Cyflwyniad Caerdydd: Y Gymraeg a Chyfryngau Cyfranogol

Nos Fawrth roddais i gyflwyniad mewn seminar ymchwil ar wahoddiad Jeremy Evas o Adran y Gymraeg, this Prifysgol Caerdydd. Diolch yn fawr i’r adran am y cyfle, medical ac i bawb ddaeth draw ac am y drafodaeth yn dilyn y cyflwyniad. Roedd yn gret cael cyfarfod pobl newydd a chael chydig adborth.

Mae ambell un wedi gofyn os oedd recordiad ohono, ond y gorau alla i wneud ydi rhoi copi o’r sleidiau a’r sgript oedd gen i.

Dyma’r ddolen ar gyfer lawrlwytho’r sgript: Sgript / Papur Caerdydd – 17 Tachwedd 2014

Cyhoeddi fy nhraethawd PhD: Cyfryngau Cyfranogol ac Ieithoedd Lleiafrifol

twittermedia

Fis Awst ges i fy nhystysgrif yn nodi bod fy nhraethawd doethuriaeth wedi cael ei dderbyn. Hen bryd felly i mi ei wneud yn gyhoeddus i weld os mae’r ymchwil, viagra 100mg y canlyniadau a’m casgliadau’n gallu cyfrannu at drafodaeth at ddefnydd y Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol Ewropeaidd eraill mewn cyd-destunau cyfranogol arlein.

Teitl y traethawd yw:

Cydgyfeiriant cyfryngol a’r economi ddigidol: Asesu dulliau cyfranogol a thorfol o gynhyrchu cyfryngau mewn ieithoedd lleiafrifol

Lawrlwythwch y cyfan isod!

Mi fuasai’n wych cael trafodaeth, sylwadau ac ati. Dwi am drio cyhoeddi darnau ohono ar y blog ei hyn ar ffurf mwy cryno er mwyn mynd ar ôl pwyntiau penodol. Mae’n fwriad hefyd i geisio cael rhyw ffurf ar grynodeb yn y Saesneg hefyd ond does gen i ddim dyddiad pendant i wneud hynny eto felly cawn weld.

Edrych mlaen i glywed ganddoch chi.

Pam bod Basgwyr yn trydar ddwywaith cymaint â’r Cymry?

Screen Shot 2013-06-29 at 22.25.07

Edrychwch ar y llun yma –>

Mae yna bron yr un faint o gyfrifon Twitter sydd yn yn defnyddio Cymraeg a Basgeg ac sydd wedi cael eu codi gan web crawler Indigenous Tweets. Mae cyfrifon sy’n defnyddio Cymraeg tua 82% o gyfanswm y rhai Basgeg.

Tra o ran trydariadau sydd yn Gymraeg neu Fasgeg mae dwywaith cymaint o drydariadau Basgeg na rhai Cymraeg. Mae hwn yn wahaniaeth enfawr sydd yn bownd o gael effaith ar yr ecosystem ieithyddol ar rwydwaith gymdeithasol, bronchi ac efallai’n gallu dangos pethau diddorol i ni o ran y diwylliant o ddefnydd y ddwy iaith mewn parthau gwahanol arlein, sildenafil ac efallai oddiarlein hefyd.

Pa resymau allai fod am hyn te? Dyma rai syniadau:

  1. mae’r algorithm adnabod iaith yn gweithio’n well ar gyfer Basgeg, ac felly’n adnabod mwy o negeseuon.
  2. mae trydarwyr Basgeg yn llawer prysurach ar rwydweithiau cymdeithasol na rhai Cymraeg
  3. mae trydarwyr Basgeg yn llawer mwy bodlon defnyddio Basgeg na Sbaeneg, tra bod trydarwyr Cymraeg yn fwy dwyieithog eu trydar.
  4. mae llawer mwy o bots Basgeg yn pwmpio allan trydariadau awtomatig
  5. mae llawer mwy o aildrydar o negeseuon Basgeg nac o negeseuon Cymraeg
  6. mae llawer mwy o gynhyrchwyr cynnwys dwysedd ac amledd uchel yn yr iaith Basgeg (e.e. gwasanaethau newyddion)
  7. mae yna wahaniaethau diwylliannol yn y ffordd rydyn ni Gymry’n defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol o’u cymharu â’r Basgwyr. e.e. mae llai o ddiwylliant o rannu gan siaradwyr Cymraeg, o bosib. Ydi Basgwyr yn fwy ‘digidol’ na ni?
  8. allwch chi feddwl am ragor?

