dysgwyr S4C), oedd efallai o ddiddordeb i gynulleidfa ehangach
Sylw o’r llawr: O ran targedu byddai targedu dysgwyr yn gam da.
14:15 Sylw o’r llawr: chi’n ffili cael comisiynydd/sianel yn diffinio beth sydd yn cwl.
14:10 sylwadau o’r ail grŵp oedd yn edrych ar demograffig.
- teimlad wrth dargedu cynulleidfa ifanc bod angen i’r cynnwys fod yn ‘cŵl’ (Gol: !!)
- angen i’r cynnwys fod yn amrywiol
- angen bod deunydd yn cael ei rannu. Hynny yw oes eisiau targedu o gwbl? (Gol: beth sy’n cymell pobol i rannu yn y man cyntaf?)
- angen bod gallu gan S4C/cronfa i ddefnyddio dylanwadwyr
- nid pobol sy’n ffitio rownd y dechnoleg ond y dech sy’n ffitio o’n amgylch ni
- mae yna gynulleidfa – angen cynnwys sydd
- (Gol: da ni nawr wedi mynd mewn i ddiffinio beth sydd yn ‘cŵl’….LOLFRENNYDD)
- trio plesio pawb yn plesio neb
- pwysigrwydd brandiau. Brands yn ffeindio eu demograffig eu hunain.
- pwysigrwydd plannu hedyn gyda elfen o risg
- Gormod o bwyslais ar dargedu demograffig
- Angen an darge cychwynnol ond defnyddio llwybr y cynnwys fel modd o gael adborth gan y defnyddwyr a chynulleidfa. h.y. bod y cynnwys yn ffeindio ei gynulledifa yn y pen draw
- pwysigrwydd anelu at gymunedau
- angen cynnwys byr, neu addas ar gyfer y platfform o leiaf
- hyblgygrwydd a gallu i gymryd risg yn bwysig
Eglurhad gan rywun am y syniad hyb: nid hyb gan S4C oedd yr awgrym ond bod S4C yn rhan o hyb ehnagach.
14:05 Pete Edwards: syniad o hyb yn hyrwyddo syniad o hierachiaeth – angen gwared o hyn. Angen i arian s4c fod ar gyfer pobol yn hytrach nac s4c. Angen rhoi arian allan i gorff arall sydd yn creu cystadleuaeth, sy’n gofyn i bobol fod yn fwy uchelgeisiol a pheryglus gyda be ma nhw’n ei wneud.
14:00 Grwp cynnwys, rhai sylwadau (Ciron Gruffydd yn adrod nôl):
- peryg bod S4C yn trin y we fel rhywbeth eilradd
- perygl mewn delio gyda;r we fel lle i peilotio yn unig
- angen am swydd o fewn S4C i ddatblygu digidol: g
- angen i S4C newid yn sylfaenol o’r top i’r gwaelod, gyda phwyslais ar greu cynnwys a buddsoddi mewn cynnwys yn hytrach na chomisiynu
- angen arian i feithrin talent a hybu creadigrwydd, ond hefyd cynnwys sy’n gweithio gyda rhaglenni sydd eisoes yn bodoli, yn arbennig felly ar gyfer pobol hŷn
- hel fideos sydd yn cael eu cynhyrchu yn annibynnol at ei gilydd mewn ‘hyb’ wedi ei greu gan S4C er mwyn ehangu’r gynulleidfa iddyn nhw.
- ysbrydoliaeth yn bwysig. Sut gall S4C chwarae rhan yn hyn? symud tuag at weithio gyda nifer
- Teimlad bod cynnwys S4C yn rhy saff ar hyn o bryd
13:55 Jest i esbonio, cafodd pawb eu rhanni mewn i 4 grwp i drafod 4 pwnc:
- Sut mae posib i s4c gydwithio gyda sefydliadau eraill i greu cynnwys?
- Ydi’r we ar gael i bob demograffig?
- Sut mae cael model newydd?
- Sut mae cael pawb i deimlo’n rhan o unrhyw weithgaredd newydd?
11:50 torri mewn i grwpiau rwan.
“Maybe having a closed editorial doesn’t work so well for online content.”
Audiences don’t wan’t corporate branding on videos, perhaps.
(Gol: Er gwybodaeth! Dyma’r clip “Cymraeg” http://www.youtube.com/watch?v=UtwnYy5dpnc 10/10 am fideo feiral, 0/10 am gyfieithu!)
