Map Cyfryngau 2013 gan Bonnier R&D

Arriva Cymru? Be sgen hynny i neud efo’r Gymraeg ar y we?

Wel…hyn:

Dwi’n siwr bod nhw’n ymwybodol o hyn yn Newyddion BBC a Golwg360 ond mae chwilio Google yn broblem mawr iddyn nhw o ran denu darllenwyr, drug ac yn broblem mawr i ddarllenwyr sydd eisiau ffeindio straeon Cymraeg.

Y diwrnod o’r blaen o’n i eisiau darllen am y llanast Bysus Arriva Cymru, pilule felly chwiliais “Arriva Cymru”. Canlyniad?

Chwilio Arriva Cymru

Dim newyddion. Dim ond gwefannau swyddogol (gyda dim hyd yn oed newyddion am y cyhoeddiad ar wefan Arriva, thumb natch).

Trio eto felly a chwilio, fel dwi’n arfer gwneud erbyn hyn yn Saesneg am “Arriva Wales”. Canlyniad?

Arriva Wales

Chydig yn well, ar ôl y 3 canlyniad uchaf mae canlyniadau diweddar iawn am newyddion gan wefannau BBC News, WalesOnline a rhywbeth arall o’r enw 4ni.

Clic felly ar stori BBC News gan feddwl ffeindio’r erthygl Gymraeg. Oeddwn i’n gallu ffeindio’r ddolen i fynd at dudalennau BBC Cymru? Ddim am hydoedd. Sganiodd fy llygaid bach ar draws ac i lawr y dudalen, ac yn ôl i fyny eto. Roeddwn i’n chwilio am “Cymraeg” yn y gornel top dde, gan mod i’n reddfol erbyn hyn yn meddwl taw fan honno mae’r switsh iaith.

BBC Wales Arriva

Ond does dim switsh iaith. A Newyddion ydi’r enw ar y ddolen. Yn y diwedd mi ffeindiais y ddolen a chlicio drwodd i fama:

Hafan NewyddionA wedyn clicio i fama:

Erthygl Newyddion Arriva

A chael at lle o’n i isio mynd yn y lle cynta, 4 clic yn ôl. Yn y cyfamser mae pob person call sydd wedi gwneud yr un peth wedi setlo ar gael yr wybodaeth o’r tudalennau Saesneg.

A doedd Golwg360 ddim hyd yn oed ar y radar Google yn ystod hyn i gyd.

Afraid deud bod hyn yn broblem enfawr i newyddion Cymraeg ac yn dangos pa mor bwysig ydi integreiddio newyddion Cymraeg mewn i chwiliadau Google. Dwi’n deall yn iawn bod BBC Newyddion a Golwg360 bownd o fod yn torri’u boliau eisiau cael Google [Gol: Google News UK, ‘lly] i’w derbyn ond dyma’r broblem eto fyth – mae’r penderfyniadau yn gwbl allan o’n dwylo ac mae pob un achos fel hyn ar draws y we yn gwneud yr iaith yn fwy a mwy anweledig.

‘Shocked acquiesence’ mae’r erthygl yma’n galw’r ffenomenon yma o ddechrau’r unfed ganrif ar hugain sydd yn disgrifio’r teimlad o gael eich syfrdanu gan rywbeth sydd mor fawr ac allan o’ch rheolaeth fel PRISM neu newid hinsawdd na allwch chi ddelio gyda fo mewn unrhyw ffordd ond ei anwybyddu. Mae’n siwr fod na lot o eiriau amdano, rhyw ochenaid fawr a “o wel”. Mae na deimlad fel’na braidd am ddyfodol y Gymraeg arlein yn wyneb Google ac ati. Mae Luistxo Fernandez yn ei alw’n ‘Twitter tsunami’ mewn cyd-destun arall. Moch ar y winllan efallai fasai’r term Saundersaidd Cymraeg addas mae’n debyg.

Ond mae’r winllan wedi cael ei thirfeddiannu ers tro a rhaid gofyn i Google am ganiatad i brynu ein grawnwin ein hunain yn ôl erbyn hyn, a hynny ar premium. Does dim rheolaeth ganddon ni dros sut mae cael mynediad a sylw at y Gymraeg ar y we. Os taw cael sylw i gynnwys yw problem fawr ein oes, yna mae cael sylw at gynnwys Cymraeg yn broblem hyd yn oed yn fwy. Gallai llywodraeth Thatcher ildio S4C i ni ar un o bedair sianel deledu. Roedd honno’n sicrhau bod sylw priodol i gynnwys Cymraeg. Ond ni all yr un llywodraeth roi ‘S4C’ i ni ar gyfer y we. Neu allan nhw?

