Cyhoeddi llyfr Social Media and Minority Languages

Dwi’n hapus iawn, iawn, i ddweud bod y llyfr Social Media and Minority Languages wedi cael ei gyhoeddi gan Multilingual Matters. Cafodd ei olygu gan fy nghyfeillion a chydweithwyr Elin Haf Gruffydd Jones ac Enrique Uribe-Jongbloed ac mae’n wych gweld y gwaith yn mynd yn gyhoeddus.

Mae yna erthygl yr oeddwn i’n gyd-awdur arno gyda Dr. Daniel Cunliffe, sef “The Welsh language on YouTube: Initial Observations” lle roedden ni’n trafod ymchwil dechreuol i geisio cael syniad o beth oedd rhychwant a natur defnydd yr iaith Gymraeg ar YouTube, boed mewn fideos neu o fewn disgrifiadau, proffiliau neu sylwadau. Mae’n deimlad braf cael gweld ymchwil yn cael ei gyhoeddi, achos fasa’n gret gweld trafodaeth bellach amdano, yn beirniadu, adeiladu neu rywbeth! Felly plis, ymatebwch os di’r maes fideo a ieithoedd lleiafrifol o ddiddordeb.

Roedd nifer eraill o’r papurau’n rai a gyflwynwyd yng Nghynhadledd Ryngwladol Mercator ar Amrywiaeth Ieithyddol a Chydgyfeiriant Cyfryngau, a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym Mai 2010. Gallwch chi ddarllen adroddiad o’r gynhadledd honno gyda chrynodebau o sesiynau a themâu yn ogystal â’r abstracts ar gyfer y gynhadledd yn y PDF yma gan Rwydwaith Mercator.

Gallwch chi brynu’r llyfr clawr caled ar Amazon (er, dwi’n gobeithio’n fawr daw fersiwn clawr meddal o ystyried y pris!), neu ar gyfer y Kindle am bris llawer mwy rhesymol, neu’r fersiwn clawr caled gyda 20% o ostyngiad gan Multilingual Matters eu hunain.

Dyma’r rhaflas Google o’r llyfr i’ch temtio, ac lle gallwch chi ddarllen chydig o’r ymchwil wnaethon ni:

Mae ‘na sdwff diddorol iawn o fewn y llyfr, a hyd yn oed os nad ydi o’n rywbeth wnewch chi brynu’n bersonol falle gall eich llyfrgell Brifysgol ei brynu. Mi fase’n braf gweld trafodaeth yn codi yn ei sgil.

Diwrnod Ada Lovelace: dathlu Christina Xu a menywod Hacio’r Iaith

Mae Christina Xu yn un o arwresau’r Internets. Mae hi’n llythrennol awesome, fel y bydda i’n esbonio isod, a hi falle sydd wedi fy ysbrydoli i fwy diweddar a dyna pam dwi eisiau rhoi props iddi hi ar ddiwrnod Ada Lovelace heddiw.

Y rheswm? Wel, nes i fynd i sesiwn yn SXSW llynedd ar harnesu grym y rhyngrwyd er mwyn gwneud y byd ma’n well. Roedd Christina’n siarad am brosiect Awesome Foundation, sydd yn lledaenu’r syniad o sefydlu grwpiau bach i ddod at ei gilydd i greu cynllun micro-grantiau ar gyfer pob math o bethau o waith elusennol, i sdwff eraill mewn technoleg a gwyddoniaeth na fysa’n hawdd ei ariannu drwy ffynhonellau eraill.

Roedd y syniad mor syml a hithau mor frwdfrydig y ces i’n ysbrydoli’n syth i drio gwneud rhywbeth fel’na yng Nghymru, sydd yn sgrechian am ffyrdd o ariannu prosiectau sydd ddim yn dod o’r pwrs cyhoeddus. Rwan, dydw i ddim wedi gwireddu’r syniad yna eto (os oes rhywun isio helpu fi yna plis ewch draw i’r drafodaeth yma!) ond dwi dal yn argyhoeddiedig y gall o fod o werth mawr i gymdeithas yma.

