Beth yw’r cyswllt rhwng Björk, torfoli cyllid a dysgu ieithoedd?

Wrth ddarllen y cyfweliad hwn:

Q&A: Bjork on the evolving music industry, Kickstarter and Spotify (Wired UK).

Mi welais y dyfyniad hwn:

Your Kickstarter project to bring Biophilia to Android was sadly unsuccessful — looking back, what would you do differently and would you use crowdfunding again in the future?

 

I think it was the only thing we could do at the time, but only because of it failing we were approached by a company that had the latest technology to change Biophilia to Android in a lot simpler and more effortless way. So I don’t look at it as a mistake. When you go on an adventure like this, sometimes you have to accept that solutions come from places you couldn’t imagine and in a different way and from a different direction than you were aiming for. You have to drop control in a way but still try, not give up and not be too concerned about looking clumsy at times.

Mae’r frawddeg olaf dwi di bwysleisio mewn llythrennau bras yn cyfleu profiad cyffredin i unrhyw un sydd wedi dechrau prosiect arlein sydd yn defnyddio teclynnau sydd heb eto gael eu safoni, neu gyrraedd prif ffrwd diwylliannol eto.

Mi darodd fi ei fod o hefyd yn brofiad sydd yn gyffredin i ddysgu iaith – mae’n rhaid gadael i’ch hunain edrych yn drwsgwl a gwneud camgymeriadau er mwyn gallu dysgu a phrosesu’r iaith. Ar yr llaw arall hefyd mae’r swildod sydd yn dod o fod yn drwsgwl hefyd yn atal pobol rhag dysgu iaith neu ymroi i brosiect digidol sydd efallai ddim am weithio.

Mae sgil effeithiau positif ac annisgwyl yn dod o ddysgu ieithoedd hefyd yn yr un ffordd a mae Bjork yn nodi uchod am ei phrosiect Biophilia. Mae’r drws i ddiwylliant arall a’r bobol mae rhywun yn cyfarfod yn aml yn annisgwyl ar ôl yr ymdrech sydd mor focused ar ddysgu rhwybeth, heb efallai ddysgu am bwrpas y dysgu ar hyd y ffordd!

Ddyla hyn ddim bod yn syrpres falle, gan bod dysgu yn broses o fethu-deall-addasu-gwella, ond bod dysgu cyfathrebu yn gyhoeddus ac gyda phobol eraill yn fwy exposing na llawer i ffordd arall o ddysgu. Dwi wastad wedi sylwi wrth ddysgu myfyrwyr am ddefnyddio teclynnau digidol er enghraifft bod y foment yna o gael ymateb uniongyrchol wrth ymwneud am y tro cynta yn debyg iawn i’r foment yna o gynhesrwydd a’r golau’n dod mlaen wrth lwyddo i gyfathrebu â rhywun mewn iaith newydd. Yn y maes cyfryngau cymdeithasol, torfoli arlein ac ieithoedd mae mentro’n gyhoeddus – a bod yn barod i edrych chydig yn drwsgwl, a methu – yn rhan hanfodol o’r broses. Ynddyn nhw gyd, rhaid i ti roi dy hun allan yna, gan wybod y bydd rhywbeth da yn dod hyd yn oed os nad yw’r prosiect yn llwyddo fel y rhagwelaist.

Anghyfartaledd newyddion Cymraeg a Saesneg BBC Cymru

Sbotiwch y gwahaniaeth:

Screen Shot 2013-10-18 at 10.08.38Screen Shot 2013-10-18 at 10.06.46

Na, nid bod stori Andrew RT Davies ddim ar gael ar dudalennau BBC Wales News (sydd yn drawiadol) ond bod dim botymau rhannu/argraffu/trydar ar y tudalennau Cymraeg.

Dylen ni fod yn gwneud hi’n *haws* rhannu a dosbarthu deunydd Cymraeg ar y we, nid anoddach. Efallai ei fod yn swnio’n fychan, ond mae’n symptom o’r ffordd mae’r elfennau Cymraeg yn cael eu trin yn eilradd yng ngweithdrefnau rollout technoleg yn y BBC. Rydan ni gyd wedi arfer gweld dyluniad a diwyg tudalennau newyddion BBC yn Gymraeg yn cymryd misoedd os nad mwy i gael eu diweddaru i’r un safon a’r rhai Saesneg ar BBC Cymru. Roedd y prif dudalennau Newyddion Cymraeg tan yn ddiweddar yn dal yn defnyddio hen template tra bod BBC Wales yn cael yr un newydd. Roedd tudalennau Chwaraeon Cymraeg BBC (gorffwysed mewn hedd) wastad gam y tu ôl o’i gymharu a’r fersiwn Saesneg. Faint o amser gymrodd hi i flog Vaughan Roderick gael upgrade?

