Wikipedia, iaith a lefelau cydweithio/cyfranogiad
Wrth edrych am y ffigyrau cyfredol am niferoedd defnyddwyr Wicipedia (neu Wikipedia Cymraeg), meddyliais y byddai’n werth jest rhoi snapshot yn cymharu sawl iaith sy’n leiafrifol, rhanbarthol neu ddim yn iaith gwladwriaeth (gan gynnwys Esperanto am laff!). Dyma’r tabl ryff:
Maent wedi eu trefnu yn ôl y golofn ‘depth’. Mae Wikipedia wedi creu fformiwla ‘depth’ er mwyn ceisio deall gwerth cymharol gwahanol Wikipediau. Mae’n asesu gwerth Wikipediaiddd, sef dyfnder y cydweithio/cyfranogiad, yn hytrach nac unrhyw werth academaidd (rhagor ar Wikipedia article depth – Meta).
Dyma’r tabl eto wedi ei drefnu yn ôl nifer erthyglau:
Ro’n i’n chwilfrydig i weld lle roedd y Wikipedia Cymraeg yn sefyll o ran gwerth y cyfraniadau ochr yn ochr â ieithoedd lleiafrifol eraill. Fel rhyw fath o ffon fesur dyma ‘ddyfnder’ rhai Wikipedias eraill: Saesneg: 603; Ffrangeg: 143; Iseldireg: 31; Pwyleg: 13.
Un cwestiwn dwi’n meddwl amdano heddiw ydi beth ydi’r gwahaniaeth rhwng iaith ar y rhyngrwyd sydd â diglossia gyda Saesneg, a iaith sydd gyda diglossia gyda iaith arall; ac i ba raddau mae hyn yn effeithio ar lefel a natur y cydweithio/cyfranogiad. Fy rhagdybiad oedd bod Saesneg yn parhau yn iaith ddominyddol ar y rhyngrwyd, a bod siaradwyr Cymraeg a Gwyddeleg, dyweder, yn llai tebygol o ddefnyddio’r rhyngrwyd yn eu hiaith na siaradwyr Basgeg neu Galisieg. Wrth gwrs mae hyni gyd yn gor symleiddio’n llwyr, ond mae’n ddiddorol gweld beth yw’r lefel cyfranogiad.
Mae gan y Basgwyr dros ddwy waith yn fwy o ddefnyddwyr bwyiog na’r Gymraeg, ond eto, mae ‘dyfnder’ y cyfraniadau yn llai. Fodd bynnag gan bod y nifer o ddelweddau yn y Wikipedia Basgeg yn y tabl yn 1, sydd yn methu bod yn gywir, dwi’n amau bod eu ffigwr ‘dyfnder’ wedyn yn anghywir hefyd.
O bosib, gellid tynnu o hyn bod rhyw fantais yn dod i’r amlwg i ieithoedd sydd â diglossia gyda Saesneg yn achos Wikipedia. Am eu bod yn rhannu iaith gyda’r iaith fwyaf ar Wikipedia yn gyffredinol (a’r iaith weinyddol ar lefel uchaf Wikipedia), mae ychydig o’r bywiogrwydd hynny yn tollti drosodd i’r ieithoedd hynny. Bosib bod y gymuned Wikipedia ym Mhrydain, Iwerddon a’r UDA yn gryfach o ganlyniad i’r ffaith bod y Saesneg dal yn dominyddu’r wefan. Wn i ddim os yw hyn yn cyfri fel effaith bositif i diglossia gyda Saesneg am unwaith! Mae’n dibynnu os taw ‘gwerth’ neu ‘nifer’ yw eich meini prawf chi wrth gwrs. O bosib bod mwy o angen (efallai oherwydd diffyg adnoddau eraill) am nifer mwy o erthyglau mewn un iaith na’r llall hefyd.
Efallai hefyd bod y tebygolrwydd o gael erthygl gyfatebol, well a mwy trwyadl, yn Saesneg yn golygu bod llai o gynhyrchu erthgylau stwbyn, a rhoi mwy o gig ar erthyglau. Mi allai wrth gwrs, fod o ganlyniad i dîm golygyddol mwy bywiog hefyd (mae Wikipedia Cymraeg yn ail o ran niferoedd Admins, i’r Gatalaneg), ond mae’r enghraifft Wyddelig yn awgrymu nad yw hyn yn wir.
Dyna rai sylwadau sydyn, off the cuff. Faswn i’n hapus i glywed unrhyw sylwadau pellach, yn arbennig o ran y math o lefel cyfranogiad mae rhywun am ei gael mewn gwahanol ieithoedd neu sefyllfaoedd diglossaidd.



Edrych ymlaen i weld pa dueddiadau ddaw i’r golwg. Mae gyda fi sylw neu ddau i’w hychwnaegu pan gaf gyfle. Yn y cyfamser, efallai bydd rhai o’r rhain o ddidordeb:
http://www.delicious.com/rhyswynne/ystadegau+wikipedia
Dwi ddim yn siwr os bydd hwn yn rhan o’r ymchwil a dweud y gwir, ond roedd yn sgwarnog difyr oedd yn werth ei ddilyn.
Oes rhywun wedi gwneud graff o’r data am nifer golygiadau dros fywyd Wicipedia? Dwi ddim yn gallu gwneud llawer o synnwyr o’r data crai, ond i weld efallai bod yno peak tua 2008. Ydi pethau wedi sefydlogi ers hynny? Neu ydi safon/dyfnder y cyfraniadau wedi gwella dros amser er bod y niferoedd wedi gwastadu?
Diolch – ti di weld y siartiau yma?
http://stats.wikimedia.org/EN/ChartsWikipediaCY.htm
http://stats.wikimedia.org/EN/TablesWikipediaCY.htm
Aha! Diolch am rheina Carl.
Ydion bosib cael ‘tyfnder’ neu depth i erthyglau unigol? Byse fo’n bosib gwneud Spearman’s rank i edrych ar y cysylltedd o’r Gymraeg yn dilyn y Saesneg.
Diolch am dy sylw Huw. Wn i ddim am yr ateb i dy gwestiwn am erthyglau unigol (na Spearman’s Rank, er, dwi’n meddwl nesh i ddeall o’r disgrifiad ar Wikipedia!). Rhys?
Pa fath o erthyglau faset ti isio cymharu?
Gradd Spearman yw mesur o gryfrder perthynas.
E.e. byswn yn gwneud hypothesis bod “perthynas rhwng erthyglau Cymraeg a Saesneg a bod y Gymraeg yn dilyn y Saesneg”
Yn defnyddio’r raddfa, petawn ni’n cael rhif 0.5 i 1, mae’n cytuno’n gryf â’r hypothesis. Pe bai’n -1 i -0.5 mae’n anghytuno’n gryf.
Byswn i’n samplu, unai pob un “erthygl hanfodol” a dylai fod ym mhob iaith, neu glicio ar “erthygl ar hap” a chymryd sampl o 100. Pe bae erthygl Saesneg yn troi fyny a dim un Cymraeg ar gael, felly mae’r gwahaniaeth mwyaf posib, sy’n golygu bydd yn gwthio’r raddfa tuag at y -1 (anghytuno).
Diolch am yr esboniad. Fasa’n dda gwnedu cymhariaeth yn bysa. Os faset ti’n dewis yr ethyglau mwayf nodedig yna byddai’n bur anhebyg o roi gwahaniaeth bach. Ond fasa’n fwy diddorol gweld 100 erthygl ar hap.