Siart fideos feiral Cymraeg 2010 gan fideobobdydd
Cofnod blog wedi ei groes-bostio o fideobobdydd.

Ryan: fideo feiral hen ysgol
Wel, efallai bod ‘feiral’ yn pwsho hi braidd, ond mae’n siart o’r fideos sydd wedi cael y mwyaf o ymwelwyr ar fideobobdydd beth bynnag.
Falla bod o’n rhoi syniad go dda o ba fideos Cymraeg sydd wedi bod yn boblogaidd dros y 6 mis diwethaf ers i fideobobdydd fod yn mynd.
Oedd na rai da chi’n meddwl ddylia fod wedi cael mwy o sylw ond aeth yn angof?
Pa rai oedd eich ffefrynnau chi?
Da chi’n meddwl bod hwn adlewyrchiad da o fideos Cymraeg ar-lein?
Gadwch i fi wybod yn y sylwadau…
Yr 20 Uchaf am 2010
- Stori Branwen…wedi ei animeiddio gyda Lego
- “Y Llinell” ffilm parkour gan Gwion James a Jacob Prytherch
- “Cilmeri” gan Gerallt Lloyd Owen
- ContEnders – Y Cwilt
- “Pobol Y Cwm Audition Video” Dan Rhys
- Meic Stevens a Cate Le Bon – Bibopalwla
- “Stwffiwch y Dolig, ddim y twrci” gan SFA
- Huw yn “clocsio”
- “Eisteddfod (Ymerodraeth Carafan)” Catrin Dafydd yn Stomp 2010
- Clip anhygoel. John Peel yn cyflwyno Anrhefn, Y Cyrff a Datblygu a Raglen “The Tube” 1986
- Clasur comedi Nadolig: Gritto’r Hewl i Fethlehem
- TelisCymraeg.com
- Y C’mon Midffild Montage o ffycd
- “Eira” gan Gorky’s Zygotic Mynci
- Babi’n chwerthin llond ei fol
- Super Furry Animal a Chriw Pethau Bychain – “(Nid) Hon yw’r gân sy’n mynd i achub yr iaith”
- Chink yn Fic Penygroes
- “Gwlad ar fy Nghefn” gan Klaus Kinski
- “ADHD” gan Crash.Disco!
- Cofio “Now a Ned”, wel dyma 25 pennod ohono
Felly be ma hwn yn ddweud am fideos Cymraeg ar-lein?
Wel, da ni’n lecio comedi, cerddoriaeth, barddoniaeth a phetha cŵl sydd wedi cael eu gwneud gan bobol ifanc neu unrhyw gyfuniadau o’r uchod. Dim syndod fan’na ta – heblaw am y barddoniaeth wrth gwrs, ond da ni’n od fel’na dydan.
Beth sydd ddim yna? Blogiau fideo, sdwff celfyddydol, chwaraeon, petha mwy corfforaethol, ffilmiau dogfen, fideos ymgyrchu. Dydyn nhw jest ddim y math o bethau sy’n cael eu retweetio efallai, neu jest yn fwy niche o ran eu cynulleidfa. Yn sicr dydan ni ddim yn rhy wahanol i weddill y we o ran be sy’n denu gwylwyr.
O ran be sy’n gyrru traffig y fideos yma, does dim dwywaith na Twitter ydi’r brenin gan yrru 49% o draffig y wefan yn 2010. Mae Facebook yn ail, ond yn bell tu ôl gyda 18%; chwiliadau Google am y wefan wedyn gyda 14% o’r traffig; a 9% yn dod yn uniongyrchol i’r dudalen hafan. Ond dwi’n amau bod lot o bobol yn gwylio’r fideos o fewn Facebook beth bynnag, felly fyddai’r ystadegau ddim yn dangos yma.
Y wers: os da chi’n blogio, gwneud fideos, neu wneud unrhywbeth sydd yn cynhyrchu ffrwd RSS, yna anfonwch nhw drwodd i Twitter a Facebook!
Mae Twitterfeed yn gwneud hyn i chi’n otomatig, ac am ddim – defnyddiwch o!
Pam bod yr un Lego mor boblogaidd?
Pam bod rhif 1 a 2 wedi cael cymaint o wylwyr? Dwi’n meddwl ei fod o i wneud efo rhwydweithiau’r bobol sydd wedi cynhyrchu’r fideos. Dwi’n eitha siwr bod Y Llinell a fideo Branwen/Lego wedi cael eu hyrwyddo lot ar Facebook. Ma na rhywbeth self-perpetuating hefyd am fod yn boblogaidd – y rheol Pareto neu 80/20 a’r predictable imbalance mewn dosbarthiad gweithgaredd, sef bod 80% o effeithiau yn dod gan 20% o achosion yr effeithiau hynny. Mae’r ffaith bod y fideos yna wedi ymddangos yn y rhestrau 5 uchaf misol wedi dod a rhagor o wylwyr, gan ailadrodd y gylchdro. Yn yr achos hwn mae’r ddwy fideo hyn yn cyfri am bron i 20% o argraffiadau tudalen fideobobydd am 2010.
A be nesa i fideobobdydd?
Y bwriad oedd cyflwyno, archifo, a hyrwyddo fideos Cymraeg a dwi’n credu ei fod wedi chwarae rhan fach mewn gwneud hynny. Gyda 11,191 o ymweliadau tudalen gan 2,973 o bobol wahanol, mae’n gwneud job weddol o hynny dwi’n meddwl. Bydda i’n cario mlaen i drio cael un bob dydd am y dyfodol agos, cyn belled nad ydi o’n troi mewn i ormod o waith, a dio ddim ar hyn o bryd.
O’n i hefyd isio creu ffordd o allu gwylio sianeli o fideos Cymraeg yn y dyfodol – mae categoriau a tags fideobobdydd yn galluogi hynna i ddigwydd gan y gallwch chi ddefnyddio RSS ar gyfer categoriau neu dagiau ar gyfer tynnu fideos drwodd i wefannau eraill. Mae o hefyd yn ffordd o wella tagio rhai fideos sydd heb eu tagio o gwbl.
Byddai’n dda gallu torfoli (crowd-source) peth o’r gwaith curadu rywsut, achos mae beth sy’n ymddangos ar fideobobdydd yn bownd o gael ei liwio gan fy nhâst personol i mewn fideos. Byddai’n wych gallu ffeindio ffordd syml iawn o adael i’r darllenwyr ychwanegu fideos gwahanol at y ffrwd.
Os oes unrhywun isio helpu, yna gadwch i fi wybod.

Twitter yw’r brenin am arnewidiadau hefyd – ar ôl dadsoddi dy ffigyrau cyfoes.
428 dilynwr Twitter vs. 257 ffan Facebook
Ond mae gyda fideobobdydd “problem” ar Facebook. Mae’n bosib mynd i YouTube yn syth o’r dolenni. Efallai dylet ti anfon pobol i’r wefan.
Dw i’n defnyddio Twitterfeed ar Facebook hefyd achos mae’n sgwennu dolenni yn unig.
e.e. http://www.facebook.com/ytwll
Yn ôl fy athroniaeth mae’n neis i dyfu pobol o’r seilo Facebook i’r we agored hefyd…
Mae gen i ddwy feed yn mynd mewn i Facebook, ac am ddwy reswm:
– mae Twitterfeed yn cyrraedd Facebook yn syth (ond ddim yn dangos lluniau na fideo)
– mae defnyddio RSS Notes tudalen Facebook yn dod mewn lympiau (fel arfer tua tri fideo mewn un go (ond yn dangos fideo ar Facebook)
Mae gan y ddau ei fanteision felly, dwi’n cadw’r ddau. Dio’n gneud dim drwg i bobol weld dolen i fideo ddwywaith dwi’m yn meddwl.
A bod yn onest, y peth pwysicaf ydi bod pobol yn gwylio’r fideos. Sdim ots lle ma’n nhw’n gneud hynny.
OK, o’n i’n anghofio dweud, dyw’r ffigyrau Facebook ddim yn gyflawn achos dyw dolenni o RSS Notes ddim yn rhan o’r ffigur.
Ond diolch am fideobobdydd boi.
Cafodd 20 Uchaf Fideobobdydd mensh ar raglen Lisa Gwilym neithiwr – sgwn i fydd yna sbeic yn yr ymwelwyr?
Sori Rhys! Aeth dy sylw ar goll yn y blwch sbam.
Diolch am adael i mi wybod. Mi oedd na sbeic: bron 300 o unique visitors dros y 26-28. Dangos bod chydig o sylw ar y radio’n gwneud gwahaniaeth.