Yn eisiau: eich llygaid chi ar dalent amlblatfform newydd!

Prosiectau Modiwl Cynhyrchu Amlblatfform Prifysgol Aberystwyth 2015

Dwi’n dysgu ar y modiwl ymarferol hwn gyda Greg Bevan ac mae’r amser wedi dod i hyrwyddo’r prosiectau a cheisio denu pobl i ymweld, more about ymwneud a chyfrannu atyn nhw. Felly, symptoms mae angen eich llygaid chi!

Mae’r chwe grwp yn cynhyrchu prosiectau amlblatfform sydd â fideo fel elfen graidd. Gallant fod yn ffuglen neu ffeithiol, plague ymgyrch farchnata neu brosiect arbrofol, cyn belled â’u bod yn ymwneud gyda chynulleidfaoedd arlein gan ddefnyddio llwyfannau digidol amrywiol ac addas i’w cynnwys.

Byddan nhw’n rhedeg trwodd tan tua diwedd Ebrill felly ewch draw, hoffwch, dilynwch a chadwch lygaid ar ddyfodol talentog y diwydiant digidol:
Continue reading Yn eisiau: eich llygaid chi ar dalent amlblatfform newydd!

Cyhoeddi llyfr Social Media and Minority Languages

Dwi’n hapus iawn, visit this iawn, i ddweud bod y llyfr Social Media and Minority Languages wedi cael ei gyhoeddi gan Multilingual Matters. Cafodd ei olygu gan fy nghyfeillion a chydweithwyr Elin Haf Gruffydd Jones ac Enrique Uribe-Jongbloed ac mae’n wych gweld y gwaith yn mynd yn gyhoeddus.

Mae yna erthygl yr oeddwn i’n gyd-awdur arno gyda Dr. Daniel Cunliffe, sef “The Welsh language on YouTube: Initial Observations” lle roedden ni’n trafod ymchwil dechreuol i geisio cael syniad o beth oedd rhychwant a natur defnydd yr iaith Gymraeg ar YouTube, boed mewn fideos neu o fewn disgrifiadau, proffiliau neu sylwadau. Mae’n deimlad braf cael gweld ymchwil yn cael ei gyhoeddi, achos fasa’n gret gweld trafodaeth bellach amdano, yn beirniadu, adeiladu neu rywbeth! Felly plis, ymatebwch os di’r maes fideo a ieithoedd lleiafrifol o ddiddordeb.

Roedd nifer eraill o’r papurau’n rai a gyflwynwyd yng Nghynhadledd Ryngwladol Mercator ar Amrywiaeth Ieithyddol a Chydgyfeiriant Cyfryngau, a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym Mai 2010. Gallwch chi ddarllen adroddiad o’r gynhadledd honno gyda chrynodebau o sesiynau a themâu yn ogystal â’r abstracts ar gyfer y gynhadledd yn y PDF yma gan Rwydwaith Mercator.

Gallwch chi brynu’r llyfr clawr caled ar Amazon (er, dwi’n gobeithio’n fawr daw fersiwn clawr meddal o ystyried y pris!), neu ar gyfer y Kindle am bris llawer mwy rhesymol, neu’r fersiwn clawr caled gyda 20% o ostyngiad gan Multilingual Matters eu hunain.

Dyma’r rhaflas Google o’r llyfr i’ch temtio, ac lle gallwch chi ddarllen chydig o’r ymchwil wnaethon ni:

[iframe style=”border: 0px;” src=”http://books.google.co.uk/books?id=NaVr-sc2BZQC&lpg=PP1&pg=PR4&output=embed” height=”800″ width=”500″]

Mae ‘na sdwff diddorol iawn o fewn y llyfr, a hyd yn oed os nad ydi o’n rywbeth wnewch chi brynu’n bersonol falle gall eich llyfrgell Brifysgol ei brynu. Mi fase’n braf gweld trafodaeth yn codi yn ei sgil.

Pob hwyl Iestyn, a diolch am yr holl ffish

Mae Iestyn Hughes yn dweud ffarwel ar flog Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, pfizer wrth iddo orffen ei swydd fel rheolwr yr Archif ar ôl ei sefydlu yn 2001.

Dwi jest isio cymryd y cyfle i ddiolch iddo am bob cymorth mae o a’i staff wedi ei rhoi i fi ers i mi ddechrau ymwneud â nhw, sildenafil p’un ai gyda prosiectau personol fel digwyddiadau Pictiwrs, neu waith dydd i ddydd fel prosiect Yn y Ffram. Mae gwybodaeth Iestyn ar y cymhlethdodau sydd ynghlwm â deunydd creadigol cydweithiol cymhleth-ei-hawlfraint fel ffilm a fideo yn ogystal â hanes ffilm ygn Nghymru heb ei ail, a dwi wedi manteisio ar ei gyngor dwn im faint o weithiau. Mae o wedi mynd lot o’r ffordd i helpu i ddileu fy rhagfarnau dechreuol o weld y llyfrgell fel lle braidd yn stiff, llychlyd a diflas. Mae sgyrsiau gyda Iestyn wastad yn profi’r gwrthwyneb.