Mae’r erthygl yma gan Jackson and Wang (2012) yn darganfod bod gwahaniaethau rhwng diwylliannau rhwydweithiau cymdeithasol UDA a China, ond faint o wahaniaethau sydd yna rhwng ardaleodd a gwledydd yn Ewrop? Ma’r boi yma’n credu bod gwahaniaethau rhwng sut mae’r Iseldiroedd a Gwlad Belg yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ond dydi o ddim yn cynnig unrhyw dystiolaeth. Ar flog arall mae yna drafodaeth sydd ychydig yn fwy synhwyrol gan gyfeirio at unigolyddiaeth / cyfunoliaeth (collectivism) ac effaith lefelau incwm ar ddefnydd technoleg sydd efallai yn fwy perthnasol.

Oes yna unrhyw beth i ddweud dros ddosbarthiad daearyddol siaradwyr, a’r effaith mae bywyd gwledig vs trefol yn ei gael? Mae ystadegau Ofcom yn nodi bod gan ardaloedd gwledig yr un mynediad at fand llydan a threfol, ond efallai bod y defnydd yn wahanol?

Mae’r blog hwn gan Juliano Andrade Spyer am ymateb pobol yn yr ardal mae’n gweithio i’r protestiadau yn Brasil yn ddiweddar yn cyffwrdd ar y gwahaniaeth diwylliannol yma:

There are differences between large urbanized areas where the rallies are happening and small places such as here (Gol: mae wedi ei leoli 70km o’r brifddinas Brasilia) regarding the use of Facebook. There, Facebook is a channel used for keeping in touch with the people one does not necessarily see every day. Facebook tends to become a gathering place where we are close to everyone, independently of their location in different neighborhoods or other places. The purpose here of using Facebook is not “keeping in touch” because that is really not necessary as friends and everyone else are already physically near to each other every day. What is important, then, is not talking about public things that everyone can know, but to share private information that not everyone knows about. Demonstrations are not interesting for those living here because they relate to institutional politics and also because they are already public, everyone knows about it, and something everyone knows about is not worth talking about.

(mwy o gofnodion blog gan ymchwilwyr UCL ar y thema  ‘Dylanwad Gwahaniaethau Diwylliannol ar Rwydweithio Cymdeithasol)

Ydi closrwydd llawer o gymunedau lle mae’r Gymaeg yn gryf yn un o’r ffactorau sydd yn cadw’r Gymraeg yn iaith fyw ar un llaw, ac yn ei gwneud yn iaith lai byw ar y we ar y llaw arall?

Be chi’n feddwl? Faswn i wrth fy modd cael trafodaeth ar hyn. Gadwch sylw…

[Gol: nes i grybwyll ecosystem ieithyddol fyny fan’na heb rili feddwl amdano, ond dyma erthygl gan bobol sydd wedi: ‘Language Ecology‘. Skutnabb-Kangas, T., a Phillipson, R. (1997)]

Cyhoeddi llyfr Social Media and Minority Languages

Dwi’n hapus iawn, visit this iawn, i ddweud bod y llyfr Social Media and Minority Languages wedi cael ei gyhoeddi gan Multilingual Matters. Cafodd ei olygu gan fy nghyfeillion a chydweithwyr Elin Haf Gruffydd Jones ac Enrique Uribe-Jongbloed ac mae’n wych gweld y gwaith yn mynd yn gyhoeddus.

Mae yna erthygl yr oeddwn i’n gyd-awdur arno gyda Dr. Daniel Cunliffe, sef “The Welsh language on YouTube: Initial Observations” lle roedden ni’n trafod ymchwil dechreuol i geisio cael syniad o beth oedd rhychwant a natur defnydd yr iaith Gymraeg ar YouTube, boed mewn fideos neu o fewn disgrifiadau, proffiliau neu sylwadau. Mae’n deimlad braf cael gweld ymchwil yn cael ei gyhoeddi, achos fasa’n gret gweld trafodaeth bellach amdano, yn beirniadu, adeiladu neu rywbeth! Felly plis, ymatebwch os di’r maes fideo a ieithoedd lleiafrifol o ddiddordeb.

