Influence Networks: mapio’r berthynas rhwng sefydliadau a phobol

Influence Networks: The six degrees of investigative journalism » OWNI.eu, disinfection News, sickness Augmented.

Dwi’n gynyddol impresd efo be mae’r rhwydwaith newyddiadurol  Ffrengig Owni yn ei wneud. Eu prosiect diweddaraf yw lansiad app ar gyfer newyddiadurwyr, NGOs ac ymgyrchwyr i helpu i wneud dadansoddiad o rwydweithiau.

Mae Influence Networks yn galluogi defnyddwyr i ychwanegu pobol a sefydliadau at y gronfa ddata, gan nodi eu perthynas a’u gilydd, yn ogystal â nodi beth yw lefel gwirionedd y berthynas yna (h.y. ai dim ond sibrydion o berthynas neu ydi’r berthynas yn hysbys ac wedi ei gadarnhau).

Mi alla i wedl defnydd o hwn ar gyfer mapio gweithgareddau’r Cynulliad a gwneud y gwaith o geisio deall pwy sy’n gwneud beth yn ychydig mwy eglur.

Dyma eglurhad o sut gallai gael ei ddefnyddio ar gyfer torfoli ymchwiliad:

Influence Networks’ aim is to allow any journalist or citizen to call for a collaborative investigation on a given topic. Let’s say you want to check on all contractors in the US military. You could do that by hand (very time consuming) or ask for contributions that you then check by hand (again, a very long process).

With Influence Networks, all data is collaboratively validated and managed on a machine-readable format. That means that data can be linked with other relevant repositories and speak for itself. A search between “US government” and “military contractors” could reveal who might have a conflict of interest when going to war, for instance. Remember in late 2001, when KBR, a Halliburton subsidiary, was granted a 10-year contract wherever US troops went? A network analysis tool at the time might have made the ties between KBR and vice-president Cheney clearer.

Enghraifft ddiddorol o dorfoli dwi’n meddwl a mae wastad yn braf gweld arloesedd o’r fath yn deillio o’r tu allan i’r UDA.

Cyflwyniad ‘Cymanfa Ddychmygu S4C Newydd’, Theatr Felinfach

Ddydd Sadwrn cyn diwethaf bûm i yn Theatr Felinfach ar ol cael gwahoddiad i roi rhai syniadau am ddyfodol S4C yn y cyd-destun digidol. Doeddwn i ddim am fod mor hy a chynnig maniffesto cyflawn ond codi cwestiynau a allai fwydo mewn i drafodaeth bellach. Mae’r erthygl Euros yn Click on Wales yn nodi bod pwyslais gen i ar fod pobol ifanc yn defnyddio mwy ar rwydweithiau cymdeithasol na theledu, denture ond roedd fy neges yn wahanol i hynny o’n i’n teimlo. O’n i’n meddwl ei bod hi’n werth i fi gyhoeddi beth ddwedes i beth bynnag, rhag ofn bod gwerth ehangach iddo. Byddwn i’n falch iawn o glywed unrhyw sylwadau.

[Gol: anghofies i nodi bod Bryn Salisbury wedi ysgrifennu cofnod ei hun ar rai o’r un themâu felly dwi’n annog chi i fynd draw i’w ddarllen hefyd os am berspectif arall.]

Cymanfa S4C

Gosod ambell her, codi ambell gwestiwn

Dwi ddim am geisio cynnig atebion i’r busnes o gynhyrchu rhaglenni teledu. Mae digon o bobol eraill sydd â phrofiad hir o’r diwydiant all wneud hynny’n llawer gwell. Ond hoffwn i osod ambell her neu gwestiwn i’r gyfundrefn ddarlledu Gymraeg o berspectif y newidiadau aruthrol sydd wedi dod yn sgil dyfodiad y rhyngrwyd i bob agwedd o’n bywydau, a’n arbennig y ffordd mae wedi tarfu ar bob model busnes cyfryngau a ddatblygwyd hyd troad y ganrif ddwetha.