Nid hollti blew yw hyn, mae safon dylunio a nodweddion UX ychwanegol yn cael effaith uniongyrchol ar ddewisiadau darllenwyr newyddion. Mae’n rhaid i ddarllenwyr Cymraeg wneud rhyw gyfaddawd wrth ddewis darllen yr un newyddion yn Gymraeg neu Saesneg. Mae’r math hyn o gyfaddawd yn bownd o erydu niferoedd darllenwyr. Yn yr achos uchod mae’r cynnwys yn unigryw yn y Gymraeg, sy’n glodwiw, ond nid dyma’r norm. Os ydi Rhodri TD o ddifri am gynyddu niferoedd sy’n ymweld â thudalennau Cymraeg y BBC yna rhaid taclo problemau strwythurol fel hyn head on. Ond does dim awgrym y bydd hyn yn digwydd. Tystiolaeth i gefnogi neges Andrew RT Davies ie ddim?

Dysgu Cymraeg…gyda Duolingo?

Efallai eich bod chi wedi dod ar draws yr app dysgu ieithoedd Duolingo. Mi wnes i dros yr haf a mynd ati i’w ddefnyddio i wella fy Ffrangeg a Sbaeneg. Mae’r app a’r wefan yn gweithio’n wych gyda strwythr gwersi a gwobrwyon sydd yn syml ac yn defnyddio nifer o wahanol dechnegau darllen, siarad a chyfieithu i gadw diddordeb.

Ond wrth ei ddefnyddio ro’n i’n meddwl – sut ddiawl mae app a phrofiad cystal â hwn am ddim? Lle mae’n nhw’n defnyddio fi er mwyn ariannu hwn? Ac o Gwglo, fe ges yr ateb:

Von Ahn, a computer science professor at Carnegie Mellon University, is the co-creator of Duolingo, a free language-­learning site that turns students into an online workforce. His software uses their answers to simple exercises in a translation service that he expects to charge money for.

Felly, y fargen yw yn gyfnewid am yr app slic, da chi’n gwneud gwaith cyfieithu i Mr Von Ahn. Mae BuzzFeed newydd gyhoeddi eu bod nhw’n defnyddio’r gwasanaeth i gyfieithu erthyglau ar leoleiddiadau newydd eu gwefan, a’n hapus efo’r canlyniadau (er yn ei ffordd ddihafal “plentyn siawns globaleiddio” yw be mae Morozov yn ei alw!).

Ond do’n i ddim wir yn hoffi bod app Von Ahn wedi nhynnu fi mewn heb i fi wir ddeall beth oedd y fargen. Erbyn y pwynt yna o’n i eisoes yn gaeth i gael fy credits digidol Duolingo am lwyddo i siarad am y mwnci oedd yn y goeden (a’r llygoden oedd o dan y bwrdd) felly fe barheais am chydig ond efo rhyw deimlad anghysurus o gael fy hyfforddi i fod yn gaethwas cyfieithu. Rhyw fath o gimp ieithyddol i’n nhynnu allan o focs Mr Von Ahn pan fo Cyngor Ceredigion isio cyfieithu eu Strategaeth Pryd ar Glyd 2014-2017.

Ond nid yw Duolingo’n dysgu Cymraeg, dim ond Sbaeneg, Almaeneg, Ffrangeg a Phortiwgeeg, felly fydd Cyngor Ceredigion fyth yn manteisio ar gynllun Mr Von Ahn…neu fyddan nhw?Mae Duolingo rwan wedi agor eu Deorfa Ieithyddol er mwyn gadael i bobol gynnig ieithoedd a gwersi i greu Duolingo ar gyfer Siapaneeg, Rwsieg, neu Gymraeg.

O weld pa mor addictive oedd dysgu gyda Duolingo a’r rhwyddineb o symud rhwng gwe a symudol ar ryngwyneb slic iawn, alla i ddychmygu y byddai’r dull yn apelio at lawer, ond oes unrhywun o ddifri am jest rhoi pecynnau gwersi a gwaith cyfieithu i Mr Von Ahn iddo fo gael gwneud ei filiynau? Amser a ddengys, debyg, ond os mae cymuned o siaradwyr Cymraeg yn ffurfio i wneud hyn fydd na ddim lot gall Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru na Addysg i Oedolion wneud amdano.