Roedd nifer eraill o’r papurau’n rai a gyflwynwyd yng Nghynhadledd Ryngwladol Mercator ar Amrywiaeth Ieithyddol a Chydgyfeiriant Cyfryngau, a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym Mai 2010. Gallwch chi ddarllen adroddiad o’r gynhadledd honno gyda chrynodebau o sesiynau a themâu yn ogystal â’r abstracts ar gyfer y gynhadledd yn y PDF yma gan Rwydwaith Mercator.

Gallwch chi brynu’r llyfr clawr caled ar Amazon (er, dwi’n gobeithio’n fawr daw fersiwn clawr meddal o ystyried y pris!), neu ar gyfer y Kindle am bris llawer mwy rhesymol, neu’r fersiwn clawr caled gyda 20% o ostyngiad gan Multilingual Matters eu hunain.

Dyma’r rhaflas Google o’r llyfr i’ch temtio, ac lle gallwch chi ddarllen chydig o’r ymchwil wnaethon ni:

[iframe style=”border: 0px;” src=”http://books.google.co.uk/books?id=NaVr-sc2BZQC&lpg=PP1&pg=PR4&output=embed” height=”800″ width=”500″]

Mae ‘na sdwff diddorol iawn o fewn y llyfr, a hyd yn oed os nad ydi o’n rywbeth wnewch chi brynu’n bersonol falle gall eich llyfrgell Brifysgol ei brynu. Mi fase’n braf gweld trafodaeth yn codi yn ei sgil.

Cyfrwng: Media Politics and Media Studies in Small Nations

Dyma rai nodiadau o’r sesiwn uchod (wnai ddiweddaru wrth i fi fynd…):

Devolution and the Media in Scotland

David Hutchinson (Prifysgol Glasgow Caledonian)

Y Wasg

  • pryder am drosglwyddiad cyhoeddiadau gwasanaeth cyhoeddus i’r we yn hytrach na mewn papurau newydd
  • oherwydd standing committee yn Holyrood, find penderfynodd MSPs wrthod am y rheswm y byddai’n wael i sector y wasg
  • ond dim pwer i wneud unrhywbeth amdano

Darlledu

  • tebyg i Gymru, buy ond dadleuon hefyd am opt-outs o’r rhwydwaith, allergist ac a ydyn nhw’n gwneud cyfraniadau i’r rhwydwaith
  • BBC Alba – spend per Gael is double that for S4C
  • Scottish B/cast Commission – ymateb y BBC: “8.6% i ddod o’r Alban” Mark Thomson – canlyniad uniongyrchol o waith yr SBC.
  • SBC – wedi gofyn am sianel ddigidol i’r Alban. Blair Jenkins wedi dweud “If we were starting afresh it would be a no-brainer”
  • Sianel Alban – panel wedi argymell i’r ffi drwydded gael ei top-sleisio i’w
  • Sianel Alban – a ddylai BBC Alba rannu lle sbectrwm?
  • Canlyniadau: Holyrood fwyfwy a diddordeb ar draws y cyfryngau; ond heb arian na grymoedd pa mor ddifrifol ellir cymryd eu barn; arian digonnol oherwydd y grant bloc yn broblem dal i fod
  • mwyafrif SNP yn rhoi pwysau ychwanegol i ddatganoli elfennau o rymoedd dros gyfryngau
  • Hutchinson yn codi amheuon dros gwerth ddatganoli cyfryngau os nad oes arian hefyd.
  • Mi fydd darlledu yn dod yn un o brif faesydd dadl rhwng Holyrood a San Steffan

Media, culture and national reconstruction in stateless nations: the case of Catalonia

Josep Angel Guimera ac Ana Fernandez Viso (Prifysgol Awtonomaidd Barcelona)

  • astudio strwythr a pholisiau cyfathrebu yn Catalonia
  • y wladwriaeth a grym dros telegyfathrebu a rheoleiddio sylfaenol dros gyfryngau
  • Generaltitat yn gyfrfiol dros datblygu a gweithredu rheoliadau sylfaenol ar gyfer y cyfryngau; sinema; diwylliant a iaith Catalaneg; ei gyfryngau cyhoeddus ei hun
  • Ond mae amwyster am y competences hyn = lle ar gyfer dadleuon
  • cyfryngau wedi cymryd rol fawr mewn reconstruction cenedlaethol, a’r llywod. wedi gorfodi’r wladwriaeth i drosglwyddo grymoedd ddarn wrth ddarn

Rhesymau dros geisio gwneud Catalan Communication Space?

