Arriva Cymru a phroblem fawr y Gymraeg ar y we

Arriva Cymru? Be sgen hynny i neud efo’r Gymraeg ar y we?

Wel…hyn:

Dwi’n siwr bod nhw’n ymwybodol o hyn yn Newyddion BBC a Golwg360 ond mae chwilio Google yn broblem mawr iddyn nhw o ran denu darllenwyr, drug ac yn broblem mawr i ddarllenwyr sydd eisiau ffeindio straeon Cymraeg.

Y diwrnod o’r blaen o’n i eisiau darllen am y llanast Bysus Arriva Cymru, pilule felly chwiliais “Arriva Cymru”. Canlyniad?

Chwilio Arriva Cymru

Dim newyddion. Dim ond gwefannau swyddogol (gyda dim hyd yn oed newyddion am y cyhoeddiad ar wefan Arriva, thumb natch).

Trio eto felly a chwilio, fel dwi’n arfer gwneud erbyn hyn yn Saesneg am “Arriva Wales”. Canlyniad?

Arriva Wales

Chydig yn well, ar ôl y 3 canlyniad uchaf mae canlyniadau diweddar iawn am newyddion gan wefannau BBC News, WalesOnline a rhywbeth arall o’r enw 4ni.

Clic felly ar stori BBC News gan feddwl ffeindio’r erthygl Gymraeg. Oeddwn i’n gallu ffeindio’r ddolen i fynd at dudalennau BBC Cymru? Ddim am hydoedd. Sganiodd fy llygaid bach ar draws ac i lawr y dudalen, ac yn ôl i fyny eto. Roeddwn i’n chwilio am “Cymraeg” yn y gornel top dde, gan mod i’n reddfol erbyn hyn yn meddwl taw fan honno mae’r switsh iaith.

BBC Wales Arriva

Ond does dim switsh iaith. A Newyddion ydi’r enw ar y ddolen. Yn y diwedd mi ffeindiais y ddolen a chlicio drwodd i fama:

Hafan NewyddionA wedyn clicio i fama:

Erthygl Newyddion Arriva

A chael at lle o’n i isio mynd yn y lle cynta, 4 clic yn ôl. Yn y cyfamser mae pob person call sydd wedi gwneud yr un peth wedi setlo ar gael yr wybodaeth o’r tudalennau Saesneg.

A doedd Golwg360 ddim hyd yn oed ar y radar Google yn ystod hyn i gyd.

Afraid deud bod hyn yn broblem enfawr i newyddion Cymraeg ac yn dangos pa mor bwysig ydi integreiddio newyddion Cymraeg mewn i chwiliadau Google. Dwi’n deall yn iawn bod BBC Newyddion a Golwg360 bownd o fod yn torri’u boliau eisiau cael Google [Gol: Google News UK, ‘lly] i’w derbyn ond dyma’r broblem eto fyth – mae’r penderfyniadau yn gwbl allan o’n dwylo ac mae pob un achos fel hyn ar draws y we yn gwneud yr iaith yn fwy a mwy anweledig.

‘Shocked acquiesence’ mae’r erthygl yma’n galw’r ffenomenon yma o ddechrau’r unfed ganrif ar hugain sydd yn disgrifio’r teimlad o gael eich syfrdanu gan rywbeth sydd mor fawr ac allan o’ch rheolaeth fel PRISM neu newid hinsawdd na allwch chi ddelio gyda fo mewn unrhyw ffordd ond ei anwybyddu. Mae’n siwr fod na lot o eiriau amdano, rhyw ochenaid fawr a “o wel”. Mae na deimlad fel’na braidd am ddyfodol y Gymraeg arlein yn wyneb Google ac ati. Mae Luistxo Fernandez yn ei alw’n ‘Twitter tsunami’ mewn cyd-destun arall. Moch ar y winllan efallai fasai’r term Saundersaidd Cymraeg addas mae’n debyg.

