12:43 Cwestiynau
- Ivor Davies: Cymru yn copio pethau Saesnig, hyd yn oed yn ein rhaglenni. Pan rydyn ni’n gwneud rhywbeth sy’n wahanol, rydyn ni’n cael llawer mwy o lwyddiant. e.e cyfres y Tywysogion
- ID: Protest fawr S4C gynharach eleni ond prin iawn oedd y sylw iddo.
- ID: bosibl i weithio i gyd-gynhyrchu dramor.
- Ioan Bellin (NUJ) : cyn toriadau a ddylen ni gael adolgyiad llawn o S4C? Ydyn nhw wir yn credu gallwn ni gael nnibyniaeth a digon o arian ar ol 2015?
- GLL: bydd adolygiad gan DCMS yn 2014
- GLL: sawl adolygiad mewnol wedi bod, ac yn digwydd ar hyn o bryd.
- GLL: does dim sicrwydd tu hwnt i 2015
- IG: TAC wedi gofyn ers y dechrau am adolyg llawn allanol
- IG: angen i S4C “gallio” ynglyn a’r holl adolygiadau mewnol
- IG: peidiwch a beio cwmniau am wneud rhaglenni sydd yn “copio” ond edrychwch at y briff gan s4c
- GLL: mae na glamp o gronfa o dalent a chreadigedd yn S4C
- Rhys Jones: 4 wedi son am rol y cyfryngau newydd, ond ydyn ni tybed yn euog fel cenedl o gael ein swyno gan y cyfryngau newydd, a’n hytrach bod angen i ni ganolbwyntio ar stori?
- Angharad Mair: ategu pwynt RJ; bwysig ein bod ni’n edrych nol, a ddim yn ail-ysgrfennu’r hanes. Tipyn o’r cyffro a chreadigrwydd wedi dod o gystadleuaeth rhwng BBC ac ITV ar ddechrau S4C,
- AM: sefydlwyd cwmniau gan bobol oedd yn ITV a BBC. Nid yw creadigrwydd jest yn dod o tu allan i’r bobol sydd wrthi rwan.
- AM: i nifer o bobol ifanc, mynd mewn i gwmni sy’n cynnig gwaith yw’r ffordd orau o gael ymarfer creadigrwydd. Nid pawb sydd eisiau dechrau cwmni.
- EP: erbyn 1983 roedd na 50 o gwmniau yn darparu. Dadlau dros amrywiaeth yn y sector. Angen darparu gofod i gwmniau micro ac unigolion gynnig syniadau yn uniongyrchol.
- IG: un o’r pethau craidd mae TAC yn ceisio sefydlu ydi arian arbennig ar gyfer newydd ddyfodiaid a chwmniau llai. Yn y pen draw y syniad sy’n mynd i yrru’r sianel yn y pen draw.
- Robert Beveridge (Edinburgh Napier Uni): “themes coming through was a wish to see an independent s4c. Want them to think through the scenarios: Bbc trust might not exist before long. Trustee for Wales finds herself in a conflicted position. Budgetary constraints: possible scenario that bbc gives up Welsh lang b/casting entirely. In that context, would s4c be able to achieve independence?”
- Gareth (Rondo): mae peryg edrych nol ar gyfnod dechreuol S4C, am bod llawer mwy o arian yno i gyflenwi llai o oriau. Cwmniau o wahanol meintiau yn rhoi cyfleoedd i syniadau newydd. Peryg cyffredinoli. Peryg anghofio llwyddiant cwmniau yn y sector y tu hwnt i Gymru.
- G: eisiau gweld gallu s4c i gynnal oriau yn parhau yn y dyfodol. Enghraifft dda oedd darpariaeth Canwr y Byd lle roedd BBC ond yn gallu darparu slot bach, gan olygu colli’r gwobrwyo am nad oedd amser.
- IG: ymateb i RB – if BBC Wales gave up making Welsh lang progs, would S4C get those funds from the licence fee directly?
- IG: continually get mixed messages re: what independence means to gov and bbc
- GLL: eisiau ecosysem sydd yn cynnig plwraliaeth a dewis i’r gwylwyr
- IG: Examples of cooperation already e.g. Welsh
- HM: shouldn’t see bbc existing in the future as it does now. Shouldn’t be seen as something fixed.