Yr 80au

  • Normaleiddio ieithyddol
    • sefydlon nhw eu cyfryngau eu hunain *cyn* iddyn nhw gael y grymoedd wedi eu trosgl. i wneud hynny
  • Adeiladu sffer cyhoeddus i Gatalonia
    • sefydlu CCRTV yn 1983 – rhan o hyn mi wnaethon nhw ddechrau rhoi trwyddedau radio lleol
  • Ymgais i gynyddu hunan-lywodraeth

90au

  • hyrwyddo a thrwyddedu cyfryngau lleol
  • deddf sinema Gatalaneg

00au

  • dechrau prosiect pilot ar ddefnyddio frequencies FM heb ganiatad Sbaen, gan gynnwys ‘trwyddedau prawf’ – gorfodi Sbaen i newid eu polisi trwyddedu a rheoleiddio
  • adeiladu sector gyfryngau preifat Catalaneg
  • wedi dyfarnu Mux digidol i grwp preifat Cat – ceisio creu grwpiau amlgyfrwng Cat
  • mwy o ddeddfau ieithyddol oedd yn effeithio ar gyfryngau (puntCAT, sybsidi,

CCRTV nawr yn gyfrifol am 4 gorsaf radio, 7 sianel deledu, 1 sianel lloeren, 11 gwasanaeth gwe . Catalaneg yn unig.

Cyllideb CCRTV €357.5m yn 2010; €110.7m ym 1989

85% yn sybsidi yn y 6 mlynedd ddiwethaf.

Cyfryngau preifat: sybsidi yn arf polisi allweddol

€107m rhwng 2005-2010

ariannu sianeli teledu, radio, y wasg a gwefannau – lleol a cenedlaethol

Heriau?

toriad 30% i sybsidi cyfryngau preifat

CCRTV yn wynebu toriadau – dim ffigwr

lleihad mewn incwm hysbysebu 20%-30% i’r rhan fwyaf (50% i’r lleol)

Ydi’r system gyfryngau preifat yn gallu bodoli heb sybsidi?

Dadl hefyd am gynaladwyedd darlledu cyhoeddus.

Oes angen paradigm polisi newydd yn Catalonia?

Media Studies in Catalonia: research, publishing … competing?

Enric Castello (Prifysgol Rovira i Virgili)

What is small?

“Population, territory, economy, political history” (Hjort and Petrie, 2007) Cinema in Small Nations

Small is not so much related to the condition but to the context and framing of that nation. One is small in comparison to others.

Marusic and Marusic (1999) wedi trafod lle cyhoeddi o genhedloedd bychain yng nghyd destun cyfrol ymchwil meddygol Croateg.

Wastad penderfyniad ar ba iaith ma rhywun yn ddefnyddio i gyhoeddi. axis arall ar draws hynny sef agoredrwydd diwylliannol (h.y. trafod materion mewn cyd-destun rhyngwladol – “intl journal of…”; “journal cenedlaethol …” neu journal am bynciau cenedlaethol)

National is banalised in the centre vs national is determinant in perihpery (e.g. sub-state)

Universal case studies vs case studies ‘just’ understood in national framework

How do you frame local in an international context? When is focus of study not wide enough to ‘generalise’?

Papers in int. journals rarely mention the national context of their research, when in fact they are rarely international, but transpose a ‘national’ study as universal.

Cynydd mawr mewn niferoedd yn gwneud PhDs astudiaethau cyfyrngau.

Iaith cynnyrch ymchwil: dros 50% yn Catalaneg. Gweddill yn Sbaeneg. Ychydig iawn yn Saesneg. Ymchwilwyr Cat isio cael Catalaneg fel iaith gwybodaeth.

Impact rhyngwladol yn isel o gymharu a lefelau Ewropeaidd fodd bynnag, ond yn gwella.

Cyfnodolion: cyhoeddi abstracts yn Saesneg. Niferoedd yn tyfu.