Mae’r cyfryngau ar-lein yn rhan annatod o ddarlun cyfryngau heddiw. Dydyn nhw ddim felly yn y Gymraeg. Eto. Sut allwn ni newid hynny?

  • mae datblygiadau Cymraeg yn y maes wedi cael eu llesteirio hyd yn hyn
  • mae yna inertia sefydliadol ar draws holl ddarparwyr cyfryngau Cymru
  • nid oes digon yn cael ei wneud i ystwytho trefniannau fel bod modd addasu i anghenion cyfryngau digidol a’r gynulleidfa sydd yn barod amdano

Ai rhagor o gwmniau teledu sydd eu hangen neu sector ddigidol gryfach?

  • mae’r sector cyfryngau digidol yn wan iawn yma
  • rol gan S4C i dyfu’r sector hwnnw
  • os ydyn ni am gael cyfryngau deinamig yn mae’n rhaid i ni ddatblygu cwmniau sy’n gallu addasu i gynhyrchu ar gyfer ar-lein

Ai S4C.com cynhwysfawr sydd ei angen neu S4C fel brand digidol ar draws y rhyngrwyd abuddsoddwr mewn eraill?

  • mae ceisio cael un porth i gynnwys Cymraeg yn ffolineb. Mae ceisio cystadlu am fod yn hafan gartref gyda grym y BBC yn amhosib.
  • Gwell ceisio lledaenu brand S4C ar draws y we ac ar draws lle mae cynulleidfaoedd yn ymgynnull. Gweithio lletraws yn hytrach na fertigol.
  • Gall ddechrau gwneud hyn drwy greu ffrwd fuddsoddi ar gyfer cynnwys a gwasanaethau ar-lein

All S4C gymryd rôl galluogi a buddsoddi yn hytrach na chomisiynu?

  • ai comisiynwyr yw’r bobol iawn i wneud penderfyniadau am werth rhywbeth yn oes y rhyngrwyd?
  • Efallai gall S4C ddechrau defnyddio modelau newydd, hyd braich o fuddsoddi mewn prosiectau yn ara bach
  • Nid oes angen ariannu cyfresi hir ar-lein er mwyn llenwi amserlen
  • Mae’n un peth i ddweud y byddant yn hyrwyddo UGC fondigrybwyll, neu cynnyrch di-dal, ar eu gwefan, ond does dim son am geisio buddsoddi yn unrhywbeth i greu’r ‘UGC’ hynny

Sut all S4C newid o fod yn sefydliad gweithredoedd mawr i fod yn sefydliad gweithredoedd bach hefyd?

  • Efallai dim ond £200 sydd ei angen ar brosiect bychan ar-lein i ddechrau. Oes modd datblygu model egino. Buddsoddi’n fach mewn llawer, a buddsoddi rhagor wrth weld llwyddiant.
  • Mae modelau fel hyn yn gwbl ddiarth i S4C ond trwy ddechreuadau bach mae llawer o lwyddiannau’r we yn tyfu.
  • Os oes llwyddiant ar y gweil, yna gall S4C roi hwb drwy ei hysbysebu, a defnyddio’r platfform ‘mawr’ ar gyfer cyflymu’r twf ar-lein

Oes ffyrdd o ryddhau cynnwys ar-lein?

  • Mae angen dechrau trafodaethau ar fyrder i sicrhau bod deunydd Cymraeg yn gallu cael rhyddid a thelerau ffafriol i gael ei ddosbarthu ar-lein
  • Mae angen ail-edrych ar delerau masnach ar gyfer cynnwys ar-lein Cymraeg
  • mae cytundebau TAC/Equity/MU ac ati yn rai a ddylunwyd ar gyfer diwedd yr oes analog. Mae’n hen bryd ail-asesu.
  • Meddwl am sut mae posib rhydhau rhai mathau o gynnyrch ar-lein fel y gall gael ei ail-ddefnyddio. Trwyddedau Creative Commons yn un ffordd.

Sut all S4C ddarparu gofod i arbrofi, methu, archwilio dulliau newydd o gynhyrchu?

