Yn eisiau: eich llygaid chi ar dalent amlblatfform newydd!

Prosiectau Modiwl Cynhyrchu Amlblatfform Prifysgol Aberystwyth 2015

Dwi’n dysgu ar y modiwl ymarferol hwn gyda Greg Bevan ac mae’r amser wedi dod i hyrwyddo’r prosiectau a cheisio denu pobl i ymweld, more about ymwneud a chyfrannu atyn nhw. Felly, symptoms mae angen eich llygaid chi!

Mae’r chwe grwp yn cynhyrchu prosiectau amlblatfform sydd â fideo fel elfen graidd. Gallant fod yn ffuglen neu ffeithiol, plague ymgyrch farchnata neu brosiect arbrofol, cyn belled â’u bod yn ymwneud gyda chynulleidfaoedd arlein gan ddefnyddio llwyfannau digidol amrywiol ac addas i’w cynnwys.

Byddan nhw’n rhedeg trwodd tan tua diwedd Ebrill felly ewch draw, hoffwch, dilynwch a chadwch lygaid ar ddyfodol talentog y diwydiant digidol:
Continue reading Yn eisiau: eich llygaid chi ar dalent amlblatfform newydd!

Wanted: your eyes on new multiplatform talent!

Aberystwyth University Multiplatform Production Module Projects 2015

I teach on this practical module with Greg Bevan and the time has come to promote the projects so that I can try to attract you curious and creative people to visit, viagra 40mg engage, cialis sale explore and participate with them. They need your eyes and your clicks!

Six groups are producing multiplatform projects which have a strong video component. These can be fictional or factual, marketing campaigns or experimental, as long as they engage with online audiences using a variety of suitable digital platforms.

These will run through until  the end of April so head over, like, follow, and keep and eye on future digital talents:

Continue reading Wanted: your eyes on new multiplatform talent!

Cyhoeddi fy nhraethawd PhD: Cyfryngau Cyfranogol ac Ieithoedd Lleiafrifol

twittermedia

Fis Awst ges i fy nhystysgrif yn nodi bod fy nhraethawd doethuriaeth wedi cael ei dderbyn. Hen bryd felly i mi ei wneud yn gyhoeddus i weld os mae’r ymchwil, viagra 100mg y canlyniadau a’m casgliadau’n gallu cyfrannu at drafodaeth at ddefnydd y Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol Ewropeaidd eraill mewn cyd-destunau cyfranogol arlein.

Teitl y traethawd yw:

Cydgyfeiriant cyfryngol a’r economi ddigidol: Asesu dulliau cyfranogol a thorfol o gynhyrchu cyfryngau mewn ieithoedd lleiafrifol

Lawrlwythwch y cyfan isod!

Mi fuasai’n wych cael trafodaeth, sylwadau ac ati. Dwi am drio cyhoeddi darnau ohono ar y blog ei hyn ar ffurf mwy cryno er mwyn mynd ar ôl pwyntiau penodol. Mae’n fwriad hefyd i geisio cael rhyw ffurf ar grynodeb yn y Saesneg hefyd ond does gen i ddim dyddiad pendant i wneud hynny eto felly cawn weld.

Edrych mlaen i glywed ganddoch chi.

Anghyfartaledd newyddion Cymraeg a Saesneg BBC Cymru

Sbotiwch y gwahaniaeth:

Screen Shot 2013-10-18 at 10.08.38Screen Shot 2013-10-18 at 10.06.46

Na, hepatitis nid bod stori Andrew RT Davies ddim ar gael ar dudalennau BBC Wales News (sydd yn drawiadol) ond bod dim botymau rhannu/argraffu/trydar ar y tudalennau Cymraeg.

Dylen ni fod yn gwneud hi’n *haws* rhannu a dosbarthu deunydd Cymraeg ar y we, nid anoddach. Efallai ei fod yn swnio’n fychan, ond mae’n symptom o’r ffordd mae’r elfennau Cymraeg yn cael eu trin yn eilradd yng ngweithdrefnau rollout technoleg yn y BBC. Rydan ni gyd wedi arfer gweld dyluniad a diwyg tudalennau newyddion BBC yn Gymraeg yn cymryd misoedd os nad mwy i gael eu diweddaru i’r un safon a’r rhai Saesneg ar BBC Cymru. Roedd y prif dudalennau Newyddion Cymraeg tan yn ddiweddar yn dal yn defnyddio hen template tra bod BBC Wales yn cael yr un newydd. Roedd tudalennau Chwaraeon Cymraeg BBC (gorffwysed mewn hedd) wastad gam y tu ôl o’i gymharu a’r fersiwn Saesneg. Faint o amser gymrodd hi i flog Vaughan Roderick gael upgrade?