11:40 Dangos y clip: http://www.youtube.com/watch?v=R0LCmStIw9E
Future of b/cast is “if you like this, we’ll reccomend this to you rather than schedules”
11:35 Parody vid: http://www.youtube.com/watch?v=jVjm6I9xi3U
“You know you’ve arrived on the internet when people start doing parodies”
Neges: y darllediad wnaeth triggero’r sylw dechreuol i’r fideo.
Time magazine wedi dyfynnu Peter am y clip.
Dangos y clip hwn: http://www.youtube.com/watch?v=5X-mH3vNrzI
11:30 “Became a self-fuelling phenomena” (Gol: ond roedd yn Saesneg, no? Roedd “cyfieithiad” Cymraeg ond roedd yn bizarre os dwi’n cofio’n iawn)
Dangos: Viral Video Chart - fanno roedd o’n checkio lle oedd ranking y fideo. Dangos gwerth y breakdown data am y fideo. 17% o wylwyr yn Sbaeneg.
2 flog dylanwadol yn UDA wedyn yn darganfod y fideo a’n embedio. Dros nos, roedd 500k views. 1m view dros 7 diwrnod.
Dechrau fel prosiect ysgol gyda 13 ysgol uwchradd. Roedd mor dda, feddylion nhw drio cael o wedi ei ddarlledu –> anfon at Sian Thomas BBC.
11:30 Peter Watkins Hughes siarad am stori viral video o Gymru wnaeth gael 10m views
Cloi: meddwl beth sy’n ddiddorol, ydi o’n ddefnyddiol; sut mae modd rhannu/cydweithio; oes mpodd ei werthu/hysbysebion; gweithio fel cymuned.
11:25 Marc yn gweithio gyda 2 foi o Oz sydd wedi creu gwasanaeth bwcio gwestai Cymraeg.
Sôn am greu rhwydwaith hysbysebu er mwyn cynyddu gwerth y farchnad hysbys.
Arian: lle mae o? Oes modd creu hysbysebion? Enghraifft hysbys Prifysgol Aber ar Golwg360.
YouView: bydd hwn yn ffordd o gael at ywe trwy eich teledu. Angen i S4C feddwl am hyn.
11:20 Meddwl am lle mae pobol yn mynd a chreu ar eu cyfer nhw. Esiampl: app teithiau cerdded Reader’s Digest. (Gol: gweler sylwadau Carl Morris am greu stwnsh map o amgylch y rhaglen 100 Lle).
Weithau meddwl am S4C fel peint o chwerw; rhaid meddwl am s4c fel Martini: anytime anywhere any place.
Sôn am silver surfers. Dim angen bod ofn nethu cyrraedd at bobol hŷn Cymraeg. Sôn am BeGrand.net. Sut i gyrraedd atyn nhw. (Gol: mae fy nhad yng nghyfraith wrth ei fodd efo’i iPhone4)

Dangos llun o’r planedau i mapio byd ar-lein Cymraeg. Dylai S4C fod y blaned fwyaf yn y solar system ar-lein Cymraeg!
Problemau: agwedd, arian, ymwybyddiaeth, neb yn cyd-drefnu
11:15 60 o apps ar iphone neud Android – enghraifft FiaFo – iSteddfod; ac app Cyw S4C/Cube.
500 o tweets bob dydd yn Gymraeg (ystadegyn Marc trwy ei ymchwil ei hun). Google a FB yn Gymraeg. Dros 60 o apps Cymraeg (rili?). Ffôn symudol Gymraeg gan Orange.
500,000 o bobol yng Nghymru yn defnyddio Facebook (grwp Cymru)
Os oes cynnwys da gyda chi, paid poeni am y dechnoleg. Dim diddordeb mewn tech yng Nghymru? Sbwriel.
“Ein dyfodol digidol”
11:10 Cyflwyniad gan Marc Webber (cyn-olygydd ITV.com a is-olygydd The Sun ar-lein)
Nid pwrpas ydi pitcho, na chwyno am ddiffyg darpariaeth S4C (Garffild yn cynnig gwneud hynny dros goffi!). Sut mae modd bod yn berthansol i’n cymunedau a gwylwyr, a chreu cynnyrch maen nhw eisiau.
S4C am roi pwyslais ar roi mwy o bwyslais ar y cyfryngau newydd. Dau nod i’r diwrnod: rhannu syniadau, gwneud y grorau o’r talen; yn ail, creu fforwm o bobol fydd yn ffynhonell/llwybr i’r syniadau i ni weithio efo’n gilydd.