- HM: creative ideas today are much more likely to come from users than just from producers
- HM: new media tech never transform industry, but add to media environment: interactivity and participation is key to the way digital media is transforming the media currently
12:35 HM
- a lot of the rhetoric re: internet is unlimited access to info
- but the first causalty of the internet is journalism
- a serious info deficit to be addressed: not just in politics but a broader cutlural role
- burgeoning national inst. such as NTW etc, but paradoxically less time to cover them
- the way that cult. texts are circulating is changing: authority of b/cast orgs is being challenged
- raises q’s on future of b/cast orgs: media orgs having to let go as they engage with soc media
- one of defining feature of govs in Wales has been collaborations: although competition bet S4c and bbc, one should also discuss ways of collaborating
- with the growth of no’s of Welsh speakers lang policies have shifted from emphasis on rural heartland: raises tensions and issues
- lang and its culture has become more cosmopolitan: has S4C responded to this?
- Mario Basini has argued that division of language is unhealthy and that bilingual channel might be healthy, not poss in 80s but maybe now
- accountability to dcms seems an anachronism: little interest in its future
- seems obv. to HM that WelshGov should have more input
- Welsh Gov should assume greater control over b/casting, which rasises issues over governance of bbc
- Welsh Media Commission has been raised as a poss, funding Welsh and Eng in a contestible way.
12:27 IG cwestiwn enfawr. Ddylen ni orfod gofyn y cwestiwn o gwbl o ystyried y frwydr i’w sefydlu?
- toriadau yn anorfod, gan bod gweddill cymdeithas
- y ddêl BBC / DCMS yn warthus. Dêl i orfodi gorfodi BBC i gymryd y World Service. “drive by shooting” BBC oedd y targed, saethodd y BBC yn ol ond cafodd S4C ei ddal yn y crossfire
- Mae yna dal arian ar y bwrdd, ac yn ddigon i gynnig gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg. Felly, oes mae dyfodol, ond am ba hyd?
- Tu hwnt i 2015: angen i sianel fod yn berthnasol a hanfodol
- 33 o gwmnia yn cyflenwi S4C: TAC yn cynrychioli 30
- TAC yn cynrychioli cwmniau bach, canolig a mawr ac sy’n barod i ymateb i’r her
- cryn feirniadaeth o’r polisi S4C am gwmniau mawr – y cwmniau mawr sy’n hyfforddi gweithu y dyfodol – mae nhw’n bwysig hefyd
- Cymru yn wlad sydd a’i golygon ar Lundain, yr Alban ddim gymaint felly.
- Angen i S4C ymwneud gyda chynyddu mynediad at ddemocratiaeth (mwyafrif pobol Cymru’n darllen papurau Lloegr)
- Bryd i Western Mail stopio cyfeirio at S4C fel beleaguered, diffyg gwylwyr etc
- Angen: sefydlogrwydd, anibyniaeth a 100% o’r arian i fynd i’r sector gynhyrchu
- Methu derbyn sefyllfa lle mae rhaid negydu cyllideb yn flynyddol post 2015
- Nid arian y BBC ydyw, ond arian y drwydded.
- Rhaid peidio anghofio bod S4C a BBC mewn cystaldeuaeth: annibyniaeth ariannol a golyg yn hanfodol
- “Os lwyddwn ni yn hynny, oes mae dyfodol i S4C”
12:26 EP yr allwedd: sicrhau deilaog cyson a pharhasu gyda’r gynulleidfa. Ond angen i wylwyr, roi o’r neilltu difaterwch ac ymun yn y drafodaeth.