Nid hollti blew yw hyn, mae safon dylunio a nodweddion UX ychwanegol yn cael effaith uniongyrchol ar ddewisiadau darllenwyr newyddion. Mae’n rhaid i ddarllenwyr Cymraeg wneud rhyw gyfaddawd wrth ddewis darllen yr un newyddion yn Gymraeg neu Saesneg. Mae’r math hyn o gyfaddawd yn bownd o erydu niferoedd darllenwyr. Yn yr achos uchod mae’r cynnwys yn unigryw yn y Gymraeg, sy’n glodwiw, ond nid dyma’r norm. Os ydi Rhodri TD o ddifri am gynyddu niferoedd sy’n ymweld â thudalennau Cymraeg y BBC yna rhaid taclo problemau strwythurol fel hyn head on. Ond does dim awgrym y bydd hyn yn digwydd. Tystiolaeth i gefnogi neges Andrew RT Davies ie ddim?

[hen ddolen alert!] Cyfraniad gen i llynedd at bodlediad Transmedia Talk yn SXSW

Newydd edrych drwy’r drafftiau yn y blog a chofio mod i am bostio dolen i hwn. Falle ei fod o ddiddordeb i rywrai sydd â diddordeb yn y maes digidol + ieithoedd. Sgwrs am ieithoedd a diwylliant mewn trawsgyfryngau/transmedia. Ges i alwad gan Rob Pratten, pathopsychology Llundeiniwr clên iawn nath ddangos y ropes i fi diolch i gyswllt drwy Rhys yn Cyfle, site  yn deud, “da ni’n recordio podcast mewn 10 munud. Ti awydd dod draw?” Felly nes i, ag oedd o’n hwyl.

* * *

Just a quick post of something which I’d left in my drafts since last year. A link to a podcast of a chat I was part of at SXSW interactive 2012 where we talked about language, culture and transmedia (with people much more versed in transmedia than I). Thanks to Rob Pratten for pulling me into it though! It was fun.

http://workbookproject.com/culturehacker/2012/05/01/transmedia-talk-at-sxsw-2012-language-and-culture-in-transmedia/

Pam bod Basgwyr yn trydar ddwywaith cymaint â’r Cymry?

Screen Shot 2013-06-29 at 22.25.07

Edrychwch ar y llun yma –>

Mae yna bron yr un faint o gyfrifon Twitter sydd yn yn defnyddio Cymraeg a Basgeg ac sydd wedi cael eu codi gan web crawler Indigenous Tweets. Mae cyfrifon sy’n defnyddio Cymraeg tua 82% o gyfanswm y rhai Basgeg.

Tra o ran trydariadau sydd yn Gymraeg neu Fasgeg mae dwywaith cymaint o drydariadau Basgeg na rhai Cymraeg. Mae hwn yn wahaniaeth enfawr sydd yn bownd o gael effaith ar yr ecosystem ieithyddol ar rwydwaith gymdeithasol, bronchi ac efallai’n gallu dangos pethau diddorol i ni o ran y diwylliant o ddefnydd y ddwy iaith mewn parthau gwahanol arlein, sildenafil ac efallai oddiarlein hefyd.

Pa resymau allai fod am hyn te? Dyma rai syniadau:

  1. mae’r algorithm adnabod iaith yn gweithio’n well ar gyfer Basgeg, ac felly’n adnabod mwy o negeseuon.
  2. mae trydarwyr Basgeg yn llawer prysurach ar rwydweithiau cymdeithasol na rhai Cymraeg
  3. mae trydarwyr Basgeg yn llawer mwy bodlon defnyddio Basgeg na Sbaeneg, tra bod trydarwyr Cymraeg yn fwy dwyieithog eu trydar.
  4. mae llawer mwy o bots Basgeg yn pwmpio allan trydariadau awtomatig
  5. mae llawer mwy o aildrydar o negeseuon Basgeg nac o negeseuon Cymraeg
  6. mae llawer mwy o gynhyrchwyr cynnwys dwysedd ac amledd uchel yn yr iaith Basgeg (e.e. gwasanaethau newyddion)
  7. mae yna wahaniaethau diwylliannol yn y ffordd rydyn ni Gymry’n defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol o’u cymharu â’r Basgwyr. e.e. mae llai o ddiwylliant o rannu gan siaradwyr Cymraeg, o bosib. Ydi Basgwyr yn fwy ‘digidol’ na ni?
  8. allwch chi feddwl am ragor?