Ond mae’r winllan wedi cael ei thirfeddiannu ers tro a rhaid gofyn i Google am ganiatad i brynu ein grawnwin ein hunain yn ôl erbyn hyn, a hynny ar premium. Does dim rheolaeth ganddon ni dros sut mae cael mynediad a sylw at y Gymraeg ar y we. Os taw cael sylw i gynnwys yw problem fawr ein oes, yna mae cael sylw at gynnwys Cymraeg yn broblem hyd yn oed yn fwy. Gallai llywodraeth Thatcher ildio S4C i ni ar un o bedair sianel deledu. Roedd honno’n sicrhau bod sylw priodol i gynnwys Cymraeg. Ond ni all yr un llywodraeth roi ‘S4C’ i ni ar gyfer y we. Neu allan nhw?

Ai cael teli Cymraeg ar sgrin gyntaf YouView ac iplayer sy’n gyfatebol rwan? Falle. Ond mae hynny ond yn ateb un rhan o’r broblem cynnwys. Efallai taw cael Google, Twitter, Facebook, YouTube i roi statws i gynnwys Cymraeg yn eu gwasanaethau fyddai ‘ildio S4C’ ein hoes. Hynny yw, nid dim ond caniatau i ni gyfeithu ein rhyngwynebau ar eu rhan (o! Diolch yn fawr Twitter, dwi’n gwybod eich bod chi’n sgint!!), ond sicrhau bod ein cynnwys yn cael tegwch yn y gêm hyn o rymoedd gwladwriaethol a chwmniau masnachol traws-wladwriaethol sy’n cael ei alw’n ‘economi sylw’. O barhau’r trosiad S4C, a fyddai ymgyrchwyr S4C wedi bodloni ar gael y cyflwynwyr continuity ar BBC Cymru, ITVWales a Channel 4 Wales yn darllen mewn dwy iaith rhwng rhaglenni Saesneg? No we. Y cynnwys oedd yn bwysig. Lleoliad y cynnwys hwnnw yn yr amserlen oedd yn bwysig. Y cynnwys sydd yn bwysig rwan hefyd. Ac mae lleoliad y cynnwys hwnnw’n bwysicach nag erioed.

Ond dyma rai cwestiynau sydd gen i sydd, dwi’n meddwl angen eu hateb yn fwy ar frys, efallai, na sut mae ariannu parhad teledu ar S4C:

  • Sut mae cael cynnwys Cymraeg i ymddangos ochr yn ochr â Saesneg fel yr oedd gyda S4C yn y byd 4 sianel?
  • Sut mae gwneud y we Saesneg yn fwy porous/permeable o ran y Gymraeg yn lle’r ffordd arall rownd?
  • Faint o werth roddech chi ar gyflawni hynny? £1miliwn? £10miliwn? £70miliwn?
  • Pwy ddyla dalu? Google et al eu hunain, neu dreth arbennig, y Llywodraeth (pa un?) neu arian S4C?
  • Faint o werth mae strategaeth iaith y Llywodraeth yn rhoi i ‘sylw’ ar y we?
  • Faint o werth ydyn ni gyd fel pobol brwdfrydig tech Cymraeg yn rhoi ar hynny?

Dwi ddim yn arbenigwr ar search o bell ffordd, ond ma’n rhaid bod na atebion – neu ydan ni jest am ista mewn shocked acquiescence? Ar hyn o bryd – dyna da ni’n ei wneud. Yn araf i dderbyn a deall goblygiadau’r dechnoleg i’n iaith a’n ddiymadferth wrth geisio meddwl am beth i wneud pan ydyn ni’n dechrau sylweddoli’r goblygiadau hynny.

So plis, tynnwch fi o fy shocked acquiescence, ydi hi mor ddu â hynny?

7 thoughts on “Arriva Cymru a phroblem fawr y Gymraeg ar y we”

  1. Ydi Golwg360 a Newyddion BBC wedi ceisio cael eu cynnwys wedi ychwanegu i Newyddion Google? Dyw e ddim yn amhosib nadi – mae Wales Online a News Wales a’r Tivyside Advertiser wedi gwneud. A hyd yn oed porth fel 4ni sydd jyst yn crynhoi cynnwys pobl arall.

