Dyfarniad Eos a’r frwydr ehangach dros fesur gwerth cynnyrch Cymraeg

Mae dyfarniad y Tribiwnlys Hawlfraint yn ergyd andwyol i gerddorion sy’n dewis canu yn y Gymraeg, viagra approved ond mae hefyd yn ergyd yn y ddadl ehangach dros y ffordd rydyn ni’n mesur gwerth cynnyrch diwylliannol Cymraeg – o newyddion dyddiol i raglenni adloniant teledu.

Wrth graidd y ddadl Eos vs BBC mae cyferbyniad safbwynt y BBC eu bod yn mesur gwerth y gerddoriaeth yn ôl eu mesuryddion arferol (gan gynnwys RAJAR a nifer ystadegau eraill sydd yn yn cyfuno ymchwil cynulleidfa ac oriau darlledu), gyda safbwynt Eos, sef na ellir mesur gwerth taliadau am gerddoriaeth Gymraeg yn ôl ystadegau yn unig (ac ystadegau amheus o ran hynny) a bod eu gwerth diwylliannol unigryw yn ffactor sydd yn rhaid ei ystyried.

Ers y Daeargryn,  pan gafodd gwerth S4C ei luchio i ffau’r llewod o flaen yr ymerawdwr Hunt, mae S4C hefyd yn y broses o geisio rhoi’r ddadl am fesur gwerth. Mae llawer o leisiau cefnogol i’r sianel yn nodi nad ystadegau yw diwedd y gân ond bod budd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn gorfod cael eu hystyried wrth fesur llwyddiant a gwerth sianel deledu mewn iaith leiafrifol. Dyma oedd ymateb Ian Jones i gwymp mewn ffigyrau gwylio yn adroddiad blynyddol S4C Gorffennaf 2013:

“Yn y byd teledu aml-lwyfan, dyw defnyddio un mesur perfformiad syml er mwyn asesu llwyddiant ddim yn ddigonol bellach.

“Mae llwyddiant heddiw yn cael ei ddehongli trwy gyfuniad o ffactorau, gan gynnwys cyrhaeddiad y gwasanaeth, effaith economaidd, gwerthfawrogiad y gynulleidfa, ymddiriedaeth, darpariaeth lwyddiannus i ddysgwyr, rhaglenni plant, a chyfrannu at effaith bositif ar ddiwylliant a’r iaith Gymraeg.”

O ran y wasg brint oddiarlein, mae’r cylchrediad yn parhau’n fesurydd pwysig os nad y pwysicaf; arlein mae’r ystadegau ‘defnyddwyr unigryw dyddiol’ (neu ba bynnag ystadegyn Google Analytics sy’n rhoi’r ffigwr uchaf…) yn teyrnasu. Nid oes yr un math o sôn am fesur ymwneud, am fesur impact gwleidyddol a democrataidd, neu werthfawrogiad a gwerth ehangach diwylliannol.

Fodd bynnag, mae un gwahaniaeth bach: mae’r wasg brint Gymraeg ar y cyfan yn cael ei ariannu oddi fewn i Gymru, felly mae’n bosib dweud bod pwrpas diwylliannol yn cael ystyriaeth well na dim ond sawl sy’n prynu. Yr unig ran o’r sector brint sydd ddim yw gwefan BBC Cymru – sydd wedi cael targed cyrhaeddiad o 50k o “ddefnyddwyr erbyn 2015 sydd yn ddu a gwyn iawn o’i gymharu â’r ffordd mae’r gwynt gwerthuso’n chwythu gyda S4C. Mae gwerth democrataidd y newyddion ar dop agenda y Cynulliad, ac mae’n gwbl glir taw nid dim ond cyrhaeddiad yw’r mesurydd a ddefnyddir ganddynt wrth edrych at ddyfodol posibl o sybsidi print yn Saesneg.

Cafwyd adroddiad, hefyd yng Nghorffennaf 2013, gan Gyngor Llyfrau Cymru o gylchgronau Cymreig Saesneg eu hiaith (dolen i PDF). Mae yno frawddeg ar dudalen 5 sydd yn cyffwrdd ar eu hegwyddorion sylfaenol hwy wrth edrych ar “werth” y cylchgronnau hyn:  

Value-for-money judgements concerning any subsidised activity must balance the quality, reach and public benefit of that activity against its cost. There is no absolute formula for establishing whether that balance is struck in any given case: this calculation is best made on the basis of comparisons with like activity elsewhere, and the responses of intended beneficiaries.