Ond allwn ni droi’r syniad o dorfoli gwaith cyfieithu i’n mantais? Fyddai hi ddim yn wych, petasai pob person sy’n dysgu Cymraeg trwy efallai Cymraeg i Oedolion, ac sydd wedi cyrraedd safon lle gallant wneud cyfieithu syml, yn cyfrannu tuag at gyfieithu tudalennau Wikipedia i’r Gymraeg? Mwy o erthyglau Wikipedia Cymraeg = mwy o adnoddau dysgu = mwy o flaenoriaeth i’r Gymraeg gan gwmniau fel Google ac ati  = gwell sefyllfa i’r Gymraeg yn ehangach.

Pa mor anodd fyddai hynny te?

[hen ddolen alert!] Cyfraniad gen i llynedd at bodlediad Transmedia Talk yn SXSW

Newydd edrych drwy’r drafftiau yn y blog a chofio mod i am bostio dolen i hwn. Falle ei fod o ddiddordeb i rywrai sydd â diddordeb yn y maes digidol + ieithoedd. Sgwrs am ieithoedd a diwylliant mewn trawsgyfryngau/transmedia. Ges i alwad gan Rob Pratten, Llundeiniwr clên iawn nath ddangos y ropes i fi diolch i gyswllt drwy Rhys yn Cyfle, yn deud, “da ni’n recordio podcast mewn 10 munud. Ti awydd dod draw?” Felly nes i, ag oedd o’n hwyl.

* * *

Just a quick post of something which I’d left in my drafts since last year. A link to a podcast of a chat I was part of at SXSW interactive 2012 where we talked about language, culture and transmedia (with people much more versed in transmedia than I). Thanks to Rob Pratten for pulling me into it though! It was fun.

http://workbookproject.com/culturehacker/2012/05/01/transmedia-talk-at-sxsw-2012-language-and-culture-in-transmedia/

Arriva Cymru a phroblem fawr y Gymraeg ar y we

Arriva Cymru? Be sgen hynny i neud efo’r Gymraeg ar y we?

Wel…hyn:

Dwi’n siwr bod nhw’n ymwybodol o hyn yn Newyddion BBC a Golwg360 ond mae chwilio Google yn broblem mawr iddyn nhw o ran denu darllenwyr, ac yn broblem mawr i ddarllenwyr sydd eisiau ffeindio straeon Cymraeg.

Y diwrnod o’r blaen o’n i eisiau darllen am y llanast Bysus Arriva Cymru, felly chwiliais “Arriva Cymru”. Canlyniad?

Chwilio Arriva Cymru

Dim newyddion. Dim ond gwefannau swyddogol (gyda dim hyd yn oed newyddion am y cyhoeddiad ar wefan Arriva, natch).

Trio eto felly a chwilio, fel dwi’n arfer gwneud erbyn hyn yn Saesneg am “Arriva Wales”. Canlyniad?

Arriva Wales

Chydig yn well, ar ôl y 3 canlyniad uchaf mae canlyniadau diweddar iawn am newyddion gan wefannau BBC News, WalesOnline a rhywbeth arall o’r enw 4ni.

Clic felly ar stori BBC News gan feddwl ffeindio’r erthygl Gymraeg. Oeddwn i’n gallu ffeindio’r ddolen i fynd at dudalennau BBC Cymru? Ddim am hydoedd. Sganiodd fy llygaid bach ar draws ac i lawr y dudalen, ac yn ôl i fyny eto. Roeddwn i’n chwilio am “Cymraeg” yn y gornel top dde, gan mod i’n reddfol erbyn hyn yn meddwl taw fan honno mae’r switsh iaith.

BBC Wales Arriva

Ond does dim switsh iaith. A Newyddion ydi’r enw ar y ddolen. Yn y diwedd mi ffeindiais y ddolen a chlicio drwodd i fama:

Hafan NewyddionA wedyn clicio i fama:

Erthygl Newyddion Arriva

A chael at lle o’n i isio mynd yn y lle cynta, 4 clic yn ôl. Yn y cyfamser mae pob person call sydd wedi gwneud yr un peth wedi setlo ar gael yr wybodaeth o’r tudalennau Saesneg.

