Pam bod Basgwyr yn trydar ddwywaith cymaint â’r Cymry?

Screen Shot 2013-06-29 at 22.25.07

Edrychwch ar y llun yma –>

Mae yna bron yr un faint o gyfrifon Twitter sydd yn yn defnyddio Cymraeg a Basgeg ac sydd wedi cael eu codi gan web crawler Indigenous Tweets. Mae cyfrifon sy’n defnyddio Cymraeg tua 82% o gyfanswm y rhai Basgeg.

Tra o ran trydariadau sydd yn Gymraeg neu Fasgeg mae dwywaith cymaint o drydariadau Basgeg na rhai Cymraeg. Mae hwn yn wahaniaeth enfawr sydd yn bownd o gael effaith ar yr ecosystem ieithyddol ar rwydwaith gymdeithasol, bronchi ac efallai’n gallu dangos pethau diddorol i ni o ran y diwylliant o ddefnydd y ddwy iaith mewn parthau gwahanol arlein, sildenafil ac efallai oddiarlein hefyd.

Pa resymau allai fod am hyn te? Dyma rai syniadau:

  1. mae’r algorithm adnabod iaith yn gweithio’n well ar gyfer Basgeg, ac felly’n adnabod mwy o negeseuon.
  2. mae trydarwyr Basgeg yn llawer prysurach ar rwydweithiau cymdeithasol na rhai Cymraeg
  3. mae trydarwyr Basgeg yn llawer mwy bodlon defnyddio Basgeg na Sbaeneg, tra bod trydarwyr Cymraeg yn fwy dwyieithog eu trydar.
  4. mae llawer mwy o bots Basgeg yn pwmpio allan trydariadau awtomatig
  5. mae llawer mwy o aildrydar o negeseuon Basgeg nac o negeseuon Cymraeg
  6. mae llawer mwy o gynhyrchwyr cynnwys dwysedd ac amledd uchel yn yr iaith Basgeg (e.e. gwasanaethau newyddion)
  7. mae yna wahaniaethau diwylliannol yn y ffordd rydyn ni Gymry’n defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol o’u cymharu â’r Basgwyr. e.e. mae llai o ddiwylliant o rannu gan siaradwyr Cymraeg, o bosib. Ydi Basgwyr yn fwy ‘digidol’ na ni?
  8. allwch chi feddwl am ragor?

Mae’r erthygl yma gan Jackson and Wang (2012) yn darganfod bod gwahaniaethau rhwng diwylliannau rhwydweithiau cymdeithasol UDA a China, ond faint o wahaniaethau sydd yna rhwng ardaleodd a gwledydd yn Ewrop? Ma’r boi yma’n credu bod gwahaniaethau rhwng sut mae’r Iseldiroedd a Gwlad Belg yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ond dydi o ddim yn cynnig unrhyw dystiolaeth. Ar flog arall mae yna drafodaeth sydd ychydig yn fwy synhwyrol gan gyfeirio at unigolyddiaeth / cyfunoliaeth (collectivism) ac effaith lefelau incwm ar ddefnydd technoleg sydd efallai yn fwy perthnasol.

Oes yna unrhyw beth i ddweud dros ddosbarthiad daearyddol siaradwyr, a’r effaith mae bywyd gwledig vs trefol yn ei gael? Mae ystadegau Ofcom yn nodi bod gan ardaloedd gwledig yr un mynediad at fand llydan a threfol, ond efallai bod y defnydd yn wahanol?

Mae’r blog hwn gan Juliano Andrade Spyer am ymateb pobol yn yr ardal mae’n gweithio i’r protestiadau yn Brasil yn ddiweddar yn cyffwrdd ar y gwahaniaeth diwylliannol yma:

There are differences between large urbanized areas where the rallies are happening and small places such as here (Gol: mae wedi ei leoli 70km o’r brifddinas Brasilia) regarding the use of Facebook. There, Facebook is a channel used for keeping in touch with the people one does not necessarily see every day. Facebook tends to become a gathering place where we are close to everyone, independently of their location in different neighborhoods or other places. The purpose here of using Facebook is not “keeping in touch” because that is really not necessary as friends and everyone else are already physically near to each other every day. What is important, then, is not talking about public things that everyone can know, but to share private information that not everyone knows about. Demonstrations are not interesting for those living here because they relate to institutional politics and also because they are already public, everyone knows about it, and something everyone knows about is not worth talking about.

(mwy o gofnodion blog gan ymchwilwyr UCL ar y thema  ‘Dylanwad Gwahaniaethau Diwylliannol ar Rwydweithio Cymdeithasol)

Ydi closrwydd llawer o gymunedau lle mae’r Gymaeg yn gryf yn un o’r ffactorau sydd yn cadw’r Gymraeg yn iaith fyw ar un llaw, ac yn ei gwneud yn iaith lai byw ar y we ar y llaw arall?

Be chi’n feddwl? Faswn i wrth fy modd cael trafodaeth ar hyn. Gadwch sylw…

[Gol: nes i grybwyll ecosystem ieithyddol fyny fan’na heb rili feddwl amdano, ond dyma erthygl gan bobol sydd wedi: ‘Language Ecology‘. Skutnabb-Kangas, T., a Phillipson, R. (1997)]

2013: blwyddyn trafod ieithoedd lleiafrifol arlein yng ngŵyl SXSW?

Rydw i, sale ar y cyd gyda Kevin Scannell (sefydlydd Indigenous Tweets) a Maite Goni (arbenigwraig addysg, healing ieithoedd a gwe 2.0 o Wlad y Basg), ophthalmologist wedi cynnig panel ar gyfer g?yl South by Southwest Interactive 2013. Teitl y panel yw “Social Media: A New Hope for Minority Languages?”.

 Mi fasen hi’n wych o beth pe gallen ni gael llais i ieithoedd bychain ar y we ar brif lwyfan rhyngwladol y diwydiant rhyngweithiol a chyfryngau digidol. Ond er mwyn gwneud hynny, rhaid i ni gael llu o bleidleisiau i’n panel ni, a chreu digon o s?n amdano iddyn nhw gymryd sylw ohono.
Gallwch chi helpu drwy gofrestru ar y wefan Panel Picker SXSW a rhoi bawd fyny wrth ein panel ni: http://panelpicker.sxsw.com/vote/3581
Mae croeso i chi roi sylw ar y dudalen hefyd, neu bydd jest rhannu’r ddolen drwy ebost neu rwydweithiau cymdeithasol yn help mawr. Mae ganddon ni tan 31 Awst i hel pleidleisiau. Bydd pob pleidlais yn cyfri!
Gobeithio eich bod chi’n meddwl ei fod yn syniad teilwng, a fasen ni’n croesawu unrhyw sylwadau. Diolch am eich amser!

There are approximately 6,000 languages spoken in the world; of these UNESCO believes that over half will disappear by the end of this century. Two thirds of the world’s languages are spoken by less than 20,000 people. Minority Languages are spoken all over the world, and the internet is becoming increasingly multilingual.

But do speakers of such minority languages actually use them on social media? What are the ways in which social media can benefit these languages? Can memes indicate language health? How do minority languages compete when scale and global reach is so much of a factor in social media’s appeal? And why use a minority language online when it’s just easier to communicate in English, Spanish or Mandarin?

This panel will try to unpick the relationship between social media and languages, from the perspective of developers, content producers and language technologists, and question whether online technologies are a boon or a disaster for minority languages.

http://panelpicker.sxsw.com/vote/3581