Yn ystod y cyflwyniad clywais i bod hi hefyd yn un o sylfaenwyr ROFLcon sef cynhadledd am ddiwylliant rhyngrwyd, lle mae’r cyfaill Carl Morris wedi bod yn siarad, ag oedd Christina yn ei gofio’n iawn wrth i ni gael sgwrs ar ol ei phanel (“Carl? Oh yeah, he’s obsessed with Welsh stuff right?”).

Mae hi’n gweithio yn adran Cyfryngau Sifig MIT (lle faswn i wrth fy modd yn cael job!) ac wedi astudio hanes gwyddoniaeth yn ôl ei biog.

Dyma gofnod blog gwych ganddi hi sydd yn werth darlleniad sydd yn trafod amrywiaeth ar y rhyngrwyd a’r syniad o ddiffyg amrywiaeth mewn agweddau o ddiwylliant hiwmor rhyngrwyd a diwylliant memes yn benodol.

Felly ie, diolch am yr ysbrydoloiaeth Christina, well i fi drio ‘neud nid deud’ rwan yn dydi.

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

Merched Hacio’r Iaith

Fel bonus enwebiad dwi hefyd isio diolch i’r holl fenywod sydd yn rhan o Hacio’r Iaith yn mynychu, cyfrannu a darllen/gwylio/gwrando. Dwi’n meddwl faswn i’n gneud anhegwch drwy roi cofnod unigol iddyn nhw, ond ma na ferchaid talentog a gwych ym maes ymchwil, technoleg, côdio, dylunio a chyfryngau sydd wedi bod yn rhan fawr o’r gymuned ers y dechrau un. Gobeithio gwelwn ni fwy fyth o ferchaid yn Hacio’r Iaith 2013, a gobeithio bod Hacio’r Iaith yn gallu cario mlaen i wella faint o ferchaid sy’n cymryd rhan yn y dyfodol.

* * * * * * * * * * * * * * *

Diolch i Suw am greu Diwrnod Ada Lovelace. Ti’n ossym fyd.

Rhwydweithau niche, hen dechnoleg a hunaniaeth grŵpiau

Dyfyniad o flog Fever Bee heddiw wnaeth wneud i fi feddwl am bapurau bro:

Successful communities has very little to do with technology and a lot to do with developing a strong group identity. For many niche communities, using an older platform is part of their group identity.

Mae’r plygu papur, system gysodi, a’r rhwydwaith ddosbarthu papurau bro yn rhan o’r hunaiaeth grwp a’r rheswm mae pobol yn ei wneud o.

Oes modd magu rhywbeth tebyg sydd mor gryf ar gyfer cyhoeddiadau lleol arlein?

Help us get minority languages on the agenda at SXSW Interactive 2013!

I, along with Kevin Scannell (founder of Indigenous Tweets) and Maite Goni (Basque expert on education, languages and web 2.0), have proposed a panel for South by Southwest Interactive 2013, one of the most exciting and most important stages for discussions about the web and digital media. The title of the panel is “Social Media: A New Hope for Minority Languages?”.
It would be a great thing indeed if we could give a voice to some of the smaller languages and the issues their speakers face online at this event. But in order to do that, we need to garner votes, and stimulate discussion to show them that our panel is worth picking.
You can help us do that by registering on the SXSW Panel Picker website and then give our panel a thumbs up vote. This is the URL you need to get clicking: http://panelpicker.sxsw.com/vote/3581
You’re welcome to put a comment on the page too, discuss/criticise the choice of questions/topic. It’s all good stuff. Or, if you don’t want to register then please share this email, or give us a mention on social networks so that we can increase the visibility of our campaign. Voting closes on August 31st. Every vote counts!
We hope you agree that it’s a panel worth voting for, and we’d welcome any comments. Thanks for your time! Much appreciated.
Here’s the pitch…

There are approximately 6,000 languages spoken in the world; of these UNESCO believes that over half will disappear by the end of this century. Two thirds of the world’s languages are spoken by less than 20,000 people. Minority Languages are spoken all over the world, and the internet is becoming increasingly multilingual.

