Elite (1984, BBC Micro) a dylanwad Thatcher ar y gêm

Darllen yr erthygl hwn >> Backroom Boys by Francis Spufford | Books | The Guardian << sydd yn extract o’r llyfr am hanes datblygu’r clasur o gêm cyfrifiadur Elite (1984), order a dod ar draws y paragraff diddorol yma:

cialis sans-serif; font-size: 14px; font-style: normal; line-height: 18px; background-color: #ffffff;”>One thing you couldn’t do was cooperate with anyone. All the other apparent actors in the game universe were ingenious mathematical routines in paper-thin disguise. You were on your own with your enemies and the market prices. In this, seek of course, the game was beautifully in sync with the times. Margaret Thatcher had recently declared that there was no such thing as society; in the game universe, that was literally true. Bell and Braben were creating a cosmos of pure competition. It was a kind of reflection, not of the reality of 1980s Britain, but of the defiant thought in the heads of those who were benefiting from Thatcherism, who wanted to believe that behaviour not much more complex than the choices you got in the game was enough to satisfy the country’s needs. Bell and Braben got a lot of the inspiration for the game’s universe from the “libertarian” American sci-fi they were reading, but at that time they also shared a broadly Conservative outlook. If Thatcher represented clear ideas with hard edges, they were on her side. Soon after they signed up with Acornsoft, she won the 1983 election.

Waw. Côd a gwleidyddiaeth yn codi ei ben eto. Ma’r defnydd o maths ar gyfer torri ffiniau gallu’r processor yn syfrdanol hefyd (a’n atgoffa fi pam o’n i’n raglennwr Turbo Pascal chydig yn hoples, a pham nad yw côd ar ei ffurf buraf yn addas i bawb).

Ond mae’n werth gosod y postscript ochr-yn-ochr hefyd:

Postscript: David Braben used the rewards of Elite to build himself a career in the games industry. He is a businessman with a development company of his own, just outside Cambridge. He worries about the euro and hopes to create games still bigger than Elite. At the moment, he’s working on a Wallace & Gromit game. Ian Bell lives quietly in the countryside with his girlfriend, a vet. He used the rewards of Elite to study aikido and get into the rave scene. He breeds pedigree Burmese cats and worries about American imperialism and developing-world debt. He does a little exploratory coding now and again, but he doesn’t play modern computer games: too obvious, too violent. He doesn’t read fiction much, either. Like the intelligent horses at the end of Gulliver’s Travels, he thinks it only says “the thing which is not”. He doesn’t much like the world he helped to create.

Felly aeth un at ddiwylliant rave a bywyd yn ymwrthod ag ideoleg yr 80au a’r llall i fyw y freuddwyd Thatcheraidd. Diddorol de.

Mae côd, algorithmau a data yn wleidyddol.

Sdim amser gen i i sgwennu cofnod lawn am hyn ond mae’n rhywbeth dwi’n meddwl dipyn amdano ar hyn o bryd sef y berthynas rhwng côd a grym.

Yr erthygl ysgogodd fi i sgwennu’r gofnod oedd yr un isod gan Evgeny Morozov yn y Süddeutsche Zeitung

GhostsintheMachines«DerFeuilletonist.

Dyma ddyfyniad:

To attack technology today is not to attack the Enlightenment – no, allergy it is to attack neoliberalism itself.

ac

Today, visit a robust critique of technology should, thumb first of all, be a critique of neoliberalism itself. Such recalibration might not do much by itself but it would at least force the apologists of perpetual digital disruption to come up with explicit arguments as to why public health or public education are no longer worth fighting for. And, with some luck and provocation, the public – or whatever is left of it – might not like what it hears.

Mae’r erthygl yn sôn nid am bolareiddio tech = drwg / tech = iwtopia ond i sicrhau ein bod yn feirniadol o beth sydd yn yn digwydd drwy côd, algorithmau a data (ma’r term ‘big data’ yn sdiwpid a dwi’n gwrthod ei ddefnyddio – jest mwy o ddata dio!).

Felly dyma ddyfyniad bach arall am y berthynas rhwng data, côd a gwleidydiaeth ar flog Eaves.ca:

A little over a year ago I said that contrary to what many open data advocates believe, open data will make data political – e.g. that open data wasn’t going to depoliticize public policy and make it purely evidenced base, quite the opposite, it will make the choices around what data we collect more contested (Canadians, think long form census). The same is also – and already – true of the algorithms, the code, that will increasingly regulate our lives. Code is political.