Synnwyr cyffredin dybiwch chi, ond na, mae’r system daliadau cerddoriaeth yn gweithredu o fewn fframwaith sydd ddim yn sybsidi, ond yn un masnachol, diwydiannol, Prydeinig er bod y ffi drwydded yn ffurf ar sybsidi cyhoeddus.

Nid yw’r BBC yn gweld eu rôl fel un o warchod y Gymraeg, ac nid ydynt yn gweld eu rôl fel corff sy’n gyfrifol am fesur gwerth diwylliannol chwaith. Mae’r safbwynt hwn yn honni rhyw fath o niwtraledd – dim ond gwasanaethu cynulleidfaoedd yw ein pwrpas  – ond mae’n niwtraledd ffug.  Sut bod S4C a’r Cyngor Llyfrau (a’r Cyngor Celfyddydau os daw at hynny) yn gallu sôn am oblygiadau diwylliannol a gwasanaethu cynulleidfa yn yr un gwynt, gan nodi’n glir bod llawer mwy i fesur gwerth na chyrhaeddiad y cynnyrch yn unig, tra bod y BBC yn methu?

Er ymgeision teilwng i roi nuance yn y dadleuon cyhoeddus hyn, ceir clegar amrwd dros bopeth: daw’r penawdau newyddion – da a drwg – o ystadegau gwylio/gwrando/darllen a gesglir drwy asiantaethau o’r tu allan i Gymru yn achos radio, teledu a’r wasg brint, ac yn fewnol ac heb unrhyw gysondeb o ran dulliau yn achos arlein. Yn oes y trydariad, dyma’r hyn sy’n cylchredeg ac a gaiff ei lyncu’n aml yn ddi-gwestiwn.

Rydyn ni mewn brwydr am fesur gwerth, ac mae dyfarniad Eos yn nodi’n glir nad oes gan rai o sefydliadau canolog y DU ddiddordeb o gwbl mewn edrych y tu hwnt i’r hyn sydd yn gwasanaethu eu anghenion hwy ar hyn o bryd. A pham fydden nhw? Achos byddai’n tanseilio model sydd wedi bodoli ers degawdau. Byddai’n ymosodiad ar y system ganoledig a’n gwanhau’r gafael ar elfen o aparatws wladwriaethol.

Nid oes “unrhyw dystiolaeth yn awgrymu y byddai datganoli polisi darlledu neu ddull gwahanol o ariannu’r BBC o fudd i dalwyr y ffi drwydded” yn ôl ymateb Llywodraeth y DU i Gomisiwn Silk. Pa dalwyr y ffi drwydded yw’r rheiny te? Y rhai sy’n gwrando ar Radio Cymru? Y rhai sydd yn credu mewn Cymru lle mae’r Gymraeg yn cael amodau teg i fodoli ac i flodeuo? Dwi’n amau. Mae arweinydd y Torïaid yng Nghymru yn deall bod angen datganoli darlledu – mae’n deall nad oes modd gosod polisïau am ddiwylliant a chyfryngau o’r tu allan i Gymru heb arwain at wrthdaro eto.

Ystyriwch y brawddegau hyn o dudalen 11 adroddiad y tribiwnlys:

Screen Shot 2013-12-16 at 13.26.19

O enill y ddadl, yn ôl barn y tribiwnlys, mae’r BBC yn ganolog wedi gosod her: nid oes modd i chi wneud penderfyniadau drosoch eich hunain, mae’r grym terfynol gennym ni, ni sydd yn penderfynu ar sut i fesur gwerth eich diwylliant, nid ydym yn ystyried gwerth diwylliannol ein cynnyrch wrth fesur llwyddiant, ac yn ei dro yr elfennau hynny sydd yn rhan greiddiol o’r llwyddiant hwnnw (sef cerddorion Cymraeg yn yr achos hwn).

Yn syml: nid chi sydd â rheolaeth dros eich diwylliant a’ch cyfryngau, ond ni.

Dwi’n ddiolchgar i Eos a’r holl gerddorion Cymraeg am sefyll yn wyneb hyn, a rhoi’r achos dros fesur gwerth eu cyfraniad mewn dull gyfiawn. Mae’r dyfarniad yn ergyd, ond mae’n fodd i ddangos y rhwygiadau sydd yn ymddangos  yn y DU ac yn fodd i ninnau symud tuag at dynnu ar yr edafedd a rhwygo mwy ar y brethyn brau hwnnw sy’n dal y systemau methedig hyn at ei gilydd.