But do speakers of such minority languages actually use them on social media? What are the ways in which social media can benefit these languages? Can memes indicate language health? How do minority languages compete when scale and global reach is so much of a factor in social media’s appeal? And why use a minority language online when it’s just easier to communicate in English, Spanish or Mandarin?

This panel will try to unpick the relationship between social media and languages, from the perspective of developers, content producers and language technologists, and question whether online technologies are a boon or a disaster for minority languages.

Vote now! http://panelpicker.sxsw.com/vote/3581

2013: blwyddyn trafod ieithoedd lleiafrifol arlein yng ngŵyl SXSW?

Rydw i, ar y cyd gyda Kevin Scannell (sefydlydd Indigenous Tweets) a Maite Goni (arbenigwraig addysg, ieithoedd a gwe 2.0 o Wlad y Basg), wedi cynnig panel ar gyfer gŵyl South by Southwest Interactive 2013. Teitl y panel yw “Social Media: A New Hope for Minority Languages?”.

 Mi fasen hi’n wych o beth pe gallen ni gael llais i ieithoedd bychain ar y we ar brif lwyfan rhyngwladol y diwydiant rhyngweithiol a chyfryngau digidol. Ond er mwyn gwneud hynny, rhaid i ni gael llu o bleidleisiau i’n panel ni, a chreu digon o sŵn amdano iddyn nhw gymryd sylw ohono.
Gallwch chi helpu drwy gofrestru ar y wefan Panel Picker SXSW a rhoi bawd fyny wrth ein panel ni: http://panelpicker.sxsw.com/vote/3581
Mae croeso i chi roi sylw ar y dudalen hefyd, neu bydd jest rhannu’r ddolen drwy ebost neu rwydweithiau cymdeithasol yn help mawr. Mae ganddon ni tan 31 Awst i hel pleidleisiau. Bydd pob pleidlais yn cyfri!
Gobeithio eich bod chi’n meddwl ei fod yn syniad teilwng, a fasen ni’n croesawu unrhyw sylwadau. Diolch am eich amser!

There are approximately 6,000 languages spoken in the world; of these UNESCO believes that over half will disappear by the end of this century. Two thirds of the world’s languages are spoken by less than 20,000 people. Minority Languages are spoken all over the world, and the internet is becoming increasingly multilingual.

But do speakers of such minority languages actually use them on social media? What are the ways in which social media can benefit these languages? Can memes indicate language health? How do minority languages compete when scale and global reach is so much of a factor in social media’s appeal? And why use a minority language online when it’s just easier to communicate in English, Spanish or Mandarin?

This panel will try to unpick the relationship between social media and languages, from the perspective of developers, content producers and language technologists, and question whether online technologies are a boon or a disaster for minority languages.

http://panelpicker.sxsw.com/vote/3581

Cyngor doeth Douglas Adams ar sut i stopio poeni am y rhyngrwyd

Diolch i Iwan Standley am fy mhwyntio fi at erthygl o 1999 gan y lej, Douglas Adams, sydd yn gosod yn syml iawn ac yn ei arddull unigryw pam bod dim angen i bobol fod yn bryderus wrth drafod y rhyngrwyd gan roi’r argraff ei fod yn rywbeth llawer mwy dirgel nag ydi o.

Mae’r paragraff yma am ‘ryngweithio’ yn arbennig o dda:

[...] ‘interactivity’ is one of those neologisms that Mr [John] Humphrys likes to dangle between a pair of verbal tweezers, but the reason we suddenly need such a word is that during this century we have for the first time been dominated by non-interactive forms of entertainment: cinema, radio, recorded music and television. Before they came along all entertainment was interactive: theatre, music, sport – the performers and audience were there together, and even a respectfully silent audience exerted a powerful shaping presence on the unfolding of whatever drama they were there for. We didn’t need a special word for interactivity in the same way that we don’t (yet) need a special word for people with only one head.