12:19 EP falch bod hwn ddim yn post-mortem
- cyfle i godi o’r rhigol ac ail-flaenoriaethu ac addasu
- er ei bod yn hanesydd nid dilyn llwyddiannau blaenorol yn slafaidd ddylai ddigwydd
- ond, mae rhai gwersi i’w dysgu
- polisiau diweddar wedi lleihau nifer cwmnioedd – yn erbyn ysbryd y sianel i geisio creu sector annibynol ar ddecrhau’r sianel
- hyn wedi creu sector anhyblyg
- [Gallwch chi weld dadl lawn EP yma: http://www.clickonwales.org/2011/06/imagining-a-new-s4c/ Mi wna i geisio ychwanegu unrhyw sylwadau sydd yn wahanol]
12:11: GLL annodd iawn trafod S4C heb gyd-destun ehangach y byd darlledu
- chydig o bryder bod pobol dal yn cyfeirio at Mrs Jones Llanrug yng nghyd estun cynulleidfa
- angen meddwl am wyres Mrs Jones, er bod Mrs Jones dal yn gwylio
- canran uchel o siaradwyr Cym ddim yn gwylio. O bryder. Ydyn nhw’n gwrando ar Rad Cym, darllen Golwg hefyd? Angen cyrraedd nhw
- Sut ydan ni’n mesur y gynulleidfa a gwerthfawrogiad a chyfraniad y gwerth i’r genedl?
- Edrych i’r dyfodol: cwtogiad i £65m yn sylwweddol ond sail y gwaith at 2012+ ydi’r gwylwyr
- Isio edrych at iaith sydd yn ddealladwy yn syml ac yn addas ar gyfer cartrefi sydd yn gymysg oran iaith
- Sut mae mesur yr effaith a dy;anwad ar yr iaith? Angen gwaeddi am y llwyddiannau.
- Dydi iaith Twitter a FB ddim yn iaith Emrys ap Iwan. Angen addasu i hynny.
- Nifer o ddatblygiadau cyfryngau digidol, fel apps a thwf gwylio ar Clic.
- Pobol isio cyfrannu nid jest gwylio – y brodorion digidol (gweler gwadiad Suw Charman o’r term hwn: http://charman-anderson.com/2010/03/02/report-digital-natives-a-myth/)
- Angen i S4C ddeall diwylliant arlein.
- Nodi bod nhw wedi ffurfio Fforwm Cyfryngau Newydd a clustnodi arian ar gyfer buddsosddi mewn cyfryngau digidol (Gwadiad: dwi ar Fforwm CN S4C)
- Ceisio gweithio ar fanylion sefyllfa cydweithio BBC a sichau bod y manylion yn iawn o ran y pwyslais ar annibyniaeth.
- Angen cadw’r hawl i gomisiynu cynnwys heb ymyrraeth o’r tu allan.
12:08 Cyflwyniad gan Ruth McElroy (Prifysgol Morgannwg)
“nid edrych yn ôl ydi’r bwriad. Gofyn yn ôl cyfrol Steve Blanchard a Simon Morley ym 1982 “What’s this channel for?”. Beth fydd ei le yn y tirlun darlledu newydd?
12:07 Ar y panel: Garffild Lloyd Lewis (S4C), Elain Price (Prifysgol Abertawe), Iestyn Garlick (TAC), Hugh McKay (Y Brifysgol Agored)
Dyma rai nodiadau o’r sesiwn uchod (wnai ddiweddaru wrth i fi fynd…):
Devolution and the Media in Scotland
David Hutchinson (Prifysgol Glasgow Caledonian)
Y Wasg
- pryder am drosglwyddiad cyhoeddiadau gwasanaeth cyhoeddus i’r we yn hytrach na mewn papurau newydd
- oherwydd standing committee yn Holyrood, penderfynodd MSPs wrthod am y rheswm y byddai’n wael i sector y wasg
- ond dim pwer i wneud unrhywbeth amdano
Darlledu
- tebyg i Gymru, ond dadleuon hefyd am opt-outs o’r rhwydwaith, ac a ydyn nhw’n gwneud cyfraniadau i’r rhwydwaith
- BBC Alba – spend per Gael is double that for S4C
- Scottish B/cast Commission – ymateb y BBC: “8.6% i ddod o’r Alban” Mark Thomson – canlyniad uniongyrchol o waith yr SBC.