Un enghraifft: cyfnodolyn yn Saesneg am gyfryngau trwy lygaid Catalaneg: http://www.intellectbooks.co.uk/journals/view-journal,id=162/

Cyd-destun ‘bach’ yn gyfle…

  • arbenigo
  • cymryd perspectif global
  • pwynt dechreuol da i gyfeirio at y gymuned academaidd ryngwladol
  • lle amgen i ganolfannau gwyddonol sefydledig
  • rhaid gadael y Liga Espanola i chwarae y Championship

Sylwadau o’r llawr

Barn y cyhoedd am y system gyfryngau Cat yw bod safon CCRTV yn well na sianelau preifat.

Pam felly sybsideiddio cwmniau preifat? Tyfu sector audiovisual y prif reswm. Nhw wedyn yn gallu bwydo CCRTV.

Trio creu diwydiant cyfryngau preifat sydd yn gallu cystadlu gyda’r cyhoeddus, ond yn parhau i ariannu’r cyhoeddus i lefelau uchel iawn. Trio gweld ar hyn o bryd sut mae datrys y ddau obaith incompatible hyn.

Pwysigrwydd creu’r sffer cyhoeddus yn Cat yn wahanol iawn i’r Alban. Cyd-destun gwleidyddol

Hasn’t been a debate about the nature of the communications sphere in general in Scotlan. More specific cases and often reactive. A lot of discussion still to be had in terms of relationship between possible moves to

 

 

 

Mercator Workshop June 2011 – my phd work in progress presentation

Ddoe mi fues i’n cymryd rhan mewn gweithdy a drefnwyd gan Sefydliad Mercator oedd yn edrych ar yr ymchwil gyfredol ym maes cyfryngau ieithoedd lleiafrifol. Mi roddias gyflwyniad byr ar fy ngwaith i geisio rhoi golwg fras ar lle ydw i yn y broses. Roeddwn yn cyflwyno yn Gymraeg ond gyda gwybodaeth gefnogol ar y sgrin yn Saesneg (roedd y mynychwyr di-Gymraeg yn cael cyfieithiad ar y pryd hefyd). Dyma’r cyflwyniad gyda rhai nodiadau ychwanegol:

* * * * * * * * * * * *

Yesterday I took part in a workshop organised by the Mercator Institute which looked at the current research in the field of minority language media. I gave a short and rough presentation on where I am currently with my phd, visit this 10 months in. I spoke in Welsh but with English supporting visual material, for the ease of those having simultaneous translation. Here’s the presentation with a few extra notes:

Darlledu Basgeg: “rhyngrwyd yn greiddiol”

ambulance on Flickr” href=”http://www.flickr.com/photos/palazio/5260572516/”>Web TV mintegia EHUn
Llun gan palazio ar Flickr

Dwi wedi bod yng Ngwlad y Basg ers dydd Sul ac wedi cael amser gwych a hynod ddefnyddiol. Hon oedd fy ail ymweliad a’r wlad, sildenafil ond y tro cynta i mi fod yno ar bwrpas gwaith ac roedd y croeso gan Edorta Arana, oncology Josu Amezaga a’u tîm ymchwil yn arbennig.

Y rheswm dros fynd oedd gwahoddiad caredig gan Adran Gyfathrebu Clyweledol a Hysbysebu Prifysgol Gwlad y Basg i fynd i siarad yn eu seminar nhw ar WebTV (lluniau ar Flickr). Roedd Elin Haf Gruffydd Jones a minnau (dyma fi!)yn siarad am sefyllfa S4C yng nghyd-destun y rhyngrwyd. Mi wahoddwyd aelodau o S4C i fynd ond doedd neb ar gael, sydd ddim yn syndod efallai, er yn biti.

Seminar ar gyfer eu myfyrwyr nhw oedd o gan fwyaf, ond gyda nifer o aelodau staff a chwmniau yn mynychu hefyd. Rhaid dweud, o berspectif y myfyrwyr, mi ddyla pob un Prifysgol yng Nghymru gynnal seminarau o’r fath. Cawson nhw drwythiad helaeth yn y darlun cyfredol o deledu a’r ffordd y mae’n gorfod ymwneud a’r rhyngrwyd yn ei amryfal ffyrdd heddiw.

