Comparing minority languages and lesser used languages on the internet

I’m currently reading Minority Languages on the Internet: Promoting the regional languages of Spain by Peter Gerrand. It’s one of the only books that focuses primarily on the minority language on the internet from a language planning perspective rather than a more descriptive linguistic approach. His main focus is the policies implemented by the Basque, viagra Catalan and Galician autonomous communities to promote and sustain their languages on the internet.

I just wanted to quote a thought provoking paragraph from the conclusion of  his chapter outlining the role of minority language in an Internet dominated by English:

On the internet, ask the challenges for minority languages are the same as for the lesser-used national languages such as Dutch, sildenafil Czech and Norwegian: how to enhance their prestige, and avoid domain loss. Language prestige cannot be achieved without language visibility. And so it is in the interests of linguistic survival to ensure a growing amount of communication in that language on the Internet, and to ensure that the language’s online resources are not ignored by the Internet’s search tools and addressing scheme. (Gerrand, 2007:45)

What this suggests to me and my current work, and this is something that I’ve been thinking about already especially in relation to French and their relationship with English on the internet, is that comparisons of Welsh and Norwegian, Danish or Dutch could provide many interesting insights in terms of approaches to language issues and planning on the internet, particularly from the perspective of media and participation. After all, Norwegian and Dutch internauts have the same ‘internet diglossia’ problem as Welsh speakers have. You could argue that we are all diglossic with English on the internet, even though the internet now has become much more multilingual. Some would say that there are parallel internets and that the walls between the languages are too high to be  able to use the diglossia analogy. Whatever the description, the Norwegians and the Dutch alike are having to think about how their language can have an even playing field in a globalised media environment.

Wikipedia, iaith a lefelau cydweithio/cyfranogiad

Wrth edrych am y ffigyrau cyfredol am niferoedd defnyddwyr Wicipedia (neu Wikipedia Cymraeg), steroids meddyliais y byddai’n werth jest rhoi snapshot yn cymharu sawl iaith sy’n leiafrifol, rhanbarthol neu ddim yn iaith gwladwriaeth (gan gynnwys Esperanto am laff!). Dyma’r tabl ryff:

wikipedia

 

Maent wedi eu trefnu yn ôl y golofn ‘depth’. Mae Wikipedia wedi creu fformiwla ‘depth’ er mwyn ceisio deall gwerth cymharol gwahanol Wikipediau. Mae’n asesu gwerth Wikipediaiddd, sef dyfnder y cydweithio/cyfranogiad, yn hytrach nac unrhyw werth academaidd (rhagor ar Wikipedia article depth – Meta).

Dyma’r tabl eto wedi ei drefnu yn ôl nifer erthyglau:

 

wikipedsdfseger

 

Ro’n i’n chwilfrydig i weld lle roedd y Wikipedia Cymraeg yn sefyll o ran gwerth y cyfraniadau ochr yn ochr â ieithoedd lleiafrifol eraill. Fel rhyw fath o ffon fesur dyma ‘ddyfnder’ rhai Wikipedias eraill: Saesneg: 603; Ffrangeg: 143; Iseldireg: 31; Pwyleg: 13.

Un cwestiwn dwi’n meddwl amdano heddiw ydi beth ydi’r gwahaniaeth rhwng iaith ar y rhyngrwyd sydd â diglossia gyda Saesneg, a iaith sydd gyda diglossia gyda iaith arall; ac i ba raddau mae hyn yn effeithio ar lefel a natur y cydweithio/cyfranogiad. Fy rhagdybiad oedd bod Saesneg yn parhau yn iaith ddominyddol ar y rhyngrwyd, a bod siaradwyr Cymraeg a Gwyddeleg, dyweder, yn llai tebygol o ddefnyddio’r rhyngrwyd yn eu hiaith na siaradwyr Basgeg neu Galisieg. Wrth gwrs mae hyni gyd yn gor symleiddio’n llwyr, ond mae’n ddiddorol gweld beth yw’r lefel cyfranogiad.

Mae gan y Basgwyr dros ddwy waith yn fwy o ddefnyddwyr bwyiog na’r Gymraeg, ond eto, mae ‘dyfnder’ y cyfraniadau yn llai. Fodd bynnag gan bod y nifer o ddelweddau yn y Wikipedia Basgeg yn y tabl yn 1, sydd yn methu bod yn gywir, dwi’n amau bod eu ffigwr ‘dyfnder’ wedyn yn anghywir hefyd.

O bosib, gellid tynnu o hyn bod rhyw fantais yn dod i’r amlwg i ieithoedd sydd â diglossia gyda Saesneg yn achos Wikipedia. Am eu bod yn rhannu iaith gyda’r iaith fwyaf ar Wikipedia yn gyffredinol (a’r iaith weinyddol ar lefel uchaf Wikipedia), mae ychydig o’r bywiogrwydd hynny yn tollti drosodd i’r ieithoedd hynny. Bosib bod y gymuned Wikipedia ym Mhrydain, Iwerddon a’r UDA yn gryfach o ganlyniad i’r ffaith bod y Saesneg dal yn dominyddu’r wefan. Wn i ddim os yw hyn yn cyfri fel effaith bositif i diglossia gyda Saesneg am unwaith! Mae’n dibynnu os taw ‘gwerth’ neu ‘nifer’ yw eich meini prawf chi wrth gwrs. O bosib bod mwy o angen (efallai oherwydd diffyg adnoddau eraill) am nifer mwy o erthyglau mewn un iaith na’r llall hefyd.

Efallai hefyd bod y tebygolrwydd o gael erthygl gyfatebol, well a mwy trwyadl, yn Saesneg yn golygu bod llai o gynhyrchu erthgylau stwbyn, a rhoi mwy o gig ar erthyglau. Mi allai wrth gwrs, fod o ganlyniad i dîm golygyddol mwy bywiog hefyd (mae Wikipedia Cymraeg yn ail o ran niferoedd Admins, i’r Gatalaneg), ond mae’r enghraifft Wyddelig yn awgrymu nad yw hyn yn wir.

Dyna rai sylwadau sydyn, off the cuff. Faswn i’n hapus i glywed unrhyw sylwadau pellach, yn arbennig o ran y math o lefel cyfranogiad mae rhywun am ei gael mewn gwahanol ieithoedd neu sefyllfaoedd diglossaidd.