Mae’r erthygl yma gan Jackson and Wang (2012) yn darganfod bod gwahaniaethau rhwng diwylliannau rhwydweithiau cymdeithasol UDA a China, ond faint o wahaniaethau sydd yna rhwng ardaleodd a gwledydd yn Ewrop? Ma’r boi yma’n credu bod gwahaniaethau rhwng sut mae’r Iseldiroedd a Gwlad Belg yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ond dydi o ddim yn cynnig unrhyw dystiolaeth. Ar flog arall mae yna drafodaeth sydd ychydig yn fwy synhwyrol gan gyfeirio at unigolyddiaeth / cyfunoliaeth (collectivism) ac effaith lefelau incwm ar ddefnydd technoleg sydd efallai yn fwy perthnasol.

Oes yna unrhyw beth i ddweud dros ddosbarthiad daearyddol siaradwyr, a’r effaith mae bywyd gwledig vs trefol yn ei gael? Mae ystadegau Ofcom yn nodi bod gan ardaloedd gwledig yr un mynediad at fand llydan a threfol, ond efallai bod y defnydd yn wahanol?

Mae’r blog hwn gan Juliano Andrade Spyer am ymateb pobol yn yr ardal mae’n gweithio i’r protestiadau yn Brasil yn ddiweddar yn cyffwrdd ar y gwahaniaeth diwylliannol yma:

There are differences between large urbanized areas where the rallies are happening and small places such as here (Gol: mae wedi ei leoli 70km o’r brifddinas Brasilia) regarding the use of Facebook. There, Facebook is a channel used for keeping in touch with the people one does not necessarily see every day. Facebook tends to become a gathering place where we are close to everyone, independently of their location in different neighborhoods or other places. The purpose here of using Facebook is not “keeping in touch” because that is really not necessary as friends and everyone else are already physically near to each other every day. What is important, then, is not talking about public things that everyone can know, but to share private information that not everyone knows about. Demonstrations are not interesting for those living here because they relate to institutional politics and also because they are already public, everyone knows about it, and something everyone knows about is not worth talking about.

(mwy o gofnodion blog gan ymchwilwyr UCL ar y thema  ‘Dylanwad Gwahaniaethau Diwylliannol ar Rwydweithio Cymdeithasol)

Ydi closrwydd llawer o gymunedau lle mae’r Gymaeg yn gryf yn un o’r ffactorau sydd yn cadw’r Gymraeg yn iaith fyw ar un llaw, ac yn ei gwneud yn iaith lai byw ar y we ar y llaw arall?

Be chi’n feddwl? Faswn i wrth fy modd cael trafodaeth ar hyn. Gadwch sylw…

[Gol: nes i grybwyll ecosystem ieithyddol fyny fan’na heb rili feddwl amdano, ond dyma erthygl gan bobol sydd wedi: ‘Language Ecology‘. Skutnabb-Kangas, T., a Phillipson, R. (1997)]

Cyngor doeth Douglas Adams ar sut i stopio poeni am y rhyngrwyd

Diolch i Iwan Standley am fy mhwyntio fi at erthygl o 1999 gan y lej, cost Douglas Adams, sydd yn gosod yn syml iawn ac yn ei arddull unigryw pam bod dim angen i bobol fod yn bryderus wrth drafod y rhyngrwyd gan roi’r argraff ei fod yn rywbeth llawer mwy dirgel nag ydi o.

Mae’r paragraff yma am ‘ryngweithio’ yn arbennig o dda:

[…] ‘interactivity’ is one of those neologisms that Mr [John] Humphrys likes to dangle between a pair of verbal tweezers, but the reason we suddenly need such a word is that during this century we have for the first time been dominated by non-interactive forms of entertainment: cinema, radio, recorded music and television. Before they came along all entertainment was interactive: theatre, music, sport – the performers and audience were there together, and even a respectfully silent audience exerted a powerful shaping presence on the unfolding of whatever drama they were there for. We didn’t need a special word for interactivity in the same way that we don’t (yet) need a special word for people with only one head.

