Cyngor doeth Douglas Adams ar sut i stopio poeni am y rhyngrwyd

Diolch i Iwan Standley am fy mhwyntio fi at erthygl o 1999 gan y lej, cost Douglas Adams, sydd yn gosod yn syml iawn ac yn ei arddull unigryw pam bod dim angen i bobol fod yn bryderus wrth drafod y rhyngrwyd gan roi’r argraff ei fod yn rywbeth llawer mwy dirgel nag ydi o.

Mae’r paragraff yma am ‘ryngweithio’ yn arbennig o dda:

[…] ‘interactivity’ is one of those neologisms that Mr [John] Humphrys likes to dangle between a pair of verbal tweezers, but the reason we suddenly need such a word is that during this century we have for the first time been dominated by non-interactive forms of entertainment: cinema, radio, recorded music and television. Before they came along all entertainment was interactive: theatre, music, sport – the performers and audience were there together, and even a respectfully silent audience exerted a powerful shaping presence on the unfolding of whatever drama they were there for. We didn’t need a special word for interactivity in the same way that we don’t (yet) need a special word for people with only one head.

Yn anffodus ma’r erthygl yr un mor addas rwan ac ym 1999, gyda rhai newyddiadurwyr a darlledwyr eraill (yn fwriadol neu yn ddiarwybod iddyn nhw) yn parhau i drin y rhyngrwyd neu’r we fel creadur diddorol egsotig, yn hytrach na haen arall o fywyd sydd yn cwmpasu cyfathrebu, gwaith, economi, bywyd personol – y cwbl lot.