Dwi am drio rhoi chydig o sylwadau ar y blog dros y dyddiau nesaf felly dyma ddechrau gyda chyflwniad gan Inako Gurrutxaga, Pennaeth Cynnwys EiTB, sef gwasanaeth darlledu cyhoeddus Gwlad y Basg. Mae ETB1 yn darlledu yn yr iaith Basgeg ac yn darparu gwasanaeth gwe Basgeg / Sbaeneg (gyda darnau Ffrangeg a Saesneg hefyd). Dyma rai uchafbwyntiau o’i gyflwyniad o’u gwaith sydd, dwi’n meddwl, yn eithaf arwyddocaol o’u gosod wrth safle S4C yn y maes hwn:

Gwe Cymdeithasol

  • EiTB yn deall bod angen cysylltu cynnwys gyda phroffiliau cymdeithasol ac mae gwefan EITB.com yn ganolbwynt i hyn.
  • Mae UX yn hynod bwysig iddyn nhw. Rhaid i wybodaeth fod ynghlwm a chynnwys clyweledol. Dyna sut ma nhw’n gwahaniaethu eu hunain rhyngthyn nhw a gwefannau newyddion a portals gwybodaeth eraill.
  • Rôl bwysig gan y sianel i ysgogi cyfranogiad

Ecsploetio cynnwys digidol

  • Gweithio ar ffordd o ddangos archif teledu, a’i agor i bobol ail-gymysgu ac ail-ddefnyddio, gan ddefnyddio trwydded debyg i Creative Commons.

Ymateb EITB i’r newidiadau yn y cyfryngau

  • Maent wedi cael newid sylfaneol yn athroniaeth y grwp yn sgil y newidiadau i fyd darlledu. Nawr mae’r rhyngrwyd yn greiddiol.
  • Mae EITB wedi newid proffil swyddi o fewn y cwmni, gan ail-asesu defnydd o adnoddau a llif gwaith gan ystyried y rhyngrwyd ar bob gwasanaeth.
  • Mae nhw’n gweithio ar y gososdiad creiddiol bod y rhyngrwyd yn wahanol i deledu a radio, a’i fod ddim jest yn newid mewn dull dosbarthu.
  • Mae nhw’n credu y gall y rhyngrwyd fydd ‘modur y grwp’

Ar ba blatfformau/prosiectau mae EITB yn gweithio?

  • Cynnwys EITB ar gael ar ffonau symudol Apple ac Android trwy app a gwefan optimised.
  • Teledu ar-alw
  • Widgets teledu yn bodoli ar setiau Phillips, Samsung
  • …ac mae nhw’n edrych ar wasanaethau newydd Hulu, AppleTV, GoogleTV etc er mwyn sicrhau lle ar y rheiny.
  • Rhyngweithio byw gyda gwylwyr ar deledu a radio trwy wasanaethau fel Twitter a Facebook – mae EITB wedi bod yn arbrofi ers blwyddyn ar hyn, gan ei integreiddio mewn i raglenni.
  • Cronfa r & D ar gyfer arbrofi gyda chynnwys amlblatfform / trawsgyfryngau/ Codau QR / Realaeth  /
  • Brwd i gydweithio gyda chwmniau sydd yn arloesi ar-lein ac yn awchu am fewnbwn gan fyfyrwyr: eisiau cydweithio gyda gwasanaeth Umap, sef hidlydd tweets a chydgasglwr cynnwys Basgeg.

Dwi’n derbyn nad ydi sefyllfa S4C ac EITB yn union yr un fath – mae EITB yn gwneud newyddion ar-lein, darparu radio ac yn darlledu sianel Sbaeneg hefyd – ond gellid dweud bod strategaeth we EITB yn gwbl sylfaenol i ddyfodol y grwp. Bydd angen i S4C, a’r gwasanaethau Cymraeg ar y BBC o ran hynny, wneud llawer mwy i gyrraedd y math hyn o ymroddiad i ddatblygu. Mae’r fforwm cyfryngau newydd sydd newydd gael ei gyhoeddi ar gyfer Ionawr yn gam i’r cyfeiriad cywir ond rhaid cael strategaeth we glir a phendant os am allu dal fyny gyda’n cyfeillion yn y peninsiwla Iberaidd.