Yn anffodus ma’r erthygl yr un mor addas rwan ac ym 1999, gyda rhai newyddiadurwyr a darlledwyr eraill (yn fwriadol neu yn ddiarwybod iddyn nhw) yn parhau i drin y rhyngrwyd neu’r we fel creadur diddorol egsotig, yn hytrach na haen arall o fywyd sydd yn cwmpasu cyfathrebu, gwaith, economi, bywyd personol – y cwbl lot.

Rhai gwefannau a gwasanaethau diddorol o sxsw interactive 2012

Cyn i fi anghofio, a fel bo fi’n gallu taflu’r papurach ddes i nôl efo fi, dyma restr o rai gwefannau a gwasanaethau diddorol ddes i ar eu traws yn sxsw interactive:

Awesome Foundation : jyst ossym. Y we’n rhoi nôl.

Reddit Gifts : secret santa drwy’r flwyddyn

Zeega : platfform HTML5 ar gyfer i-docs ac ati.

Snap Cuts : ffordd syml iawn o wneud golygiadau bach i gyfres o glipiau byr.

Life Dots : gwefan sydd yn rhoi trefn ar eich cynnwys arlein a’i osod allan mewn ffordd gronolegol ddeniadol.

Backbone : gwasanaeth radio ar gyfer colegau (ond efallai o ddefnydd i Twrw fel opsiwn?)

Pond5 : stock media

WeVideo : golygu fideo cydweithredol yn y cwmwl

Sharemyplaylists : anfon playlists Spotify fel mixtapes

Sensum : “Sensum is a mobile platform that enables both your conscious and emotional choices to personalise any entertainment experience.”

Paper Apps : electronics wedi ei argraffu ar bapur.

Instructables : DIY

MakerBot : adeiladwch eich argraffydd 3D eich hun am llai na £1500

Salsa Labs : platfform ar gyfer helpu NGOs i weithredu arlein

Newsit : platfform cydweithredol ar gyfer adrodd newyddion

Psonar : ffrydio cerddoriaeth arlein ‘pay per play’

DeadSoci.al : ffordd o adael negeseuon i bobol drwy rwydweithiau cymdeithasol ar ôl i chi farw

TheAppBuilder : ffordd syml o adeiladu apps syml

Hibe : rhwydwaith gymdeithasol lle gallwch chi greu proffiliau gwahanol ar gyfer agweddau gwahanol o’ch bywyd.

BigMarker : cymunedau arlein + fideogynhadledd ar gyfer hyd at 50 o bobol yn y stafell

TubeMogul : hysbysebu ar gyfer fideo arlein

Sitebeam : teclyn diddorol ar gyfer asesu gwefannau am bob math o ffactorau o hygyrchedd i werth y cynnwys

Cynhadledd – NPLD/S4C – Conference

Llwyth, Prout, Pinzás, a’r closet ieithyddol

Diddorol darllen y dyfyniad hwn o ymateb Sioned Williams i adolygiad Non Tudur o’r ddrama Llwyth:

Mae’n archwilio natur perthyn ar gymaint o lefelau – yn rhoi perspectif nid yn unig ar hunaniaeth rhyw, ond hefyd hunaniaeth genedlaethol ac hunaniaeth ieithyddol. “Mae Cymraeg yn queer” yw un o linellau’r sgript – a’r awgrym yw bod dim modd diffinio diwylliant ( na rhywioldeb) mewn ffordd un llygeidiog.

Mae’n syniad diddorol yntydi? Ydi Cymraeg yn queer?

Ond be yn union ma hynny’n feddwl? Dyma ddyfyniad gan David Halperin o’r erthygl Wikipedia ar theori queer:

Queer is by definition whatever is at odds with the normal, the legitimate, the dominant. There is nothing in particular to which it necessarily refers. It is an identity without an essence. ‘Queer’ then, demarcates not a positivity but a positionality vis-à-vis the normative.[cyfeirnod]

Mae profiadau o siarad Cymraeg yn ffitio llawer o’r disgrifiad. Eto, nid yw siarad Cymraeg yn hunanaiaeth heb essence, jest yn wrthbwynt pur i siarad Saesneg. Efallai bod y ddisgwrs ‘leiafrifol’ yn queer fodd bynnag, a’n bod ni’n defnyddio gwrthwynebedd pan fo’n gyfleus, ac yn defnyddio syniadau o normaleiddio ar adegau eraill.