A doedd Golwg360 ddim hyd yn oed ar y radar Google yn ystod hyn i gyd.

Afraid deud bod hyn yn broblem enfawr i newyddion Cymraeg ac yn dangos pa mor bwysig ydi integreiddio newyddion Cymraeg mewn i chwiliadau Google. Dwi’n deall yn iawn bod BBC Newyddion a Golwg360 bownd o fod yn torri’u boliau eisiau cael Google [Gol: Google News UK, ‘lly] i’w derbyn ond dyma’r broblem eto fyth – mae’r penderfyniadau yn gwbl allan o’n dwylo ac mae pob un achos fel hyn ar draws y we yn gwneud yr iaith yn fwy a mwy anweledig.

‘Shocked acquiesence’ mae’r erthygl yma’n galw’r ffenomenon yma o ddechrau’r unfed ganrif ar hugain sydd yn disgrifio’r teimlad o gael eich syfrdanu gan rywbeth sydd mor fawr ac allan o’ch rheolaeth fel PRISM neu newid hinsawdd na allwch chi ddelio gyda fo mewn unrhyw ffordd ond ei anwybyddu. Mae’n siwr fod na lot o eiriau amdano, rhyw ochenaid fawr a “o wel”. Mae na deimlad fel’na braidd am ddyfodol y Gymraeg arlein yn wyneb Google ac ati. Mae Luistxo Fernandez yn ei alw’n ‘Twitter tsunami’ mewn cyd-destun arall. Moch ar y winllan efallai fasai’r term Saundersaidd Cymraeg addas mae’n debyg.

Ond mae’r winllan wedi cael ei thirfeddiannu ers tro a rhaid gofyn i Google am ganiatad i brynu ein grawnwin ein hunain yn ôl erbyn hyn, a hynny ar premium. Does dim rheolaeth ganddon ni dros sut mae cael mynediad a sylw at y Gymraeg ar y we. Os taw cael sylw i gynnwys yw problem fawr ein oes, yna mae cael sylw at gynnwys Cymraeg yn broblem hyd yn oed yn fwy. Gallai llywodraeth Thatcher ildio S4C i ni ar un o bedair sianel deledu. Roedd honno’n sicrhau bod sylw priodol i gynnwys Cymraeg. Ond ni all yr un llywodraeth roi ‘S4C’ i ni ar gyfer y we. Neu allan nhw?

Ai cael teli Cymraeg ar sgrin gyntaf YouView ac iplayer sy’n gyfatebol rwan? Falle. Ond mae hynny ond yn ateb un rhan o’r broblem cynnwys. Efallai taw cael Google, Twitter, Facebook, YouTube i roi statws i gynnwys Cymraeg yn eu gwasanaethau fyddai ‘ildio S4C’ ein hoes. Hynny yw, nid dim ond caniatau i ni gyfeithu ein rhyngwynebau ar eu rhan (o! Diolch yn fawr Twitter, dwi’n gwybod eich bod chi’n sgint!!), ond sicrhau bod ein cynnwys yn cael tegwch yn y gêm hyn o rymoedd gwladwriaethol a chwmniau masnachol traws-wladwriaethol sy’n cael ei alw’n ‘economi sylw’. O barhau’r trosiad S4C, a fyddai ymgyrchwyr S4C wedi bodloni ar gael y cyflwynwyr continuity ar BBC Cymru, ITVWales a Channel 4 Wales yn darllen mewn dwy iaith rhwng rhaglenni Saesneg? No we. Y cynnwys oedd yn bwysig. Lleoliad y cynnwys hwnnw yn yr amserlen oedd yn bwysig. Y cynnwys sydd yn bwysig rwan hefyd. Ac mae lleoliad y cynnwys hwnnw’n bwysicach nag erioed.

Ond dyma rai cwestiynau sydd gen i sydd, dwi’n meddwl angen eu hateb yn fwy ar frys, efallai, na sut mae ariannu parhad teledu ar S4C:

  • Sut mae cael cynnwys Cymraeg i ymddangos ochr yn ochr â Saesneg fel yr oedd gyda S4C yn y byd 4 sianel?
  • Sut mae gwneud y we Saesneg yn fwy porous/permeable o ran y Gymraeg yn lle’r ffordd arall rownd?
  • Faint o werth roddech chi ar gyflawni hynny? £1miliwn? £10miliwn? £70miliwn?
  • Pwy ddyla dalu? Google et al eu hunain, neu dreth arbennig, y Llywodraeth (pa un?) neu arian S4C?
  • Faint o werth mae strategaeth iaith y Llywodraeth yn rhoi i ‘sylw’ ar y we?
  • Faint o werth ydyn ni gyd fel pobol brwdfrydig tech Cymraeg yn rhoi ar hynny?