Hwn ydi’r sdwff anweledig sydd yn gynyddol reoli’n bywydau ac y byddwn ni’n sylweddoli ar ryw bwynt fel gyda algorithms ffiltro Google, YouTube, a Facebook (ac yn y pen draw, Twitter hefyd) eu bod nhw’n effeithio ar ieithoedd llai a lleiafrifol mewn ffordd andwyol hefyd.

Be felly sy’n cael ei wneud i gadw trefn ar gôd, a phwy sy’n rheoli hynny. Ymlaen â ni at y cysyniad o “Algorithmic regulation” gan Tim O’Reilly…

http://beyondtransparency.org/chapters/part-5/open-data-and-algorithmic-regulation/

 Search engines regulate the results and advertisements they serve up to us, doing their best to give us more of what we want to see.

O'RLY?
O’RLY?

Ydach chi wir yn credu bod Google yn gwneud eu gorau i roi rhagor o ddeunydd Cymraeg yn weledol i bobol sydd eisiau deunydd Cymraeg? Sgersli.

Mae Tim O’Reilly’n gofyn am fwy o “algortithmic regulation” ar lywodraeth drwy ddefnydd data, ond pan mae algorithmau’n creu “market failure” ieithyddol (.DOC)- rhaid i ni fod yn ofalus iawn bod llais ganddon ni yn yr algorithmau sy’n dod yn rhan (anweledig) o’n bywydau yn yr un ffordd ag oedd angen llais a safle blaenllaw arnom ni yn y system ddarlledu teledu a radio.

Pwy sy’n rheoleiddio’r algorithmau? Sut maen nhw’n trin ieithoeddd? Ar gyfer mantais pwy? Sut mae systemau rheoleiddio’n effeithio ar leiafrifoedd ieithyddol a’r di-rym?

Ma rhain yn gwestiynau pwysig a brys dwi’n meddwl. Amser i ni gymryd gwleidyddiaeth côd o ddifri?

Anghyfartaledd newyddion Cymraeg a Saesneg BBC Cymru

Sbotiwch y gwahaniaeth:

Screen Shot 2013-10-18 at 10.08.38Screen Shot 2013-10-18 at 10.06.46

Na, hepatitis nid bod stori Andrew RT Davies ddim ar gael ar dudalennau BBC Wales News (sydd yn drawiadol) ond bod dim botymau rhannu/argraffu/trydar ar y tudalennau Cymraeg.

Dylen ni fod yn gwneud hi’n *haws* rhannu a dosbarthu deunydd Cymraeg ar y we, nid anoddach. Efallai ei fod yn swnio’n fychan, ond mae’n symptom o’r ffordd mae’r elfennau Cymraeg yn cael eu trin yn eilradd yng ngweithdrefnau rollout technoleg yn y BBC. Rydan ni gyd wedi arfer gweld dyluniad a diwyg tudalennau newyddion BBC yn Gymraeg yn cymryd misoedd os nad mwy i gael eu diweddaru i’r un safon a’r rhai Saesneg ar BBC Cymru. Roedd y prif dudalennau Newyddion Cymraeg tan yn ddiweddar yn dal yn defnyddio hen template tra bod BBC Wales yn cael yr un newydd. Roedd tudalennau Chwaraeon Cymraeg BBC (gorffwysed mewn hedd) wastad gam y tu ôl o’i gymharu a’r fersiwn Saesneg. Faint o amser gymrodd hi i flog Vaughan Roderick gael upgrade?

Nid hollti blew yw hyn, mae safon dylunio a nodweddion UX ychwanegol yn cael effaith uniongyrchol ar ddewisiadau darllenwyr newyddion. Mae’n rhaid i ddarllenwyr Cymraeg wneud rhyw gyfaddawd wrth ddewis darllen yr un newyddion yn Gymraeg neu Saesneg. Mae’r math hyn o gyfaddawd yn bownd o erydu niferoedd darllenwyr. Yn yr achos uchod mae’r cynnwys yn unigryw yn y Gymraeg, sy’n glodwiw, ond nid dyma’r norm. Os ydi Rhodri TD o ddifri am gynyddu niferoedd sy’n ymweld â thudalennau Cymraeg y BBC yna rhaid taclo problemau strwythurol fel hyn head on. Ond does dim awgrym y bydd hyn yn digwydd. Tystiolaeth i gefnogi neges Andrew RT Davies ie ddim?