- SBC – wedi gofyn am sianel ddigidol i’r Alban. Blair Jenkins wedi dweud “If we were starting afresh it would be a no-brainer”
- Sianel Alban – panel wedi argymell i’r ffi drwydded gael ei top-sleisio i’w
- Sianel Alban – a ddylai BBC Alba rannu lle sbectrwm?
- Canlyniadau: Holyrood fwyfwy a diddordeb ar draws y cyfryngau; ond heb arian na grymoedd pa mor ddifrifol ellir cymryd eu barn; arian digonnol oherwydd y grant bloc yn broblem dal i fod
- mwyafrif SNP yn rhoi pwysau ychwanegol i ddatganoli elfennau o rymoedd dros gyfryngau
- Hutchinson yn codi amheuon dros gwerth ddatganoli cyfryngau os nad oes arian hefyd.
- Mi fydd darlledu yn dod yn un o brif faesydd dadl rhwng Holyrood a San Steffan
Media, culture and national reconstruction in stateless nations: the case of Catalonia
Josep Angel Guimera ac Ana Fernandez Viso (Prifysgol Awtonomaidd Barcelona)
- astudio strwythr a pholisiau cyfathrebu yn Catalonia
- y wladwriaeth a grym dros telegyfathrebu a rheoleiddio sylfaenol dros gyfryngau
- Generaltitat yn gyfrfiol dros datblygu a gweithredu rheoliadau sylfaenol ar gyfer y cyfryngau; sinema; diwylliant a iaith Catalaneg; ei gyfryngau cyhoeddus ei hun
- Ond mae amwyster am y competences hyn = lle ar gyfer dadleuon
- cyfryngau wedi cymryd rol fawr mewn reconstruction cenedlaethol, a’r llywod. wedi gorfodi’r wladwriaeth i drosglwyddo grymoedd ddarn wrth ddarn
Rhesymau dros geisio gwneud Catalan Communication Space?
Yr 80au
- Normaleiddio ieithyddol
- sefydlon nhw eu cyfryngau eu hunain *cyn* iddyn nhw gael y grymoedd wedi eu trosgl. i wneud hynny
- Adeiladu sffer cyhoeddus i Gatalonia
- sefydlu CCRTV yn 1983 – rhan o hyn mi wnaethon nhw ddechrau rhoi trwyddedau radio lleol
- Ymgais i gynyddu hunan-lywodraeth
90au
- hyrwyddo a thrwyddedu cyfryngau lleol
- deddf sinema Gatalaneg
00au
- dechrau prosiect pilot ar ddefnyddio frequencies FM heb ganiatad Sbaen, gan gynnwys ‘trwyddedau prawf’ – gorfodi Sbaen i newid eu polisi trwyddedu a rheoleiddio
- adeiladu sector gyfryngau preifat Catalaneg
- wedi dyfarnu Mux digidol i grwp preifat Cat – ceisio creu grwpiau amlgyfrwng Cat
- mwy o ddeddfau ieithyddol oedd yn effeithio ar gyfryngau (puntCAT, sybsidi,
CCRTV nawr yn gyfrifol am 4 gorsaf radio, 7 sianel deledu, 1 sianel lloeren, 11 gwasanaeth gwe . Catalaneg yn unig.
Cyllideb CCRTV €357.5m yn 2010; €110.7m ym 1989
85% yn sybsidi yn y 6 mlynedd ddiwethaf.
Cyfryngau preifat: sybsidi yn arf polisi allweddol
€107m rhwng 2005-2010
ariannu sianeli teledu, radio, y wasg a gwefannau – lleol a cenedlaethol
Heriau?
toriad 30% i sybsidi cyfryngau preifat
CCRTV yn wynebu toriadau – dim ffigwr
lleihad mewn incwm hysbysebu 20%-30% i’r rhan fwyaf (50% i’r lleol)
Ydi’r system gyfryngau preifat yn gallu bodoli heb sybsidi?
Dadl hefyd am gynaladwyedd darlledu cyhoeddus.
Oes angen paradigm polisi newydd yn Catalonia?
Media Studies in Catalonia: research, publishing … competing?
Enric Castello (Prifysgol Rovira i Virgili)
What is small?
“Population, territory, economy, political history” (Hjort and Petrie, 2007) Cinema in Small Nations
Small is not so much related to the condition but to the context and framing of that nation. One is small in comparison to others.