Dwi’n siwr, o siarad gyda fo’n ddiweddar, taw eu colled nhw fydd o fudd i ni fel ffans ffilmiau Cymraeg a Chymreig, wrth iddo roi ei wybodaeth ar waith ar brosiectau personol. Dwi’n edrych mlaen yn arw i weld be wnaiff o nesa, ac i gyfrannu os galla i.

Felly, diolch am ddatblygu Archif sy’n rhan bwysig o warchod y ffilmiau, recordiau a fideo sydd mor bwysig i ni fel cenedl, ac Archif sydd wastad wedi bod â drws agored i rywun fel fi sydd â brwdfrydedd dros yr etifeddiaeth hwnnw.

Ymlaen!

“Dwi’n Dod o Rhyl” a’r ffatri memyn

Dwi’n credu ei bod yn saff dweud bod “Dwi’n dod o Rhyl” wedi sefydlu ei hun fel memyn (meme) go-iawn rwan.

Neithiwr recordiodd MC Mabon a David Wrench ail-gymysgiad ohono ar ffurf  tiwn bach yn boncyrs fel rhan o brosiect Unnos C2.

Ma’r fideo gwreiddiol gan ‘iologwynj’ wedi cael ei dynnu oddi ar YouTube, ailment ond mae na lwyth o fideos eraill wedi ei efelychu.

Ma wedi cael ei ddynwared yn y rhyng-gol:

Wedi ei ail-gymysgu ar gyfer llefydd eraill (Sarn yn yr achos yma):

http://www.youtube.com/watch?v=uESjBWUOWQA

Ei ddweud gan ddeinosor:

http://www.youtube.com/watch?v=EfIJtvwRvOE

Ma na un dudalen Facebook (584 ffan) ac un grwp Facebook (586 aelod).

A rwan mae o di cyrraedd tonfeddi Radio Cymru. A hyn heb unrhyw help gan neb ond rhwydweithiau ar y we. Gwych de. Darn bach o greadigrwydd sydd wedi ymledu yn bell, resuscitator gan ddylanwadu eraill i adeiladu ar y creadigrwydd gwreiddiol.

Ma memes/memynnau Cymraeg yn hollbwysig. Nid lleoleiddiad Twitter sydd am achub yr iaith ond LOLs, a digon ohono.

Efallai nad oes llawer o ffatrioedd menyn ar ôl yng Nghymru, ond falle dylen ni drio sefydlu ambell ffatri memyn.

Siart fideos feiral Cymraeg 2010 gan fideobobdydd

Cofnod blog wedi ei groes-bostio o fideobobdydd.

Ryan: feiral fideo hen ysgol
Ryan: fideo feiral hen ysgol

Wel, sickness efallai bod ‘feiral’ yn pwsho hi braidd, ond mae’n siart o’r fideos sydd wedi cael y mwyaf o ymwelwyr ar fideobobdydd beth bynnag.

Falla bod o’n rhoi syniad go dda o ba fideos Cymraeg sydd wedi bod yn boblogaidd dros y 6 mis diwethaf ers i fideobobdydd fod yn mynd.

Oedd na rai da chi’n meddwl ddylia fod wedi cael mwy o sylw ond aeth yn angof?

Pa rai oedd eich ffefrynnau chi?

Da chi’n meddwl bod hwn adlewyrchiad da o fideos Cymraeg ar-lein?

Gadwch i fi wybod yn y sylwadau…

Yr 20 Uchaf am 2010

  1. Stori Branwen…wedi ei animeiddio gyda Lego
  2. “Y Llinell” ffilm parkour gan Gwion James a Jacob Prytherch
  3. “Cilmeri” gan Gerallt Lloyd Owen
  4. ContEnders – Y Cwilt
  5. “Pobol Y Cwm Audition Video” Dan Rhys
  6. Meic Stevens a Cate Le Bon – Bibopalwla
  7. “Stwffiwch y Dolig, ddim y twrci” gan SFA
  8. Huw yn “clocsio”
  9. “Eisteddfod (Ymerodraeth Carafan)” Catrin Dafydd yn Stomp 2010
  10. Clip anhygoel. John Peel yn cyflwyno Anrhefn, Y Cyrff a Datblygu a Raglen “The Tube” 1986
  11. Clasur comedi Nadolig: Gritto’r Hewl i Fethlehem
  12. TelisCymraeg.com
  13. Y C’mon Midffild Montage o ffycd
  14. “Eira” gan Gorky’s Zygotic Mynci
  15. Babi’n chwerthin llond ei fol
  16. Super Furry Animal a Chriw Pethau Bychain – “(Nid) Hon yw’r gân sy’n mynd i achub yr iaith”
  17. Chink yn Fic Penygroes
  18. “Gwlad ar fy Nghefn” gan Klaus Kinski
  19. “ADHD” gan Crash.Disco!
  20. Cofio “Now a Ned”, wel dyma 25 pennod ohono

Felly be ma hwn yn ddweud am fideos Cymraeg ar-lein?