Yn anffodus ma’r erthygl yr un mor addas rwan ac ym 1999, gyda rhai newyddiadurwyr a darlledwyr eraill (yn fwriadol neu yn ddiarwybod iddyn nhw) yn parhau i drin y rhyngrwyd neu’r we fel creadur diddorol egsotig, yn hytrach na haen arall o fywyd sydd yn cwmpasu cyfathrebu, gwaith, economi, bywyd personol – y cwbl lot.

Some very interesting thoughts from Geert Lovink on online comment culture

Rhybudd iechyd! Cynnwys heb ei olygu na’i wirio â Cysill…

11:00 Yn y cyfarfod am drio blogio rhai nodiadau o hwn…

Ar y llwyfan Hywel Wiliam (gynt o Ofcom), more about Keith Jones (BBC), side effects Huw Jones (S4C) – cadeirio GTD.

GTD yn cyflwyno, resuscitator rhoi darlun du o sefyllfa’r cyfryngau a’r wasg yng Nghymru. Ein gallu ni i gynnal trfodaeth gyhoeddus ddim yn cyfteb ag anghenion y sefyllfa. Heb weldd diwedd y peysau ariannol: efalli dim ond y cychwyn. Newidiadau technolegol yn symud yn gyflym, a defnydd cyfryngau newydd yn enwedig ymysg yr ifanc. Am gael trafodaeth felly oedd yn ehangach nac un sianel yn unig.

11:08 Hywel Wiliam – cyd-destun y farhcnad gyfathrebu

Ofcom newydd gyhoeddi dogfen am y farchnad gyfathrebu yng NGymru.
Faint sy’n defnyddio bandeang? Cynyddu lot yn fl. dwetha. 71% yn defnyddio band eang yng NGhym. Y cynnydd mwya.
Hefyd cynnydd yn y defnydd o ffonau clyfar. Yng NGhymru, lan i 30%. Ond ydyn nhw am weithio – 3G ayyb.
Band eang: Ofcom wedi cyhoeddi map o argaeledd band eang fesul sir.
11 allan o 22 sir gyda 20% o bobol sy’n methu cael band eang mwy na 2MB. Fideo yn ddbynnol ar fnadeang wrth gwrs.
26% yn Sir Gar methu cael band eang cyflym.
Band eang symudol: dibynnu ar 3G. Peth gwelliant wedi bod yn y fl. ddwetha. 17% o ardaloedd yn gallu cael 3G gan 4 darparwr erbyn hyn.
Datblygiadau am ddigwydd – rhyddhau sbectrwm yn enwedig 800MHz, arwyddocaol o ran 4G ac LTE(?)
Llywod Cymru yn cynnig sybsidi ar gyfer cael band eang os na allwch chi gael 2MB.
Big up i’r App Tywydd!
Mwy o bobol dan 25 yn gwylio teledu dros y we nac ar y teledu.
Teledu HD yn tyfu 26% fyny i 30%.
Cwestiwn beth sydd ar gael yn HD yn broblem. Hynny yn newid pan fydd
Gwariant ar deledu yn Saesneg wedi disgyn 13%. Gwariant ar deledu y pen yn £66 yng NGhymru bron dwbl hyn yn Lloegr.
Radio: DAB – 29% yn berchen ar set DAB yng NGhym o’i gymharu a 37% yn Lloegr. Diddorol gweld apps yn datblygu ar gyfer radio – potensial.
Radio Cymunedol am dyfu: cyfyngiadau’r dalgylch yn codi cwestiynau am pam mor addas ydi o ar gfyer Cymru.
Deddf Cyfathrebu ar y ffordd, ond pryd? Ddim yn glir. Amserlen yn cyflymu post-NOTW? Efallai golygu bod llai yn y ddeddf. Angen lonio nawr i gwffio congl Cymru.
Adnewyddu trwyddedau ITV yng Nghymru’n dod lan. Pwysig bod hwn yn parhau.
Adnewyddu Siartr y BBC a goblygiadau mawr i Gymru. Eto angen dechrau lobio’n fuan.
Teledu Lleol: i ba raddau bydd y model yn addas yng Ngyhymru? Sut allwn ni gymryd mantais.