Marusic and Marusic (1999) wedi trafod lle cyhoeddi o genhedloedd bychain yng nghyd destun cyfrol ymchwil meddygol Croateg.
Wastad penderfyniad ar ba iaith ma rhywun yn ddefnyddio i gyhoeddi. axis arall ar draws hynny sef agoredrwydd diwylliannol (h.y. trafod materion mewn cyd-destun rhyngwladol – “intl journal of…”; “journal cenedlaethol …” neu journal am bynciau cenedlaethol)
National is banalised in the centre vs national is determinant in perihpery (e.g. sub-state)
Universal case studies vs case studies ‘just’ understood in national framework
How do you frame local in an international context? When is focus of study not wide enough to ‘generalise’?
Papers in int. journals rarely mention the national context of their research, when in fact they are rarely international, but transpose a ‘national’ study as universal.
Cynydd mawr mewn niferoedd yn gwneud PhDs astudiaethau cyfyrngau.
Iaith cynnyrch ymchwil: dros 50% yn Catalaneg. Gweddill yn Sbaeneg. Ychydig iawn yn Saesneg. Ymchwilwyr Cat isio cael Catalaneg fel iaith gwybodaeth.
Impact rhyngwladol yn isel o gymharu a lefelau Ewropeaidd fodd bynnag, ond yn gwella.
Cyfnodolion: cyhoeddi abstracts yn Saesneg. Niferoedd yn tyfu.
Un enghraifft: cyfnodolyn yn Saesneg am gyfryngau trwy lygaid Catalaneg: http://www.intellectbooks.co.uk/journals/view-journal,id=162/
Cyd-destun ‘bach’ yn gyfle…
- arbenigo
- cymryd perspectif global
- pwynt dechreuol da i gyfeirio at y gymuned academaidd ryngwladol
- lle amgen i ganolfannau gwyddonol sefydledig
- rhaid gadael y Liga Espanola i chwarae y Championship
Sylwadau o’r llawr
Barn y cyhoedd am y system gyfryngau Cat yw bod safon CCRTV yn well na sianelau preifat.
Pam felly sybsideiddio cwmniau preifat? Tyfu sector audiovisual y prif reswm. Nhw wedyn yn gallu bwydo CCRTV.
Trio creu diwydiant cyfryngau preifat sydd yn gallu cystadlu gyda’r cyhoeddus, ond yn parhau i ariannu’r cyhoeddus i lefelau uchel iawn. Trio gweld ar hyn o bryd sut mae datrys y ddau obaith incompatible hyn.
Pwysigrwydd creu’r sffer cyhoeddus yn Cat yn wahanol iawn i’r Alban. Cyd-destun gwleidyddol
Hasn’t been a debate about the nature of the communications sphere in general in Scotlan. More specific cases and often reactive. A lot of discussion still to be had in terms of relationship between possible moves to
Chwara teg i Ofcom, ma nhw di gwneud cyfieithiad neis o’r ymateb anfonais i atyn nhw yn gwrthwynebu newid fformat Radio Ceredigion.
Diddorol yw darllen nodyn pellach gan Radio Ceredigion yn ychwanegol i’w cais gwreiddiol eto’n ceisio cyfiawnhau eu ‘dwyieithrwydd’ drwy ddweud bod blocio rhaglenni yn Gymraeg a Saesneg ar wahân wedi methu. Iddyn nhw, yr unif ffordd o wasanaethu buddiannau’r di-Gymraeg yn y Sir yw i leihau’r Gymraeg ar yr orsaf i lefel lle nad yw’n ymyrryd a’r Saesneg. Dyna chi olwg wyrdroedig ar gynrychiolaeth leol!
Ar ben hyn, maen nhw’n honni y byddant yn penderfynu ar gynnwys nid ar sail iaith ond ar sail teilyngdod. Yr hen gneuen na glywson ni gan Syr Emyr Jones Parry ond yn ddiweddar iawn ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mi wyddon ni’n iawn ble mewn penderfyniadau o ‘deilyngdod’ sut mae grym yr iaith fwyafrifol yn dod mewn i’r hafaliad.