11:05 Garffild Lloyd Lewis yn cymryd lle Dyfrig Jones oedd fod i annerch ac arwain. Hefyd wedi methu dod oherwydd y llifogydd.
11:00 Aled Glynne yn annerch. Wedi dechrau’n hwyr oherwydd y glaw wrth Mach. Lot wedi methu dod o’r gogledd.

Diolch mawr am blogio’r digwyddiad Rhodri, dwi’n un o’r rhai sydd wedi methu dod, ond yn gret cael gwyodaeth trwy’r bandeang fama yn yr arch!
Hwyl,
Sioned
Diolch ti am hwn, diddorol iawn. Gobeithio daw rhywbeth o werth o’r cyfarfod.
Cofion
Rhian
Dim ond diolch i ti am y blog a gadael i ti wybod bod na bobl allan yma yn darllen!!
Diolch am hyn Rhods – fuodd rhaid i mi droi yn ôl ger Derwen-las oherwydd y llifogydd, felly mae’n dda gallu clywed am yr hyn sy’n mynd ymlaen.
Diolch i bawb am y sylwadau. Falch bod o di bod werth o. Dwi’n meddwl mod i di cael mwy allan ohono fo o’i wneud o hefyd.
Waw, diolch am hwn i gyd. Dwi am daflu fy nodiadau allan a printio rhain i ffwrdd!
Roedd o’n ddiwrnod calonogol go iawn, a S4C di ymddangos fel eu bod nhw o ddifri am hyn i gyd. Neshi fwynhau’r trfodaethau yn fawr, gyda lot o syniadau gwych yn dod allan, ond lot o spleen ventio hefyd.
Dwi’n meddwl bod cymuned == casgliad o bobl sy’n rhannu rhywbeth cyffredin, boed yn leoliad daearegol neu’n ddiddordeb mewn spotio trenau. Mae’r we wedi hwyluso’r cymunedau hyn, a mae pawb sydd ar y we yn rhan o sawl un.
Roedd lot o’r cwyno heddiw yn dod lawr i’r swyddogaeth S4C fel comisiynydd rhaglenni ar gyfer eu darlledu, a bod stwff y we yn disgyn tu allan i’r rheolau cyfreithiol hyn. Dwi’n gobeithio bydd cronfa’n cael ei greu ar gyfer cefnogi a hyrwydddo mwy o stwff we, yn debyg iawn i’r 4IP sy’n cael ei ddisgrifio gan AudioBoo yn dy erthygl diweddaraf. Os bydd S4C yn camu mlaen gan gymryd yr adborth yma, a bod yn ddewr i ddisgwyl methiannau yna bydd llwyddiannau yn digwydd.
Pawb o’r gogs i gael lifft efo fi tro nesa, ia!
Mae nhw’n reit diffuant eu bod o ddifri, ac roedd y parodrwydd i glywed beirniadaeth, a’r ffaith eu bod isio cyrraedd tu hwnt i’r cynyrchwyr hefyd yn chwa o awyr iach.
Mae ysbryd agored yn hollbwysig i hyn dwi’n meddwl, ac dyna pam dwi’n gwbl argyhoeddiedig bod angen person i arwain y strategaeth un ai o fewn S4C, neu o dan adain yr Awdurdod.
Fel Hacio’r Iaith, mae jest cael y cyfle i gwrdd wyneb yn wyneb yn bwysig hefyd. Mae sôn am symud y drafodaeth ar-lein chydig o red herrinh dwi’n meddwl ac byddai trefnu cyfarfodydd rhanbarthol yn well os oes teimlad na wnafiff pobol deithio’n aml.
Diolch o galon am y blog, Rhods. Siomedig iawn bod y dŵr wedi nghadw o Aber. Gobeithio bydda i’n rhan o’r cam nesaf, a bydd modd denu cyfraniadau gan gymaint o bobl a phosib.
Diolch am hyn Rhods. Do’n i methu mynd chwaith ac mae cael y cofnodion yma yn help mawr. Wedi bod yn trio blogio taith Africa heb lawer o lwyddiant oherwydd diffyg amser a wifi ond twitter o’r ffon di bod yn eitha hawdd pan roedd ‘na signal. Bwriadu ychwanegu at y blog tra’n golygu o ddydd Llun mlaen.
Wedi mwynhau cwmni dy hen ffrind ysgol – Hywel – yn ystod y daith. Boi hyfryd.
Cofion atat
Nici