Mae theori queer yn sicr yn ddiddorol wrth edrych ar iaith o fewn y ddrama Llwyth. Ydi’r iaith wedi ei normaleiddio yno yn yr ystyr ei fod yn siarad real, er mewn ffurf sydd yn annerbyniol i lawer fel Cymraeg ‘derbyniol’ ac felly’n queered? Ydi defnydd yr iaith yn rhan bwrpasol o ffurfio lleiafrif o fewn lleiafrif yn y ddrama? Ydi theatr Gymraeg wedi dod allan o’r linguistic closet drwy gael llwyddiant a chydnabyddiaeth yng Nghaeredin? Dwi’n siwr y bydd na lawer o drafod y ddrama a’r rheswm ei bod yn cyseinio gyda chynulleidfaoedd.

* * * * * * * * * * * * * * * * * * *

Wnaeth darllen dyfyniad Sioned Williams fy atgoffa fi o erthygl Dr. Ryan Prout o Brifysgol Caerdydd: “Speaking Up / Coming Out: Regions of Authenticity in Juan Pinzás’s Gay Galician Dogma Trilogy

Dyma flas wrth sôn am ddefnydd jarring Galisieg mewn ffilm Dogme sydd yn ei hun yn genre sydd yn mynd ati i geisio torri taboos trwy ddangos ‘gwirionedd’:

The use of Galician in the contexts portrayed by Pinzás in the first two films of the trilogy can be seen as countering the perception expressed by some younger speakers of the language that its use is inappropriate in venues like night clubs where conformism and awareness of peer pressure are most keenly felt (Gemie 2006: 158). If Cáccamo is right in suggesting that the language was perceived to be becoming the instrument of politicians and bureaucrats, the gay Galician Dogme trilogy could be read, furthermore, as a reaction against this form of consolidation.

Yn bersonol, dwi’n gallu darllen ‘social media’ yn lle ‘nightclubs’ ac yn gweld paralelau i beth mae’n ddweud ac yn adnabod yr ymadwaith yna i wrthod canfyddiadau o sefydliadoliad iaith. Ond mae’n mynd mlaen i geisio gweld a yw cyfarwyddwr y ffilmiau’n ceisio dweud bod profiad siarad Galisieg yn bwrpasol (pan ydych chi’n rugl yn Ngalisieg a Sbaeneg) fel y broses o ‘ddod allan’:

If Pinzás does indeed invite his audience to draw parallels between the process of coming out of the gay closet and coming out of the linguistic closet, this is a gesture which finds resonance in the discourse used by advocates of wider use of and recognition for Galician, as well as in the experience of speakers who shift from predominantly using Spanish with their peer groups and families to a preferential use of Galician. For example, in a recent campaign in defence of linguistic rights the language advocacy group Queremos Galego called on Galician speakers whose political sympathies might previously have been with the right wing Partido Popular to come out of the closet (Unsigned 2010). And young Galician speakers who are equally competent in both Spanish and Galician and who choose to assert a Galician speaking identity in a context where they may previously have spoken Spanish describe a backlash of incomprehension, rejection, and prejudice which are all too familiar to those who have chosen to come out as gay.

Wn i ddim os gellir dweud yr un peth am siaradwyr sydd yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond yn defnyddio Saesneg gan fwyaf, ac sydd wedyn yn penderfynu troi at defnyddio Cymraeg mwy. Dwi’n credu bod sefyllfa ieithyddol gymdeithasol Galisia dipyn yn wahanol i fan hyn gyda llawer iawn o’r boblogaeth yn medru siarad a deall Galisieg (sydd yn bâr ieithyddol gweddol agos at Sbaeneg beth bynnag) ond sydd yn ei weld fel iaith statws isel, y sefyllfa diglossia glasurol.