A’r ymateb cryf gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg sydd yn cynnwys beirniadaeth o anallu Ofcom i sicrhau gofynion cryfach am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar radio masnachol.
2.2
Mae’r Bwrdd ac Ofcom yn cytuno bod ‘cynnal busnes cyhoeddus’ mewn perthynas â gwaith Ofcom yn cynnwys gweithrediad swyddogaeth Ofcom o drwyddedu darlledwyr radio. Mae’r Bwrdd o’r farn ei bod yn briodol ac yn rhesymol ymarferol i Ofcom sicrhau, wrth weithredu’r swyddogaeth hon, bod darparwyr radio yng Nghymru yn cynnig darpariaeth Gymraeg mewn achosion priodol.2.3
Mae Adran 314(7) Deddf Cyfathrebiadau 2003 (DC 2003) yn diffinio ‘deunydd lleol’ y mae gofyn i ddarlledwyr radio ei gynnig. Er na chyfeirir yn benodol at iaith credwn y gellir dehongli’r diffiniad a gynigir i gynnwys deunydd yn yr iaith Gymraeg.Os felly, mae’r pŵer gan Ofcom dan Adran 314 DC 2003 i sicrhau bod gwasanaethau lleol yn cynnwys deunydd Cymraeg, lle bo Ofcom yn ystyried hynny’n briodol. Gallai Ofcom ddefnyddio’i bŵer dan Adran 314(2) DC 2003 i ddiwygio’i ganllawiau ar ddeunydd lleol, fel y gellir penderfynu a yw trwyddedai yn cyflawni dyletswyddau o ran iaith o fewn trwydded.
2.4
Hyd yn oed os nad yw Ofcom, fel mater o bolisi, yn dymuno dehongli Adran 314(7) DC 2003 i gynnwys deunydd Cymraeg na diwygio’i ganllawiau ar ddeunydd lleol i gynnwys deunydd Cymraeg, credwn y gallai, fel nodir uchod, ddefnyddio’i bwerau eang dan Adran 87 DD 1990 i gynnwys amodau i ddarparu yn y Gymraeg o fewn trwyddedau darlledwyr radio, ble ystyrir hynny’n briodol.
Ymateb llawn Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Mae system fethedig trwyddedu masnachol Ofcom wedi gwanychu a gwanychu o ran beth yw ystyr darpariaeth leol ac o ran cynrychioli diwylliant a iaith lleol. Mae’r gwanychiad hwn wedi creu aneglurder yn yr hyn sydd i’w ddisgwyl gan orsafoedd o Ofcom a’r hyn gall y cyhoedd ddisgwyl o orsafoedd. Yn ei dro mae hyn wedi golygu bod y llinellau ffawt wedi agor rhwng dyheadau masnachol a dyheadau cymunedol.
Mae hi’n hen bryd i Ofcom sortio’r llanast ma. Ac os na all Ofcom wneud hynny am na allant wneud yn wahanol i weddill Prydain, yna datganoler yr holl bwerau dros drwyddedu radio i Gymru.
Ddoe mi fues i’n cymryd rhan mewn gweithdy a drefnwyd gan Sefydliad Mercator oedd yn edrych ar yr ymchwil gyfredol ym maes cyfryngau ieithoedd lleiafrifol. Mi roddias gyflwyniad byr ar fy ngwaith i geisio rhoi golwg fras ar lle ydw i yn y broses. Roeddwn yn cyflwyno yn Gymraeg ond gyda gwybodaeth gefnogol ar y sgrin yn Saesneg (roedd y mynychwyr di-Gymraeg yn cael cyfieithiad ar y pryd hefyd). Dyma’r cyflwyniad gyda rhai nodiadau ychwanegol:
* * * * * * * * * * * *
Yesterday I took part in a workshop organised by the Mercator Institute which looked at the current research in the field of minority language media. I gave a short and rough presentation on where I am currently with my phd, 10 months in. I spoke in Welsh but with English supporting visual material, for the ease of those having simultaneous translation. Here’s the presentation with a few extra notes:
O’n i jest isio gweld sut oedd rhai o nodweddion Storify yn gweithio ar flog WordPress, felly dyma chi go arni.