  • does gan neb fap ar gyfer gwneud y mwyaf o gyfleoedd a heriau’r cyfryngau fel mae’n sefyll. Rhaid felly creu lle i deimlo’n ffordd a gweld beth sydd yn gweithio yn y Gymraeg

If we want to create new forms of civic value, we need to improve the ability of small groups to try radical things…our best chance for finding good ideas is to have as many groups as possible try as many things as possible.

Clay Shirky

Sut all S4C feddwl tu hwnt i deledu prif-ffrwd gan gadw gafael ar deledu prif-ffrwd?

  • nid displacement o un technoleg/cyfrwng gyda un arall, ond ychwaengu cyfryngau at gyfryngau fydd yn cydweithio mewn ffyrdd cymhleth newydd
  • mae teledu’n dal yn bwysig, ond rhaid gwneud digon o le i’r gweddill anadlu

Oes yna ddulliau cysefin o greu cyfryngau Cymraeg ar y rhyngrwyd?

  • rhaid i ni geisio dod o hyd i beth sydd yn gweithio i ni fel siaradwyr Cymraeg.
  • Mae posibliadau di-rifedi, ond bron dim wedi cael eu harchwilio. Yn rhy aml rydyn ni’n efelychu modelau Eingl-Americanaidd.

Sut all S4C helpu i fagu cynulleidfa ddigidol?

  • yn yr un modd ac yr oedd yn rhaid i S4C adeiladu cynulleidfa Gymraeg ar gyfer ei sianel newydd yn 1982 rhaid adeiladu cynulleidfa ar gyfer deunydd ar-lein yn y Gymraeg

Criticizing present realities is important but insufficient. It can be hard to picture what the future would look like, and so to be making things, as examples of future creative diversity, in the here and now, offers a powerful and tangible form of inspiration to others – and challenges the apparent inevitability of the present.

David Gauntlett

  • mae’r nifer o esiamplau o wasanaethau ar-lein Cymraeg yn brin. Heb esiamplau da, sut mae creu y dilyniant anghenrheidiol, y loop adborth positif?
  • Mae gan S4C, rôl fawr i’w chwarae mewn hyrwyddo eraill sydd yn gwneud gwaith sydd yn cyfateb a’u briff nhw o roi gwasanaeth cyfryngau cyhoeddus Cymraeg
  • Nid gwersi llythrennedd y cyfryngau dwi’n son amdanyn nhw yma ond ceisio datblygu pobol sydd â brwdfrydedd ac egni i drio rhywbeth a’u sbarduno nhw mlaen drwy annogaeth a falle pethau fel cyrsiau technoleg dwys. e.e. http://www.apdyfrig.com/2011/02/17/awydd-gwneud-cwrs-dwys-24-awr-mewn-technoleg-newydd/

Ydyn ni’n gwneud digon er mwyn bod yn rhan o Deledu IP?

  • datblygu apps teledu IP newydd gyda arian masnachol
  • sicrhau lle teledu a rhyngweithio Cymraeg o fewn IPTV a YouView yn benodol

Mae S4C yn ymyrraeth pwrpasol ym marchnad teledu er mwyn bod yn arf ym mharhad yr iaith Gymraeg. Mae’r cyfryngau wedi newid cymaint, oes angen math newydd o ymyrraeth?

  • rhaid deall, er efallai bydd ffigyrau defnyddwyr yn llawer is na theledu i ddechrau, bod ymyrriad ym marchnad cyfryngau ar-lein yn hollbwysig nawr
  • mae cwmniau cynhyrchu Cymraeg ac unigolion o fewn y cwmniau hynny eisoes yn gwneud llawer mwy nac S4C i geisio gwthio gwasanaethau ar-lein, ond yn cael eu dal nôl.

Sut all S4C wneud cyswllt newydd, agosach, a mwy gonest rhwng S4C a’i chynulleidfa?