Wel, da ni’n lecio comedi, cerddoriaeth, barddoniaeth a phetha c?l sydd wedi cael eu gwneud gan bobol ifanc neu unrhyw gyfuniadau o’r uchod. Dim syndod fan’na ta – heblaw am y barddoniaeth wrth gwrs, ond da ni’n od fel’na dydan.

Beth sydd ddim yna? Blogiau fideo, sdwff celfyddydol,  chwaraeon, petha mwy corfforaethol, ffilmiau dogfen, fideos ymgyrchu. Dydyn nhw jest ddim y math o bethau sy’n cael eu retweetio efallai, neu jest yn fwy niche o ran eu cynulleidfa. Yn sicr dydan ni ddim yn rhy wahanol i weddill y we o ran be sy’n denu gwylwyr.

O ran be sy’n gyrru traffig y fideos yma, does dim dwywaith na Twitter ydi’r brenin gan yrru 49% o draffig y wefan yn 2010. Mae Facebook yn ail, ond yn bell tu ôl gyda 18%;  chwiliadau Google am y wefan wedyn gyda 14% o’r traffig; a 9% yn dod yn uniongyrchol i’r dudalen hafan. Ond dwi’n amau bod lot o bobol yn gwylio’r fideos o fewn Facebook beth bynnag, felly fyddai’r ystadegau ddim yn dangos yma.

Y wers: os da chi’n blogio, gwneud fideos, neu wneud unrhywbeth sydd yn cynhyrchu ffrwd RSS, yna anfonwch nhw drwodd i Twitter a Facebook!

Mae Twitterfeed yn gwneud hyn i chi’n otomatig, ac am ddim – defnyddiwch o!

Pam bod yr un Lego mor boblogaidd?

Pam bod rhif 1 a 2 wedi cael cymaint o wylwyr? Dwi’n meddwl ei fod o i wneud efo rhwydweithiau’r bobol sydd wedi cynhyrchu’r fideos. Dwi’n eitha siwr bod Y Llinell a fideo Branwen/Lego wedi cael eu hyrwyddo lot ar Facebook. Ma na rhywbeth self-perpetuating hefyd am fod yn boblogaidd – y rheol Pareto neu 80/20 a’r predictable imbalance mewn dosbarthiad gweithgaredd, sef bod 80% o effeithiau yn dod gan 20% o achosion yr effeithiau hynny. Mae’r ffaith bod y fideos yna wedi ymddangos yn y rhestrau 5 uchaf misol wedi dod a rhagor o wylwyr, gan ailadrodd y gylchdro. Yn yr achos hwn mae’r ddwy fideo hyn yn cyfri am bron i 20% o argraffiadau tudalen fideobobydd am 2010.

A be nesa i fideobobdydd?

Y bwriad oedd cyflwyno, archifo, a hyrwyddo fideos Cymraeg a dwi’n credu ei fod wedi chwarae rhan fach mewn gwneud hynny. Gyda 11,191 o ymweliadau tudalen gan 2,973 o bobol wahanol, mae’n gwneud job weddol o hynny dwi’n meddwl. Bydda i’n cario mlaen i drio cael un bob dydd am y dyfodol agos, cyn belled nad ydi o’n troi mewn i ormod o waith, a dio ddim ar hyn o bryd.

O’n i hefyd isio creu ffordd o allu gwylio sianeli o fideos Cymraeg yn y dyfodol – mae categoriau a tags fideobobdydd yn galluogi hynna i ddigwydd gan y gallwch chi ddefnyddio RSS ar gyfer categoriau neu dagiau ar gyfer tynnu fideos drwodd i wefannau eraill. Mae o hefyd yn ffordd o wella tagio rhai fideos sydd heb eu tagio o gwbl.

Byddai’n dda gallu torfoli (crowd-source) peth o’r gwaith curadu rywsut, achos mae beth sy’n ymddangos ar fideobobdydd yn bownd o gael ei liwio gan fy nhâst personol i mewn fideos. Byddai’n wych gallu ffeindio ffordd syml iawn o adael i’r darllenwyr ychwanegu fideos gwahanol at y ffrwd.

Os oes unrhywun isio helpu, yna gadwch i fi wybod.