    Mae yna broblem SEO fan hyn hefyd. Ar ôl 4 mlynedd a’r holl gynnwys fase chi’n meddwl fydde gan Golwg360 PageRank fwy na 0? Mae gan fy mlog tila i 3, Y Cymro 4, cylchgrawn Barn 4. Mae yna lawer fwy o ystyriaethau na PR ond mae arwydd o broblem rhywle.

    Mae Google, Bing ac eraill yn rhoi’r adnoddau i gyd ar gael i ddarparwyr. Mae ganddyn nhw lawer i wella o rhan lleoleiddio a chefnogi ieithoedd heblaw saesneg ond dwi ddim yn gweld pam ddylen nhw neud ffafr i unrhyw un yn arbennig.
    Mae angen arbenigedd ddofn a addasu cyson i ddeall y gamp o fwydo cynnwys i chwilotwyr, felly os oes angen dysgu hynny i ddarparwyr cynnwys Cymraeg mae yna fwlch yn y farchnad i rhywun.

    1. Dwi’n eitha sicr bod G360 wedi/yn trio efo Google News. Meddwl taw’r iaith ydi’r maen tramgwydd, fysa’n esbonio pam bod BBC Wales yna a ddim BBC Newyddion. Allai ddychmygu na fasa Google isio cynnwys ieithoedd eraill yn ‘llygru’ eu ffrwd Google News (ar google.co.uk). A does dim Google News ar gael yn y Google Cymraeg (mai god ma’r tudalennau yna’n pathetig…). So dwi ddim yn meddwl bod o gyd yn SEO o bell ffordd, er fel o’n i’n deud, dwi ddim yn gyfarwydd a manylion SEO.

      Sa’n dda o beth cael trafodaeth yn rhywle am SEO a’r Gymraeg a deud y gwir. Pwy di’r arbenigwyr allan na all neud hynna?

  2. Sori.. ie dwi wedi deall nawr am Google News – mae’n broblem fod fersiwn ‘uk’. Gwir obeithio y bydd .cymru yn gallu datrys hwn os yw Google yn tynnu’i bysedd mas.

    Mae PageRank yn gweithio ar dudalennau unigol nid parth. Y broblem gyda Golwg360 yw mai dim ond y dudalen uchaf sy’n cael PR a mae hwnnw yn ailgyfeiriad 302 (nid 301 parhaol) i /newyddion. Felly dyw Google ddim yn trin tudalennau o dan /newyddion gyda unrhyw werth o gwbl. Mae’n bosib gweld y gwahaniaeth gyda eu gwefan arall – http://www.swyddi360.com sydd a PR o 4 lawr i 2 ar rhai tudalennau. Mae gan http://www.safleswyddi.com PR o 4 a 3 ac yn curo Golwg yn y canlyniadau.

    Mi ddylie Golwg fod yn cael canlyniadau uchel am lawer o gyfuniadau geiriau heb angen fod yn Google News.

  3. Chydig mwy o dystiolaeth o broblemau i newyddion Cymraeg mewn erthygl heddiw am BuzzFeed a newyddion:

    Mitchell also said that Facebook is continually tuning its news feed algorithm to ensure that when people click on lots of links to news about a particular topic – controversies around the Sochi Winter Olympic Games, for example – they’ll be more likely to see more stories about that.

    He also warned that Facebook is analysing how quickly its users return after clicking on stories, in order to spot “linkbait” headlines that will then be less likely to appear in people’s news feeds.

    Felly, Facebook, beth am roi prominence i newyddion Cymraeg i bob person sydd yn defnyddio proffil Cymraeg? Achos y ffordd mae’n digwydd rwan, mae sdwff Cymraeg jest yn cael ei drin fel ‘amhoblogaidd’ ac felly’n rank isel. Cyn bo hir bydd Twitter yn gwneud yr un peth – pa mor hir nes byddan nhw’n tynnu’r opsiwn ‘view all’ ar eu search er mwyn “gwella profiad y defnyddiwr”.

    Be da ni isio? Algorithms gwell! Pryd da ni isio nhw? Rwan!

Comments are closed.