Dwi ddim yn arbenigwr ar search o bell ffordd, ond ma’n rhaid bod na atebion – neu ydan ni jest am ista mewn shocked acquiescence? Ar hyn o bryd – dyna da ni’n ei wneud. Yn araf i dderbyn a deall goblygiadau’r dechnoleg i’n iaith a’n ddiymadferth wrth geisio meddwl am beth i wneud pan ydyn ni’n dechrau sylweddoli’r goblygiadau hynny.

So plis, tynnwch fi o fy shocked acquiescence, ydi hi mor ddu â hynny?

Pam bod Basgwyr yn trydar ddwywaith cymaint â’r Cymry?

Screen Shot 2013-06-29 at 22.25.07

Edrychwch ar y llun yma –>

Mae yna bron yr un faint o gyfrifon Twitter sydd yn yn defnyddio Cymraeg a Basgeg ac sydd wedi cael eu codi gan web crawler Indigenous Tweets. Mae cyfrifon sy’n defnyddio Cymraeg tua 82% o gyfanswm y rhai Basgeg.

Tra o ran trydariadau sydd yn Gymraeg neu Fasgeg mae dwywaith cymaint o drydariadau Basgeg na rhai Cymraeg. Mae hwn yn wahaniaeth enfawr sydd yn bownd o gael effaith ar yr ecosystem ieithyddol ar rwydwaith gymdeithasol, ac efallai’n gallu dangos pethau diddorol i ni o ran y diwylliant o ddefnydd y ddwy iaith mewn parthau gwahanol arlein, ac efallai oddiarlein hefyd.

Pa resymau allai fod am hyn te? Dyma rai syniadau:

  1. mae’r algorithm adnabod iaith yn gweithio’n well ar gyfer Basgeg, ac felly’n adnabod mwy o negeseuon.
  2. mae trydarwyr Basgeg yn llawer prysurach ar rwydweithiau cymdeithasol na rhai Cymraeg
  3. mae trydarwyr Basgeg yn llawer mwy bodlon defnyddio Basgeg na Sbaeneg, tra bod trydarwyr Cymraeg yn fwy dwyieithog eu trydar.
  4. mae llawer mwy o bots Basgeg yn pwmpio allan trydariadau awtomatig
  5. mae llawer mwy o aildrydar o negeseuon Basgeg nac o negeseuon Cymraeg
  6. mae llawer mwy o gynhyrchwyr cynnwys dwysedd ac amledd uchel yn yr iaith Basgeg (e.e. gwasanaethau newyddion)
  7. mae yna wahaniaethau diwylliannol yn y ffordd rydyn ni Gymry’n defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol o’u cymharu â’r Basgwyr. e.e. mae llai o ddiwylliant o rannu gan siaradwyr Cymraeg, o bosib. Ydi Basgwyr yn fwy ‘digidol’ na ni?
  8. allwch chi feddwl am ragor?

Mae’r erthygl yma gan Jackson and Wang (2012) yn darganfod bod gwahaniaethau rhwng diwylliannau rhwydweithiau cymdeithasol UDA a China, ond faint o wahaniaethau sydd yna rhwng ardaleodd a gwledydd yn Ewrop? Ma’r boi yma’n credu bod gwahaniaethau rhwng sut mae’r Iseldiroedd a Gwlad Belg yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ond dydi o ddim yn cynnig unrhyw dystiolaeth. Ar flog arall mae yna drafodaeth sydd ychydig yn fwy synhwyrol gan gyfeirio at unigolyddiaeth / cyfunoliaeth (collectivism) ac effaith lefelau incwm ar ddefnydd technoleg sydd efallai yn fwy perthnasol.

Oes yna unrhyw beth i ddweud dros ddosbarthiad daearyddol siaradwyr, a’r effaith mae bywyd gwledig vs trefol yn ei gael? Mae ystadegau Ofcom yn nodi bod gan ardaloedd gwledig yr un mynediad at fand llydan a threfol, ond efallai bod y defnydd yn wahanol?