11:19 Huw Jones – heriau i S4c?

Cwestiynau yn hytrach na atebion

4 pennawd:
sefyllfa’r iaith
sefyllfa’r cyfryngau torfol
cwestiynau i S4C fel gwasanaeth
S4C fel sefydliad

sefyllfa’r iaith
– colli 3k siaradwyr Cym net bob bl. yn ol BYIG.
– pwy sydd yn gwylio: 73% o Gymry Cym dros 65 yn troi at S4C bob wythnos; 35-44 yn 38%.
– gyd yn gysylltiedig a chwestiwn sut ma mesur llwydiant, pan ma’n weddol amlwg bydd adolygiad yn y dyfodol am fynnu gofyn cwestiynau am ddefnydd a gwerthfawrogiad.

Sefyllfa cyf. torfol
– analog bron a chael ei ddiffodd; darlledu cyhoeddus wedi colli gwylwyr, ond nifer wedi arafu cwymp drwy gynyddu nifer o wasanaaethau sydd ar gael More 4 ayyb – un sianel sydd gan s4c, am bod pob sianel yn golygu cost ychwanegol.
– cyf. newydd yn newid defnydd pobol o’r cyfryngau torfol, yn arbennig ymysg pobl ifanc. Nid dim ond cwestiwn o faint o amser mae nhw’n dreulio, a faint llai ar deledu, ond bod nodweddion cyfryngau newydd yn creu disgwyliadau newydd. Cwestiynau ieithyddol pwysig fan honno. Sut mae defnyddio iaith leiafrifol arlein mewn parth sydd a chyrhaeddiad rhyngwladol.

S4C fel gwasanaeth
– yn wasanaeth Cymraeg, i bobol sydd yn dymuno byw bywydau drwy gyfrwng Gymraeg. Ond hefyd pobol sydd yn dymuno byw yn ddwyieith. Beth yw eu disgwyliadau nhw?
– beth am bobol sydd ddim yn byw bywydau trwy gyfrwng Gym, – sut all S4C ddod mewn i’w bywydau nhw?
– Cyw yn cael ei weld fel llwyddiant, ond mae’n gymharol ddrud.
– cwestiwn: faint o gyllid s4c ddylid ei roi ar gyfer cynulleidfaoedd penodol
– creadigrwydd a gwreiddioldeb: dim amheuaeth bod rhaid iddo fod yn wreiddiol a gwahanol. R’un peth yn wir ar gyfer yr iaith. Dim ond trwy gynnig pethau na ellir eu cael mewn ieithoedd eraill byddd iaith yn ffynnu.
– wedi bod yn gyfnod lle mae perthynas â chynhyrchwywr wedi bod yn annodd, ond gobeithio y daw sefydlogrwydd yn fuan.
– beth yw’r berthynas rhwng cyfryngau newydd gyda’r gwasanaeth teledu craidd?
– beth gaiff S4C wario arian arno?
– cyhoeddi mas o law ganllawiau ar gyfer cronfa ddigidol. Sut all S4C sbarduno’r maes hwnnw? Fforwm CN yn helpu gyda hyn

S4C fel sefydliad
– 2013 mwafrif cyllid yn dod gan Ymddiried. y BBC felly angen creu strwythr newydd, atebol, a chryf.
– eisiau atebolrwydd ddeuol, dilys i ymdd y BBC o ran sut mae arian S4C yn cael ei wario – cytundeb o flaen llaw
– hefyd lle bydd hynny yn cael ei ategu gan bresenoldeb aelodau awdurdod S4c sydd wedi ei ategu gan aelodau o’r BBC
– angen i awdurdod S4C weithredu yn annibynnol o fewn fframwaith atebolrwydd i’r ariannwr.
– awyddus i gydweithio gyda;r BBC yn lleol ac yn Brydeinig i greu arbedion. Asesu cynigion i weld os ydyn nhw’n ychwanegu gwerth at yr hyn sydd ar y sgrin.
– y drefn o ariannu drwy;r drwydded ond yn mynd tan 2015, cysur bod gwelliant gan y Llywod yn y mesur CC y bydd y cyfrifoldeb terfynol yn cael ei ddal am sicrhau bod cyllid digonol ar gyf S4C. Sut bydd hynny’n gweithio, cawn weld.
– bydd adolygiad DCMS yn gofyn llawer o gwestiynau, a rhaid sicrhau bod popeth yn iach ac yn effeithiol fel y gall fod yn adolygiad cadarnhaol.

