Comparing minority languages and lesser used languages on the internet

I’m currently reading Minority Languages on the Internet: Promoting the regional languages of Spain by Peter Gerrand. It’s one of the only books that focuses primarily on the minority language on the internet from a language planning perspective rather than a more descriptive linguistic approach. His main focus is the policies implemented by the Basque, Catalan and Galician autonomous communities to promote and sustain their languages on the internet.

I just wanted to quote a thought provoking paragraph from the conclusion of  his chapter outlining the role of minority language in an Internet dominated by English:

On the internet, the challenges for minority languages are the same as for the lesser-used national languages such as Dutch, Czech and Norwegian: how to enhance their prestige, and avoid domain loss. Language prestige cannot be achieved without language visibility. And so it is in the interests of linguistic survival to ensure a growing amount of communication in that language on the Internet, and to ensure that the language’s online resources are not ignored by the Internet’s search tools and addressing scheme. (Gerrand, 2007:45)

What this suggests to me and my current work, and this is something that I’ve been thinking about already especially in relation to French and their relationship with English on the internet, is that comparisons of Welsh and Norwegian, Danish or Dutch could provide many interesting insights in terms of approaches to language issues and planning on the internet, particularly from the perspective of media and participation. After all, Norwegian and Dutch internauts have the same ‘internet diglossia’ problem as Welsh speakers have. You could argue that we are all diglossic with English on the internet, even though the internet now has become much more multilingual. Some would say that there are parallel internets and that the walls between the languages are too high to be  able to use the diglossia analogy. Whatever the description, the Norwegians and the Dutch alike are having to think about how their language can have an even playing field in a globalised media environment.

7 thoughts on “Comparing minority languages and lesser used languages on the internet

  1. Dw i ddim yn gweld y waliau rhwng y “rhyngrwydau ieithyddol” o gwbl. Mae popeth yn hygyrch ar y we agored.

    Mae pobol yn dweud “waw” os fi’n dangos enghreifftiau o ddefnydd o Gymraeg ar-lein, e.e. WordPress Cymraeg, sy’n awgrymu i fi bod hwn yn diglossia go iawn yn meddyliau nhw.

    Hefyd mae sefydliadau wedi dilyn/hyrwyddo’r patrymau o ddiglossia, e.e. does dim lot o bobol yn cwyno i Newyddion BBC – mae gyda nhw gwasanaeth byd-eang yn Saesneg a gwasanaeth Cymru yn unig yn Gymraeg.

    Felly dw i’n gallu gweld diglossia yn rhyngwynebau, agweddau a chynnwys o bob math. Efallai dylen ni ddiffinio diglossia ar y lefelau unigolyn, grŵp, cwmnïau/sefydliadau?

    Dw i rili eisiau gweld mwy o ddefnydd o ran y plebs (ti, fi, fe a hi), yr aelwyd digidol. Mae’r llywodraeth yn gallu chwarae rôl ond dylai fe, fel mudiad, dod o’r pobol fel cyhoeddi Methodistaidd, papurau bro a chyhoeddi “amatur” gan cymdeithasau trwy hanes yr iaith.

  2. Wel, dyw popeth ddim yn hygyrch ar y we agored mewn realiti nacdi. Dyw’r we Chineaidd ddim ar gael i fi. Dydi cyfieithu awtomatig ddim yn ddigon da i gael mynediad at y diwylliant hwnnw. Mae blogiau Cymraeg ‘ar gael’ ac yn agored, ond heb rwydweithiau arlein datblygedig Cymraeg, dydyn nhw ddim wir ‘ar gael’ yn yr un modd a mae blogiau Saesneg. Gallet ti ddweud bod na wal o ryw fath.

    O ran diglossia a’r BBC arlein, mae nhw wedi defnyddio statws isel y deunydd Cymraeg (ac felly diffyg impetus i’w ddiweddaru/gwella) fel sail i resymeg dros gael gwared ar wasanaeth yn gyfangwbl. Pe baem ni’n ymestyn yr un rhesymeg dros yr holl gyfryngau Cymraeg yna fyddai na ddim byd ar ol!

    1. Mae’r cynnwys yn hollol hygyrch o ran technoleg a dosbarthu. Roedd dosbarthu cynnwys yn her mawr, nawr dyw e ddim yn her o gwbl.

      Dw i’n derbyn y pwynt am destun Chineaidd.

      Beth sy’n ddiddorol i fi yma yw’r dyfyniad Lawrence Lessig:
      “Text is today’s Latin. It is through text that we elites communicate… For the masses, however, most information is gathered through other forms of media: TV, film, music, and music video. These forms of “writing” are the vernacular of today. They are the kinds of “writing” that matter most to most.”.

      Mewn geiriau eraill, tu fas o academia (y sgwrs yma!) mwy a mwy mae’r tyrfaoedd yn dilyn fideo/YouTube a lluniau yn hytrach na darnau hir o destun – weithiau yn iaith nhw.

      Dwyt ti ddim wedi darllen Chineaidd – ond rwyt ti wedi gweld fideos yn sicr. Mae diwylliannau cryf yn gweithio yn galed ar yr her o greu dyllau yn y wal – sy’n golygu mynediad i farchnadoedd eraill, e.e.http://ytwll.com/2011/05/sin-pop-corea/

      Efallai mae’r wal rhwng sgyrsiau academaidd ni ac ein pobol yn fwy na’r hyrdlen rhwng y bobol a diwylliannau eraill. Dylai’r UDA a Lady Gaga cael sôn arbennig yma.

      Yn ôl Gerrand “language prestige cannot be achieved without language visibility”. Ydy’r gymhariaeth teledu yn ddefnyddiol yma – beth yw/oedd un o’r dylanwadau Saesneg cryfach yn y cartref yng Nghymru ers tua 1960? Papurau newydd i raddau ond rhaglennu teledu oedd y brenin – gyda phlant yn arbennig. Roedd papur dyddiol yn bosib yn y 1970au ond roedd y ffocws ymgyrchu ar sianel teledu – am resymau da iawn.

      Dim ond meddwl nawr. Meddwl amdano fe lot mwy ar ôl darllen dy sylw.

Gadael Ateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>