Yng Nghymru, mae’r gwahaniaeth mawr rhwng y ddwy iaith a niferoedd y boblogaeth sy’n ddwyieithog/deall y ddwy iaith yn golygu bod y sefyllfa diglossia yn wahanol. Er, efallai yn achos ysgolion Cymraeg y De lle mae sawl cenhedlaeth o bobol erbyn hyn wedi derbyn addysg Gymraeg ond ddim yn dewis ei ddefnyddio yn agosach at yr hyn mae Prout yn cyfeirio ato. Efallai taw hyn sy’n dod trwodd wrth sôn bod “Cymraeg yn queer” yn Llwyth?

Yn ei gasgliad mae’n dweud y canlynol:

Pinzás folds questions of diglossia and homosexuality into the creation of social emotions and the challenging of taboos, which had served the Scandinavian exponents of Dogme 95 well in defining small nations. Through the lens of the inquisitive hand held camera he pictures a Galicia with an eye which only sees in natural or diegetic light, so that what it brings to light it does so in an essentialising gesture.

Mae’n swnio fel bod yr elfen o ddweud ‘gwirionedd’ a thorri taboos (ieithyddol yn fwy na rhywioldeb, o bosib) mae pobol yn ei weld yn Llwyth yn debyg iawn i beth mae Pinzas wedi ei wneud yn ei drioleg.

Er nad ydw i wedi gweld y ddrama na’r ffilmiau, mae’r drafodaeth o natur grŵpiau ‘lleiafrifol’ a’r cymhlethdodau cymdeithasol a seicolegol yn ddifyr iawn. Mae’n werth darllen erthygl Prout yn ei gyfanrwydd gan bod na lawer i bwynt perthnasol i ddarlleniad o Llwyth a chynhyrchiadau mewn ieithoedd lleiafrifol yn gyffredinol yno.

* * * * * * * * * * * * * * *

Tra ar y pwnc o closets, mae’n werth cyfeirio hefyd at lyfr Catalaneg sy’n dwyn y teitl; “Sortir de l’armari lingüístic: Una guia de conducta per a viure en català” sef “Dod allan o’r cwpwrdd ieithyddol: Canllaw i fyw eich bywyd yn y Gatalaneg”.

Mae erthygl am y llyfr ar wefan GipuzkoaEuskara, yn dweud hyn amdano:

The work by Suay and Sanginés permits us to think, finally, that consciously exercised linguistic loyalty -a proactive attitude- will cause linguistic uses to make the move from being personal troubles to become issues of social structure.

Mae datblygiad cymdeithas a thechnoleg yn golygu bod gwrthdaro ieithyddol yn norm; mae’r awduron dan sylw yn ceisio edrych ar y gwrthdaro hyn trwy astudio mathau gwahanol o siaradwyr (mewnfudwyr sydd wedi dysgu, siaradwyr anhyderus, siaradwyr militant ayyb) a’r gwrthdaro sydd yn digwydd oddi fewn iddyn nhw wrth ddewis siarad/neu beidio siarad iaith, gan obeithio bod hyn yn arfogi pobol i wneud y penderfyniad o ddefnyddio iaith yn fwy hyderus.

Mae nhw’n defnyddio’r dywediad am y ‘closet’ fel llawfer ar gyfer cymryd camau positif i roi teyrngarwch gyhoeddus i iaith sydd yn leiafrifol, gan raddol leihau lleiafrifoldeb yr iaith honno wrth i hyn gael effeithiau ar gymdeithas. Ond efallai bod hyn hefyd yn awgrymu ‘lleiafrifoldeb’ fel y norm, a faswn i’n tybio bod llawer iawn yn teimlo nad oes na closet i ddod allan ohono yn ieithyddol a bod unrhyw sôn am hynny yn lleiafrifeiddio’r iaith, gan efallai lesteirio gobeithion am ddefnydd a derbyniad cyfartal o’r iaith mewn cymdeithas.

* * * * * * * * * * * * *

Unrhyw feddyliau ganddoch chi? Hoffwn i glywed. Gadwch sylw!