Mae côd, algorithmau a data yn wleidyddol.

Sdim amser gen i i sgwennu cofnod lawn am hyn ond mae’n rhywbeth dwi’n meddwl dipyn amdano ar hyn o bryd sef y berthynas rhwng côd a grym.

Yr erthygl ysgogodd fi i sgwennu’r gofnod oedd yr un isod gan Evgeny Morozov yn y Süddeutsche Zeitung

GhostsintheMachines«DerFeuilletonist.

Dyma ddyfyniad:

To attack technology today is not to attack the Enlightenment – no, allergy it is to attack neoliberalism itself.

ac

Today, visit a robust critique of technology should, thumb first of all, be a critique of neoliberalism itself. Such recalibration might not do much by itself but it would at least force the apologists of perpetual digital disruption to come up with explicit arguments as to why public health or public education are no longer worth fighting for. And, with some luck and provocation, the public – or whatever is left of it – might not like what it hears.

Mae’r erthygl yn sôn nid am bolareiddio tech = drwg / tech = iwtopia ond i sicrhau ein bod yn feirniadol o beth sydd yn yn digwydd drwy côd, algorithmau a data (ma’r term ‘big data’ yn sdiwpid a dwi’n gwrthod ei ddefnyddio – jest mwy o ddata dio!).

Felly dyma ddyfyniad bach arall am y berthynas rhwng data, côd a gwleidydiaeth ar flog Eaves.ca:

A little over a year ago I said that contrary to what many open data advocates believe, open data will make data political – e.g. that open data wasn’t going to depoliticize public policy and make it purely evidenced base, quite the opposite, it will make the choices around what data we collect more contested (Canadians, think long form census). The same is also – and already – true of the algorithms, the code, that will increasingly regulate our lives. Code is political.

Hwn ydi’r sdwff anweledig sydd yn gynyddol reoli’n bywydau ac y byddwn ni’n sylweddoli ar ryw bwynt fel gyda algorithms ffiltro Google, YouTube, a Facebook (ac yn y pen draw, Twitter hefyd) eu bod nhw’n effeithio ar ieithoedd llai a lleiafrifol mewn ffordd andwyol hefyd.

Be felly sy’n cael ei wneud i gadw trefn ar gôd, a phwy sy’n rheoli hynny. Ymlaen â ni at y cysyniad o “Algorithmic regulation” gan Tim O’Reilly…

http://beyondtransparency.org/chapters/part-5/open-data-and-algorithmic-regulation/

 Search engines regulate the results and advertisements they serve up to us, doing their best to give us more of what we want to see.

O'RLY?
O’RLY?

Ydach chi wir yn credu bod Google yn gwneud eu gorau i roi rhagor o ddeunydd Cymraeg yn weledol i bobol sydd eisiau deunydd Cymraeg? Sgersli.

Mae Tim O’Reilly’n gofyn am fwy o “algortithmic regulation” ar lywodraeth drwy ddefnydd data, ond pan mae algorithmau’n creu “market failure” ieithyddol (.DOC)- rhaid i ni fod yn ofalus iawn bod llais ganddon ni yn yr algorithmau sy’n dod yn rhan (anweledig) o’n bywydau yn yr un ffordd ag oedd angen llais a safle blaenllaw arnom ni yn y system ddarlledu teledu a radio.

Pwy sy’n rheoleiddio’r algorithmau? Sut maen nhw’n trin ieithoeddd? Ar gyfer mantais pwy? Sut mae systemau rheoleiddio’n effeithio ar leiafrifoedd ieithyddol a’r di-rym?

Ma rhain yn gwestiynau pwysig a brys dwi’n meddwl. Amser i ni gymryd gwleidyddiaeth côd o ddifri?

2 thoughts on “Mae côd, algorithmau a data yn wleidyddol.”

  1. Yn union, ac mae’n anghywir i ddweud bod technoleg yn ‘niwtral’ achos mae’n adlewyrchu gwerthoedd y bobl sydd yn eu rheoli…

    1. (credit i ti am yr O’Reilly/O RLY pun gwreiddiol gyda llaw!)

      Y broblem yw *bod* llywodraethau a gwneuthurwyr polisi sy’n seiliedig ar tech yn gweld tech fel rhywbeth niwtral. Mae’r gains sy’n cael ei wneud drwy scale ac arbedion costau atomau/bits yn cuddio’r problemau eraill: e.e. y symudiad i ddefnydd tabledi (Apple) ac apiau mewn dosbarthiadau ysgol –> amharu ar/ymyrryd gyda isadeiledd adnoddau dysgu dwyieithog print sydd wedi cael ei adeiladu dros ddegawdau.

Comments are closed.