11:33 Keith Jones

Pryder wedi bod o fewn BBC dros ariannu S4C. Arg. Patten wedi clywed y neges yn glir o sawl cyfeiriad. KJ yn meddwl y bydd modd dod i gytundeb all gadw annibyn ymarferol S4C.
– PAtten: BBC wedi ymladd i gadw annib ei hun, felly dim bwriad i fygwth anibyn S4C.
– gresynu nad oes digon o son am anghenion y gynulleidfa hyd yma.
– sefydlu perthynas rhwng awdurdod s4c gyda ymddiredol y bbc fyddwn ni: bydd perthynas S4C a BBC Cymru yn parhau
– wedi anelu at gefnogi strat rhaglenni s4c yn y modd gorau posibl: newyddion, PYC ayyb.
– wedi dechrau edrych ar sut i ymestyn y berthynas tu hwnt i’r golygydol: cydweithio i arbend arian, cyn belled ein bod yn ddigon
– y gynulleidfa’n malio dim am bwy sy’n anfon y signal i’r lloeren, eu diddordeb nhw yw’r rhaglenni.
– peth rhwystredigaeth na fu modd creu uchafbwyntiau creadigol ar y cyd
– dychmygwch ddigwyddiad mawr cyfryngol allai uno cynulleidfa BBC One gyda rhai S4C. Potensial mawr.
– prosiect ymchwil i ddeall natur y gynulleidfa: cyhoeddi yn fuan (S4c, bbc, BYIG)
– technoleg yn newid perthynas y gynulleidfa a’r darlledwr: her i ddarllwedwyr sydd a’u gwreiddiau yn y byd analog.
– os ydi cfeisis Wali yn bodoli yn y, rhaid gofalu rhag edrych am wwrsi yn y gorffennol yn unig
– yn y byd analog mi allai darlledwr gael sbectrwm a blaenoriaeth – cwmniau masnachol fydd yn rheoli llwybrau at y deunydd
– her yn amlwg i ddarlledwr cyhoeddus – allwn ni ddim cymryd amlygrwydd cynnwys yn ganiataol
– hergreadiogl: sut allwn ni wneud cynnwsy yn ddigon atyniadol ar y llwyfannau yma
– her ariannol: arbedion o 20% yn dalcen caled. sut byddwn yn gwasanaethu ein cynulleidfa mewn 6 bl.
– 1m o bobol yn troi at ein rhaglenni bob chwarter awr
– rhesymau i fod yn obeithiol: galw am wasaaethau cyfryngau safonol Cymreig mor uchel ac erioed,
– BBC wedi gorfod edrych ar flaenoriaethau,
– rol genedlaethol: creu a hybu creu deunydd o’r safon ucha
– methrin gwerth cynhoeddus, cynnwys unigryw, cynnal safon
– bydd rhaid torri rhaglenni bydd pobol yn eu colli. Yr her felly yw diffinio eu rol genedlaethol yn fwy manwl nac erioed o’r blaen. Methu bod yn bopeth i bawd, ond gallu tanio dychymyg cynull, lle bynnag y bônt.

11:45 cwestiynau:

Arwyn i KJ: rhywsredigaeth na fu mwy o gydweithio: pam na wnaethoch chi fwy i feithrin hynny? Ydy o’n rhywbeth ddyla’ch olynydd ganolbwyntio arno?

Wedi chwilio am rai syniadau sy’n gweithio ar draws y ddwy iaith. Angen mwy o hynny ar y cyd, lle mae cynulleid. yn gorgyffwrdd. Dod â gwylwyr

HJ: rhywun wedi dweud “oni ddyla Cariad @ Iaith fod wedi dechrau ar BBC a throsglwyddo i S4C”.

Cwestiwn: GO wedi dweud bod y cyfryngau Cym wedi mynd yn ddosbarth canol, sut mae adennill y gwylwyr dosbarth gweithiol?