  • Mae bwlch naturiol rhwng cynulleidfa deledu a’r cynhyrchwyr. Mae’n gyfrwng un i nifer. Nid hawdd bydd newid y math yna o berthynas sefydliadol.
  • Gwell felly gadael hynny, a chanolbwyntio ar geisio neidio dros deledu’n llwyr a chreu gwasanaethau eraill sydd efallai’n gor-gyffwrdd gyda theledu, all leihau’r gagendor
  • I wneud hyn, efallai bod rhaid creu’r gwasanaethau hyn y tu allan i S4C fel serfydliad/sianel yn gyfangwbl.
  • Mae S4C mewn comfort zone o ran darlledu. Rhaid creu ymyrraeth fydd yn eu gorfodi i ddod allan o hyn.

Ydi S4C fel darlledwr yn strwythr addas ar gyfer datblygu ar-lein a dulliau newydd o gyd-greu?

  • mae S4C wedi cael bron i 30 mlynedd i dyfu. Mae wedi gor-dyfu efallai.
  • Nid yw wedi tyfu i wneud mwy nag un peth. Mae wedi tyfu o amgylch un peth: darlledu teledu torfol.
  • Mi fuaswn i’n dadlau nad oes gan S4C (ac nid Awdurdod S4C dwi’n ddweud fan hyn) y gallu o fewn y sefydliad i addasu.
  • Felly byddwn i’n dadlau bod angen creu corff/cwmni bach, o dan yr Awdurdod sydd yn gallu bod yn fodd i weithredu gobeithion a pholisiau an-nheledu cyfrwng Cymraeg.
  • Mae angen i’r chwaer-gorff hwn fod yn fodd o addysgu S4C a gweithio ar draws holl weithgareddau’r sianel a chyrff eraill yn yr un modd.
  • Nid wyf yn credu chwaith bod digon o arbenigedd o fewn y sianel. Does neb yn gyfrifol am strategaeth na chynnwys ar-lein yn benodol. Mae pobol sy’n gweithredu’r elfennau hynny, ond does ganddynt ddim grym, na briff croes-adrannol, seiledig mewn cynnwys.
  • Gweler beth wnaeth y darlledwr Basgeg EITB: ail-asesu pob swydd yn y sianel gan ystryied ar-lein; penodi pennaeth ar gyfer ar-lein

Mae’n rhaid creu partneriaethau – ond pa fath o bartneriaethau a beth fydd eu cost?

  • Mae S4C yn ynys. Mae wedi bod yn ynys ers dros ddegawd. Mae angen i ni nawr zoomio allan a gweld S4C fel archipelago o ynysoedd (fel y bu i ddechrau?).
  • mewn oes ddigidol dyw hi ddim yn gwneud synnwyr i gael arian cyhoeddi digidol gan y Cyngor llyfrau, arian ar gyfer datblygu technoleg gan Fwrdd yr Iaith ac arian adnoddau addysg ar-lein gan adran llywodraeth y cynulliad. Oll ar wahan, a neb yn cydweithio.
  • Onid oes modd ail-asesu crynswth yr arian sydd ar gael ar gyfer deunydd digidol Cymraeg a’i gyd-reoli gyda rhyw ftah o strategaeth rhwng S4C a sefydliadau comisiynu/grantiau/contractio eraill Cymru.
  • Nid hawdd fydd hyn – mae partneru ar brosiectau mor annodd â thynnu dannedd i sefydliadau sydd wedi rhydu yn eu hunfan. Mae’n rhaid dod o hyd i rhyw fath o WD40 sefydliadol. Wn i ddim beth (nac efallai pwy) yw hyn eto, ond mae angen rhywbeth i fod yn buffer pan ddaw sefydliadau hen-sefydledig at ei gilydd.

Felly dyna’r pwyntiau oedd gen i. Diolch i Euros am yr ysgogiad i’w rhoi at ei gilydd ar gyfer ei ddigwyddiad. Roedd yna griw da, ac ro’n i’n meddwl bod y myfyrwyr yn arbennig â syniadau diddorol dros ben.

Dwi ddim yn gwbl bendant fy meddwl am bob peth dwi’n nodi uchod, ond dwi yn meddwl bod nhw’n werth eu trafod. Bydda’n gret clywed ganddoch chi os da chi’n cytuno neu anghytuno gydag unrhywbeth.