Mae’r blog hwn gan Juliano Andrade Spyer am ymateb pobol yn yr ardal mae’n gweithio i’r protestiadau yn Brasil yn ddiweddar yn cyffwrdd ar y gwahaniaeth diwylliannol yma:

There are differences between large urbanized areas where the rallies are happening and small places such as here (Gol: mae wedi ei leoli 70km o’r brifddinas Brasilia) regarding the use of Facebook. There, Facebook is a channel used for keeping in touch with the people one does not necessarily see every day. Facebook tends to become a gathering place where we are close to everyone, independently of their location in different neighborhoods or other places. The purpose here of using Facebook is not “keeping in touch” because that is really not necessary as friends and everyone else are already physically near to each other every day. What is important, then, is not talking about public things that everyone can know, but to share private information that not everyone knows about. Demonstrations are not interesting for those living here because they relate to institutional politics and also because they are already public, everyone knows about it, and something everyone knows about is not worth talking about.

(mwy o gofnodion blog gan ymchwilwyr UCL ar y thema  ‘Dylanwad Gwahaniaethau Diwylliannol ar Rwydweithio Cymdeithasol)

Ydi closrwydd llawer o gymunedau lle mae’r Gymaeg yn gryf yn un o’r ffactorau sydd yn cadw’r Gymraeg yn iaith fyw ar un llaw, ac yn ei gwneud yn iaith lai byw ar y we ar y llaw arall?

Be chi’n feddwl? Faswn i wrth fy modd cael trafodaeth ar hyn. Gadwch sylw…

[Gol: nes i grybwyll ecosystem ieithyddol fyny fan’na heb rili feddwl amdano, ond dyma erthygl gan bobol sydd wedi: ‘Language Ecology‘. Skutnabb-Kangas, T., a Phillipson, R. (1997)]

Cyhoeddi llyfr Social Media and Minority Languages

Dwi’n hapus iawn, iawn, i ddweud bod y llyfr Social Media and Minority Languages wedi cael ei gyhoeddi gan Multilingual Matters. Cafodd ei olygu gan fy nghyfeillion a chydweithwyr Elin Haf Gruffydd Jones ac Enrique Uribe-Jongbloed ac mae’n wych gweld y gwaith yn mynd yn gyhoeddus.

Mae yna erthygl yr oeddwn i’n gyd-awdur arno gyda Dr. Daniel Cunliffe, sef “The Welsh language on YouTube: Initial Observations” lle roedden ni’n trafod ymchwil dechreuol i geisio cael syniad o beth oedd rhychwant a natur defnydd yr iaith Gymraeg ar YouTube, boed mewn fideos neu o fewn disgrifiadau, proffiliau neu sylwadau. Mae’n deimlad braf cael gweld ymchwil yn cael ei gyhoeddi, achos fasa’n gret gweld trafodaeth bellach amdano, yn beirniadu, adeiladu neu rywbeth! Felly plis, ymatebwch os di’r maes fideo a ieithoedd lleiafrifol o ddiddordeb.

Roedd nifer eraill o’r papurau’n rai a gyflwynwyd yng Nghynhadledd Ryngwladol Mercator ar Amrywiaeth Ieithyddol a Chydgyfeiriant Cyfryngau, a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym Mai 2010. Gallwch chi ddarllen adroddiad o’r gynhadledd honno gyda chrynodebau o sesiynau a themâu yn ogystal â’r abstracts ar gyfer y gynhadledd yn y PDF yma gan Rwydwaith Mercator.

Gallwch chi brynu’r llyfr clawr caled ar Amazon (er, dwi’n gobeithio’n fawr daw fersiwn clawr meddal o ystyried y pris!), neu ar gyfer y Kindle am bris llawer mwy rhesymol, neu’r fersiwn clawr caled gyda 20% o ostyngiad gan Multilingual Matters eu hunain.

Dyma’r rhaflas Google o’r llyfr i’ch temtio, ac lle gallwch chi ddarllen chydig o’r ymchwil wnaethon ni:

[iframe style=”border: 0px;” src=”http://books.google.co.uk/books?id=NaVr-sc2BZQC&lpg=PP1&pg=PR4&output=embed” height=”800″ width=”500″]

Mae ‘na sdwff diddorol iawn o fewn y llyfr, a hyd yn oed os nad ydi o’n rywbeth wnewch chi brynu’n bersonol falle gall eich llyfrgell Brifysgol ei brynu. Mi fase’n braf gweld trafodaeth yn codi yn ei sgil.