HJ: Gyndyn o dderbyn ei fod yn fater o ddosbarth. Fasa gwasan teledu sy’n cyrraedd dosb gweithiol C’fon a Chaerdydd yn wahanol. Angen edrych ar raglenni as groesi ffiniau dosbarth.

KJ: profiad Radio Cymru yn ddiddorol. Yn y 90au wedi edrych yn fwriadol arno, a chadw llygad beirniadol. Teimlad ei fod yn tueddu i droi yn ei unfan, ac ar gyfer math arbennig o siaradwyr Cymraeg. Newidwyd Radio Cymru, a bu cryn brotest. Credu eu bod wedi bod yn gwbl iawni wneud be wnaethpwyd. Dyletswydd i bawb, pwy bynnag ydyn nhw, a be

GTD: a fyddai modd i Radio Cymru a Radio Wales barhau fel gwas cenedlaethol dan amgylchiadau toriadau o 20%?

KJ: pwyslais i warchod priod bwrpas y gwas cenedlaethol.

GTD: a fyddai pwyslais y BBC yng NGhymru yn wahano i BBC ym Mhrydain.

KJ: penderfyniadau yn nwylo Cymru o ran toriadau

11:55 cwestiynau pellach

Hywel Williams: falch o weld Llywod Prydain yn defnyddio’r gair ‘digonol’ ond angen gweld beth mae hynny’n ei olygu. Ei hyder yn DCMS yn gymharol isel. Bydd o’n eu herio’n eithaf caled ar beth yw natur ‘digonol’.

GTD: faint o broblem yw clash yr holl amserlenni deddfau cyfathrebu, siartr BBC ayyb?

HW: amseru am fod yn bwysig, a bydd angen meddwl am newidadau dros dro. Angen gweithio mas beth fydd yn flaenoriaeth i ni a pheidio gadael hi nes papur gwyn – cysylltu â gwleidyddion cyn hynny. DAB a RAdio Cymru yn enhgraifft o sut mae

o’r llawr: yw hi’n deg bod S4C yn cael eu torri’n ôl mwy na’r BBC?

GTD: toriad i raglenni Saesneg yng Nghymru wedi bod yn 33% cyn y toriadau newydd yma.

KJ: toriadau ddim yn newydd. Ddim yn cofio blwyddyn lle na bu toriadau yn y ddegawd dwetha.

Iestyn Garlick: S4C wedi pasio toriadau o 34% a mwy i’r cynhyrchwyr, sydd uwchben y 24% i’r sianel.

Dyna ddiwedd y sesiwn. Diolch am ddarllen!
A fantastic interview with Geert Lovink on anonymity, hospital
comments as public sphere (or otherwise) and the double edged sword of comments that are both repulsive and sought after.

http://networkcultures.org/wpmu/geert/2011/09/04/interview-with-me-on-comment-cultures-for-galileubr/

Comments are on the rise as never before but at the same time they are dispised, arthritis
looked down upon, viagra
ignored, filtered and switched off.

It could very well be that the current era of mass commentary on the net will come to a close. […] It is a question whether comments in the near future will be a public as they are right now–if they exist at all.

A global renaissance of the forum software would be a great thing for internet culture.

Is online commentary and debate in such a bad place? How can online commentary be brought back to an even keel?

Mercator Workshop June 2011 – my phd work in progress presentation

Ddoe mi fues i’n cymryd rhan mewn gweithdy a drefnwyd gan Sefydliad Mercator oedd yn edrych ar yr ymchwil gyfredol ym maes cyfryngau ieithoedd lleiafrifol. Mi roddias gyflwyniad byr ar fy ngwaith i geisio rhoi golwg fras ar lle ydw i yn y broses. Roeddwn yn cyflwyno yn Gymraeg ond gyda gwybodaeth gefnogol ar y sgrin yn Saesneg (roedd y mynychwyr di-Gymraeg yn cael cyfieithiad ar y pryd hefyd). Dyma’r cyflwyniad gyda rhai nodiadau ychwanegol:

* * * * * * * * * * * *

Yesterday I took part in a workshop organised by the Mercator Institute which looked at the current research in the field of minority language media. I gave a short and rough presentation on where I am currently with my phd, visit this 10 months in. I spoke in Welsh but with English supporting visual material, for the ease of those having simultaneous translation. Here’s the presentation with a few extra notes: