Dwi’n credu ei bod yn saff dweud bod “Dwi’n dod o Rhyl” wedi sefydlu ei hun fel memyn (meme) go-iawn rwan.
Neithiwr recordiodd MC Mabon a David Wrench ail-gymysgiad ohono ar ffurf tiwn bach yn boncyrs fel rhan o brosiect Unnos C2.
Ma’r fideo gwreiddiol gan ‘iologwynj’ wedi cael ei dynnu oddi ar YouTube, ond mae na lwyth o fideos eraill wedi ei efelychu.
Ma wedi cael ei ddynwared yn y rhyng-gol:
Wedi ei ail-gymysgu ar gyfer llefydd eraill (Sarn yn yr achos yma):
Ei ddweud gan ddeinosor:
http://www.youtube.com/watch?v=EfIJtvwRvOE
Ma na un dudalen Facebook (584 ffan) ac un grwp Facebook (586 aelod).
A rwan mae o di cyrraedd tonfeddi Radio Cymru. A hyn heb unrhyw help gan neb ond rhwydweithiau ar y we. Gwych de. Darn bach o greadigrwydd sydd wedi ymledu yn bell, gan ddylanwadu eraill i adeiladu ar y creadigrwydd gwreiddiol.
Ma memes/memynnau Cymraeg yn hollbwysig. Nid lleoleiddiad Twitter sydd am achub yr iaith ond LOLs, a digon ohono.
Efallai nad oes llawer o ffatrioedd menyn ar ôl yng Nghymru, ond falle dylen ni drio sefydlu ambell ffatri memyn.
Ie mae’n ddiddorol fod wedi hyn wedi dal dychmyg pobl, yn enwedig plant, a heb unrhyw sylw chwaith. Ond pryd mae in-joke yn troi’n meme?
Pan mae’r cyfryngau torfol yn dechrau gafael ynddo fo faswn i’n deud. Hwnna di’r tipping point fel arfer. Ac fel arfer y pwynt lle mae’r jôc wedi mynd yn hen hefyd!
2. Rhan i Dan.
3. Mae delwedd Sleeveface gyda Saunders Lewis ar y clawr cefn o’r llyfr Sleeveface…?
4. Llyr Mental yw’r memyn nesaf.
Oedd Rhan i Dan deffinet yn teimlo fel’na. Poblogeiddrwydd sydyn, twtsh yn bizarre, inside joke, wedyn lledu a mynd ar y newyddion Saesneg a Chymraeg. A wedyn Dan ei hun yn dod ar Facebook. Joio. Y gwreiddyn oedd gwychder Dan ei hun wrth gwrs. Roedd gwaith fideo Dan yn aur.
Oes na femynnau o’r 80au/90au oedd yn gwneud y rownds drwy ffansins ac ati? Ma REU a TEW yn femynnau oedd yn eitha cryf ar lafar o leia. Wn i ddim os wnaethon nhw symud i gael eu ailgymysgu mewn cyfryngau erill.
Llyr Mental arall ar ei ffordd.