Ai cael teli Cymraeg ar sgrin gyntaf YouView ac iplayer sy’n gyfatebol rwan? Falle. Ond mae hynny ond yn ateb un rhan o’r broblem cynnwys. Efallai taw cael Google, Twitter, Facebook, YouTube i roi statws i gynnwys Cymraeg yn eu gwasanaethau fyddai ‘ildio S4C’ ein hoes. Hynny yw, nid dim ond caniatau i ni gyfeithu ein rhyngwynebau ar eu rhan (o! Diolch yn fawr Twitter, dwi’n gwybod eich bod chi’n sgint!!), ond sicrhau bod ein cynnwys yn cael tegwch yn y gêm hyn o rymoedd gwladwriaethol a chwmniau masnachol traws-wladwriaethol sy’n cael ei alw’n ‘economi sylw’. O barhau’r trosiad S4C, a fyddai ymgyrchwyr S4C wedi bodloni ar gael y cyflwynwyr continuity ar BBC Cymru, ITVWales a Channel 4 Wales yn darllen mewn dwy iaith rhwng rhaglenni Saesneg? No we. Y cynnwys oedd yn bwysig. Lleoliad y cynnwys hwnnw yn yr amserlen oedd yn bwysig. Y cynnwys sydd yn bwysig rwan hefyd. Ac mae lleoliad y cynnwys hwnnw’n bwysicach nag erioed.

Ond dyma rai cwestiynau sydd gen i sydd, dwi’n meddwl angen eu hateb yn fwy ar frys, efallai, na sut mae ariannu parhad teledu ar S4C:

  • Sut mae cael cynnwys Cymraeg i ymddangos ochr yn ochr â Saesneg fel yr oedd gyda S4C yn y byd 4 sianel?
  • Sut mae gwneud y we Saesneg yn fwy porous/permeable o ran y Gymraeg yn lle’r ffordd arall rownd?
  • Faint o werth roddech chi ar gyflawni hynny? £1miliwn? £10miliwn? £70miliwn?
  • Pwy ddyla dalu? Google et al eu hunain, neu dreth arbennig, y Llywodraeth (pa un?) neu arian S4C?
  • Faint o werth mae strategaeth iaith y Llywodraeth yn rhoi i ‘sylw’ ar y we?
  • Faint o werth ydyn ni gyd fel pobol brwdfrydig tech Cymraeg yn rhoi ar hynny?

Dwi ddim yn arbenigwr ar search o bell ffordd, ond ma’n rhaid bod na atebion – neu ydan ni jest am ista mewn shocked acquiescence? Ar hyn o bryd – dyna da ni’n ei wneud. Yn araf i dderbyn a deall goblygiadau’r dechnoleg i’n iaith a’n ddiymadferth wrth geisio meddwl am beth i wneud pan ydyn ni’n dechrau sylweddoli’r goblygiadau hynny.

So plis, tynnwch fi o fy shocked acquiescence, ydi hi mor ddu â hynny?
Presenting Media Map 2013. – Bonnier AB.

Dogfen sydd yn ceisio tynnu tueddiadau cyfryngau 2013 at ei gilydd a mapio defnydd a datblygiadau newydd. Chydig yn PR-bait/OTT infograffegaidd, order
ond diddorol nefyr-ddy-les. Hefyd ar gael fel app iPad.

(via Aled)

Rhai gwefannau a gwasanaethau diddorol o sxsw interactive 2012

Cyn i fi anghofio, cardiology a fel bo fi’n gallu taflu’r papurach ddes i nôl efo fi, sale dyma restr o rai gwefannau a gwasanaethau diddorol ddes i ar eu traws yn sxsw interactive:

Awesome Foundation : jyst ossym. Y we’n rhoi nôl.

Reddit Gifts : secret santa drwy’r flwyddyn

Zeega : platfform HTML5 ar gyfer i-docs ac ati.

Snap Cuts : ffordd syml iawn o wneud golygiadau bach i gyfres o glipiau byr.

Life Dots : gwefan sydd yn rhoi trefn ar eich cynnwys arlein a’i osod allan mewn ffordd gronolegol ddeniadol.

Backbone : gwasanaeth radio ar gyfer colegau (ond efallai o ddefnydd i Twrw fel opsiwn?)

Pond5 : stock media

WeVideo : golygu fideo cydweithredol yn y cwmwl

Sharemyplaylists : anfon playlists Spotify fel mixtapes

Sensum : “Sensum is a mobile platform that enables both your conscious and emotional choices to personalise any entertainment experience.”

Paper Apps : electronics wedi ei argraffu ar bapur.

Instructables : DIY

MakerBot : adeiladwch eich argraffydd 3D eich hun am llai na £1500

Salsa Labs : platfform ar gyfer helpu NGOs i weithredu arlein

Newsit : platfform cydweithredol ar gyfer adrodd newyddion

Psonar : ffrydio cerddoriaeth arlein ‘pay per play’

DeadSoci.al : ffordd o adael negeseuon i bobol drwy rwydweithiau cymdeithasol ar ôl i chi farw

TheAppBuilder : ffordd syml o adeiladu apps syml

Hibe : rhwydwaith gymdeithasol lle gallwch chi greu proffiliau gwahanol ar gyfer agweddau gwahanol o’ch bywyd.

BigMarker : cymunedau arlein + fideogynhadledd ar gyfer hyd at 50 o bobol yn y stafell

TubeMogul : hysbysebu ar gyfer fideo arlein

Sitebeam : teclyn diddorol ar gyfer asesu gwefannau am bob math o ffactorau o hygyrchedd i werth y cynnwys