Diwrnod Ada Lovelace: dathlu Christina Xu a menywod Hacio’r Iaith

Mae Christina Xu yn un o arwresau’r Internets. Mae hi’n llythrennol awesome, fel y bydda i’n esbonio isod, a hi falle sydd wedi fy ysbrydoli i fwy diweddar a dyna pam dwi eisiau rhoi props iddi hi ar ddiwrnod Ada Lovelace heddiw.

Y rheswm? Wel, nes i fynd i sesiwn yn SXSW llynedd ar harnesu grym y rhyngrwyd er mwyn gwneud y byd ma’n well. Roedd Christina’n siarad am brosiect Awesome Foundation, sydd yn lledaenu’r syniad o sefydlu grwpiau bach i ddod at ei gilydd i greu cynllun micro-grantiau ar gyfer pob math o bethau o waith elusennol, i sdwff eraill mewn technoleg a gwyddoniaeth na fysa’n hawdd ei ariannu drwy ffynhonellau eraill.

Roedd y syniad mor syml a hithau mor frwdfrydig y ces i’n ysbrydoli’n syth i drio gwneud rhywbeth fel’na yng Nghymru, sydd yn sgrechian am ffyrdd o ariannu prosiectau sydd ddim yn dod o’r pwrs cyhoeddus. Rwan, dydw i ddim wedi gwireddu’r syniad yna eto (os oes rhywun isio helpu fi yna plis ewch draw i’r drafodaeth yma!) ond dwi dal yn argyhoeddiedig y gall o fod o werth mawr i gymdeithas yma.

Yn ystod y cyflwyniad clywais i bod hi hefyd yn un o sylfaenwyr ROFLcon sef cynhadledd am ddiwylliant rhyngrwyd, lle mae’r cyfaill Carl Morris wedi bod yn siarad, ag oedd Christina yn ei gofio’n iawn wrth i ni gael sgwrs ar ol ei phanel (“Carl? Oh yeah, he’s obsessed with Welsh stuff right?”).

Mae hi’n gweithio yn adran Cyfryngau Sifig MIT (lle faswn i wrth fy modd yn cael job!) ac wedi astudio hanes gwyddoniaeth yn ôl ei biog.

Dyma gofnod blog gwych ganddi hi sydd yn werth darlleniad sydd yn trafod amrywiaeth ar y rhyngrwyd a’r syniad o ddiffyg amrywiaeth mewn agweddau o ddiwylliant hiwmor rhyngrwyd a diwylliant memes yn benodol.

Felly ie, diolch am yr ysbrydoloiaeth Christina, well i fi drio ‘neud nid deud’ rwan yn dydi.

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

Merched Hacio’r Iaith

Fel bonus enwebiad dwi hefyd isio diolch i’r holl fenywod sydd yn rhan o Hacio’r Iaith yn mynychu, cyfrannu a darllen/gwylio/gwrando. Dwi’n meddwl faswn i’n gneud anhegwch drwy roi cofnod unigol iddyn nhw, ond ma na ferchaid talentog a gwych ym maes ymchwil, technoleg, côdio, dylunio a chyfryngau sydd wedi bod yn rhan fawr o’r gymuned ers y dechrau un. Gobeithio gwelwn ni fwy fyth o ferchaid yn Hacio’r Iaith 2013, a gobeithio bod Hacio’r Iaith yn gallu cario mlaen i wella faint o ferchaid sy’n cymryd rhan yn y dyfodol.

* * * * * * * * * * * * * * *

Diolch i Suw am greu Diwrnod Ada Lovelace. Ti’n ossym fyd.

Rhwydweithau niche, hen dechnoleg a hunaniaeth grŵpiau

Dyfyniad o flog Fever Bee heddiw wnaeth wneud i fi feddwl am bapurau bro:

Successful communities has very little to do with technology and a lot to do with developing a strong group identity. For many niche communities, using an older platform is part of their group identity.

Mae’r plygu papur, system gysodi, a’r rhwydwaith ddosbarthu papurau bro yn rhan o’r hunaiaeth grwp a’r rheswm mae pobol yn ei wneud o.

Oes modd magu rhywbeth tebyg sydd mor gryf ar gyfer cyhoeddiadau lleol arlein?