I’m currently reading Minority Languages on the Internet: Promoting the regional languages of Spain by Peter Gerrand. It’s one of the only books that focuses primarily on the minority language on the internet from a language planning perspective rather than a more descriptive linguistic approach. His main focus is the policies implemented by the Basque, Catalan and Galician autonomous communities to promote and sustain their languages on the internet.
I just wanted to quote a thought provoking paragraph from the conclusion of his chapter outlining the role of minority language in an Internet dominated by English:
On the internet, the challenges for minority languages are the same as for the lesser-used national languages such as Dutch, Czech and Norwegian: how to enhance their prestige, and avoid domain loss. Language prestige cannot be achieved without language visibility. And so it is in the interests of linguistic survival to ensure a growing amount of communication in that language on the Internet, and to ensure that the language’s online resources are not ignored by the Internet’s search tools and addressing scheme. (Gerrand, 2007:45)
What this suggests to me and my current work, and this is something that I’ve been thinking about already especially in relation to French and their relationship with English on the internet, is that comparisons of Welsh and Norwegian, Danish or Dutch could provide many interesting insights in terms of approaches to language issues and planning on the internet, particularly from the perspective of media and participation. After all, Norwegian and Dutch internauts have the same ‘internet diglossia’ problem as Welsh speakers have. You could argue that we are all diglossic with English on the internet, even though the internet now has become much more multilingual. Some would say that there are parallel internets and that the walls between the languages are too high to be able to use the diglossia analogy. Whatever the description, the Norwegians and the Dutch alike are having to think about how their language can have an even playing field in a globalised media environment.
Wrth edrych am y ffigyrau cyfredol am niferoedd defnyddwyr Wicipedia (neu Wikipedia Cymraeg), meddyliais y byddai’n werth jest rhoi snapshot yn cymharu sawl iaith sy’n leiafrifol, rhanbarthol neu ddim yn iaith gwladwriaeth (gan gynnwys Esperanto am laff!). Dyma’r tabl ryff:
Maent wedi eu trefnu yn ôl y golofn ‘depth’. Mae Wikipedia wedi creu fformiwla ‘depth’ er mwyn ceisio deall gwerth cymharol gwahanol Wikipediau. Mae’n asesu gwerth Wikipediaiddd, sef dyfnder y cydweithio/cyfranogiad, yn hytrach nac unrhyw werth academaidd (rhagor ar Wikipedia article depth – Meta).
Dyma’r tabl eto wedi ei drefnu yn ôl nifer erthyglau:
Ro’n i’n chwilfrydig i weld lle roedd y Wikipedia Cymraeg yn sefyll o ran gwerth y cyfraniadau ochr yn ochr â ieithoedd lleiafrifol eraill. Fel rhyw fath o ffon fesur dyma ‘ddyfnder’ rhai Wikipedias eraill: Saesneg: 603; Ffrangeg: 143; Iseldireg: 31; Pwyleg: 13.
Un cwestiwn dwi’n meddwl amdano heddiw ydi beth ydi’r gwahaniaeth rhwng iaith ar y rhyngrwyd sydd â diglossia gyda Saesneg, a iaith sydd gyda diglossia gyda iaith arall; ac i ba raddau mae hyn yn effeithio ar lefel a natur y cydweithio/cyfranogiad. Fy rhagdybiad oedd bod Saesneg yn parhau yn iaith ddominyddol ar y rhyngrwyd, a bod siaradwyr Cymraeg a Gwyddeleg, dyweder, yn llai tebygol o ddefnyddio’r rhyngrwyd yn eu hiaith na siaradwyr Basgeg neu Galisieg. Wrth gwrs mae hyni gyd yn gor symleiddio’n llwyr, ond mae’n ddiddorol gweld beth yw’r lefel cyfranogiad.
Mae gan y Basgwyr dros ddwy waith yn fwy o ddefnyddwyr bwyiog na’r Gymraeg, ond eto, mae ‘dyfnder’ y cyfraniadau yn llai. Fodd bynnag gan bod y nifer o ddelweddau yn y Wikipedia Basgeg yn y tabl yn 1, sydd yn methu bod yn gywir, dwi’n amau bod eu ffigwr ‘dyfnder’ wedyn yn anghywir hefyd.
O bosib, gellid tynnu o hyn bod rhyw fantais yn dod i’r amlwg i ieithoedd sydd â diglossia gyda Saesneg yn achos Wikipedia. Am eu bod yn rhannu iaith gyda’r iaith fwyaf ar Wikipedia yn gyffredinol (a’r iaith weinyddol ar lefel uchaf Wikipedia), mae ychydig o’r bywiogrwydd hynny yn tollti drosodd i’r ieithoedd hynny. Bosib bod y gymuned Wikipedia ym Mhrydain, Iwerddon a’r UDA yn gryfach o ganlyniad i’r ffaith bod y Saesneg dal yn dominyddu’r wefan. Wn i ddim os yw hyn yn cyfri fel effaith bositif i diglossia gyda Saesneg am unwaith! Mae’n dibynnu os taw ‘gwerth’ neu ‘nifer’ yw eich meini prawf chi wrth gwrs. O bosib bod mwy o angen (efallai oherwydd diffyg adnoddau eraill) am nifer mwy o erthyglau mewn un iaith na’r llall hefyd.
Efallai hefyd bod y tebygolrwydd o gael erthygl gyfatebol, well a mwy trwyadl, yn Saesneg yn golygu bod llai o gynhyrchu erthgylau stwbyn, a rhoi mwy o gig ar erthyglau. Mi allai wrth gwrs, fod o ganlyniad i dîm golygyddol mwy bywiog hefyd (mae Wikipedia Cymraeg yn ail o ran niferoedd Admins, i’r Gatalaneg), ond mae’r enghraifft Wyddelig yn awgrymu nad yw hyn yn wir.
Dyna rai sylwadau sydyn, off the cuff. Faswn i’n hapus i glywed unrhyw sylwadau pellach, yn arbennig o ran y math o lefel cyfranogiad mae rhywun am ei gael mewn gwahanol ieithoedd neu sefyllfaoedd diglossaidd.
Influence Networks: The six degrees of investigative journalism » OWNI.eu, News, Augmented.
Dwi’n gynyddol impresd efo be mae’r rhwydwaith newyddiadurol Ffrengig Owni yn ei wneud. Eu prosiect diweddaraf yw lansiad app ar gyfer newyddiadurwyr, NGOs ac ymgyrchwyr i helpu i wneud dadansoddiad o rwydweithiau.
Mae Influence Networks yn galluogi defnyddwyr i ychwanegu pobol a sefydliadau at y gronfa ddata, gan nodi eu perthynas a’u gilydd, yn ogystal â nodi beth yw lefel gwirionedd y berthynas yna (h.y. ai dim ond sibrydion o berthynas neu ydi’r berthynas yn hysbys ac wedi ei gadarnhau).
Mi alla i wedl defnydd o hwn ar gyfer mapio gweithgareddau’r Cynulliad a gwneud y gwaith o geisio deall pwy sy’n gwneud beth yn ychydig mwy eglur.
Dyma eglurhad o sut gallai gael ei ddefnyddio ar gyfer torfoli ymchwiliad:
Influence Networks’ aim is to allow any journalist or citizen to call for a collaborative investigation on a given topic. Let’s say you want to check on all contractors in the US military. You could do that by hand (very time consuming) or ask for contributions that you then check by hand (again, a very long process).
With Influence Networks, all data is collaboratively validated and managed on a machine-readable format. That means that data can be linked with other relevant repositories and speak for itself. A search between “US government” and “military contractors” could reveal who might have a conflict of interest when going to war, for instance. Remember in late 2001, when KBR, a Halliburton subsidiary, was granted a 10-year contract wherever US troops went? A network analysis tool at the time might have made the ties between KBR and vice-president Cheney clearer.
Enghraifft ddiddorol o dorfoli dwi’n meddwl a mae wastad yn braf gweld arloesedd o’r fath yn deillio o’r tu allan i’r UDA.



